Neidio:
Arolwg Ordnans – asiantaeth mapio cenedlaethol Prydain Fawr
www.ordnancesurvey.co.uk/cymraeg/
Ein gwefan yn y Gymraeg.
www.ordnancesurvey.co.uk/nmonetwork
Mae gwefan yr Asiantaethau Mapio Cenedlaethol wedi'i chynllunio i alluogi Asiantaethau Mapio Cenedlaethol ledled y byd i rannu gwybodaeth, trafod materion sydd o ddiddordeb i'w gilydd a chael gwybod am yr holl newyddion diweddaraf. Mae'r wefan yn cynnwys gwybodaeth am CC:The Exchange Conference a gynhelir yn yr Arolwg Ordnans, 3 i 6 Gorffennaf 2005. Cyfarfod interim yw'r Exchange, ac fe'i cynhelir cyn y Gynhadledd nesaf yng Nghaergrawnt, â phwyslais ar rwydweithio a thrafodaethau o amgylch y bwrdd.
www.gps.gov.uk
Mae'r wefan hon yn targedu'n bennaf syrfewyr, geodeswyr a datblygwyr GIS proffesiynol. Gallwch chi hefyd edrych ar wybodaeth gyffredinol a thechnegol gan gynnwys defnyddio GPS, canllawiau i'r Grid Cenedlaethol a systemau cyfesur ym Mhrydain Fawr.
www.election-maps.co.uk
Mae'r wefan mapio unigryw hon yn cefnogi'r etholiadau sy'n digwydd yn y Deyrnas Unedig. Bydd y wefan yn gwneud eich bywyd chi'n haws os oes arnoch chi angen cynllunio ymgyrchoedd canfasio. Mae'r wefan hefyd ar eich cyfer chi os ydych chi:
www.ordnancesurvey.co.uk/mapzone
Mae'r Arolwg Ordnans wedi llunio'r wefan hon er mwyn gwneud i fapio ddod yn fyw ar gyfer plant, a hefyd i'w helpu â'u gwaith cartref. Mae'n brofiad mapio sy'n gwbl ryngweithiol, gydag animeiddiadau, gemau a chwisiau.