Neidio:
Arolwg Ordnans – asiantaeth mapio cenedlaethol Prydain Fawr
Darllenwch hwn yn ofalus os gwelwch yn dda. Trwy fynd i mewn i wefan yr Arolwg Ordnans ("y Wefan"), rydych yn cytuno i’r telerau isod. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â website@ordsvy.gov.uk. Diweddarwyd y Telerau hyn ddiwethaf ar 14 Ionawr 2000.
Yr Arolwg Ordnans sy'n berchen ar y Wefan hon ac sy’n ei gweithredu. Fel defnyddiwr, fe fyddwch yn gallu cael mynediad i ddeunydd ar y rhan fwyaf o'r Wefan heb fynd trwy broses gofrestru. Ni fydd ambell ran o’r Wefan ar gael ichi oni bai bod y cyfrinair perthnasol gennych. Nid oes unrhyw gyfyngiad amser penodol ar eich mynediad i'r Wefan na'ch defnydd ohoni yn ôl y telerau hyn. Fodd bynnag, ceidw’r Arolwg Ordnans yr hawl i’ch gwahardd neu i ddod â’ch hawl mynediad i ben ar unrhyw adeg. Gall ymarfer yr hawl hwn trwy rybudd neu heb rybudd. Os yn berthnasol, fe fyddwn yn eich rhybuddio trwy anfon neges i’ch cyfeiriad e-bost fel y cofnodwyd ef gan yr Arolwg Ordnans. Dan yr amgylchiadau hynny, ystyrir bod y rhybudd yn dod i rym dair awr ar ôl trosglwyddo neu bostio’r neges.
Mae’r holl ddeunyddiau ar y Wefan (y “Cynnwys”) yn perthyn i’r Arolwg Ordnans neu ei drwyddedwyr. Gallwch adfer neu arddangos cynnwys o’r Wefan ar sgrîn cyfrifiadur, argraffu tudalennau unigol ar bapur (ond nid eu llungopïo), a chadw tudalennau o’r fath ar ffurf electronig ar ddisg (ond nid ar unrhyw weinyddwr neu unrhyw ddyfais storio sy’n gysylltiedig â rhwydwaith) at eich defnydd personol eich hun. Rydym wedi ceisio sicrhau bod yr holl wybodaeth y byddwn yn ei darparu trwy’r Wefan hon yn gywir ar yr adeg y cafodd ei chynnwys. Darperir cynnwys y tudalennau hyn fel canllaw gwybodaeth yn unig, ac ni ddylid dibynnu arnynt i ddisodli eich ymchwil eich hun neu gyngor annibynnol. Ni fydd yr Arolwg Ordnans nac unrhyw un sy’n gweithredu ar ei ran yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw gamgymeriadau, hepgoriadau neu ddatganiadau camarweiniol (ond nid twyllodrus) ar y tudalennau hyn neu ar unrhyw wefan y mae'r tudalennau hyn yn cysylltu â hwy, gan gynnwys unrhyw nodwedd neu agwedd ar wefan neu dudalennau o’r fath, boed yr Arolwg Ordnans neu unrhyw sefydliad, cwmni neu unigolyn arall yn eu darparu.
Ni allwch atgynhyrchu, addasu na manteisio’n fasnachol ar unrhyw ran o'r Cynnwys ac eithrio yn y moddau a grybwyllwyd uchod. Yn anad dim, ond heb gyfyngu ar ddefnydd cyffredinol ar yr amodau a geir yn y frawddeg flaenorol, ni allwch wneud unrhyw beth o blith y canlynol heb ganiatâd ysgrifenedig o flaen llaw oddi wrth yr Arolwg Ordnans:
Mae gan yr adran Get-a-Map ei hamodau a’i thelerau ei hun yngly^n â defnydd, ac mae’r rhain yn wahanol i’r rhai uchod. Dylid cyfeirio ceisiadau i ailgyhoeddi neu ailddosbarthu Cynnwys i website@ordsvy.gov.uk
Fe all y Wefan gynnwys hysbysfyrddau, grwpiau trafod a mannau cyhoeddus eraill sy'n caniatáu ichi anfon adborth at yr Arolwg Ordnans ac sy’n caniatáu rhyngweithio rhwng defnyddwyr a’i gilydd (“Fforymau”). Er nad yw’r Arolwg Ordnans yn rheoli’r wybodaeth a geir yn y Fforymau (y “Negeseuon”), mae'n cadw'r hawl i ddileu, symud, neu olygu'r Negeseuon, (a bydd yn ymarfer yr hawl hon fel y gwêl yn dda yn ddirybudd) a byddwch yn ildio unrhyw hawliau moesol sydd gennych o ran y Negeseuon. Chi yn unig fydd yn gyfrifol am gynnwys eich Negeseuon. Rhaid ichi gydymffurfio ag unrhyw reolau y mae’r Arolwg Ordnans yn eu postio ar Fforwm.
Ni allwch wneud dim o'r canlynol:
Trwy gyflwyno negeseuon i unrhyw Fforwm, byddwch yn cytuno i ystyried yr Arolwg Ordnans yn ddi-fai a’i indemnio rhag pob hawliad, cost neu dreuliau (gan gynnwys costau cyfreithiol) sy’n codi o ganlyniad i unrhyw Neges sy’n cael ei bostio neu ei gyhoeddi gennych chi sy’n torri’r rheolau hyn. Trwy gyflwyno Negeseuon i unrhyw Fforymau, byddwch yn caniatáu i’r Arolwg Ordnans gael trwydded ddieithriad fytholbarhaus, yn rhydd o freindaliadau, i atgynhyrchu, addasu, dosbarthu ac isdrwyddedu’r Neges a sicrhau ei bod ar gael, yn gyflawn neu yn rhannol, ac wedi'i hargraffu neu ar ffurf electronig.
Mae hawlfraint ar unrhyw feddalwedd sydd ar gael i'w lwytho i lawr o'r Wefan ("Meddalwedd") yn perthyn i'r Arolwg Ordnans neu ei gyflenwyr. Bydd telerau unrhyw gytundeb trwydded sy’n gysylltiedig â'r Meddalwedd neu sy’n rhan ohono yn llywodraethu eich defnydd o'r Meddalwedd. Peidiwch ag arsefydlu na defnyddio unrhyw Feddalwedd oni bai eich bod yn cytuno â chytundeb trwydded o'r fath.
O bryd i'w gilydd, mae'n bosibl y bydd yr Arolwg Ordnans yn cynnig cyfle ichi addasu eich porwr i'ch galluogi i gyrchu gwasanaethau penodol y byddwch yn gwneud cais amdanynt, ynghyd â chymwysiadau eraill. Os felly, fe fydd blwch dialog yn codi ar eich sgrîn sy’n gofyn am eich awdurdodiad cyn bwrw ymlaen â'r addasiad. Trwy glicio'r botwm 'Cytuno' (neu debyg) yn y blwch dialog, fe fyddwch yn caniatàu i'r Arolwg Ordnans addasu eich porwr i'ch galluogi i weld y gwasanaeth ar eich sgrîn tra’ch bod yn gweithio ar gymwysiadau eraill. Mae'n bosibl y bydd y blwch dialog yn dangos hysbysiad 'risg uchel'. Y rheswm am hyn yw bod yr addasu yma'n ei gwneud yn dechnegol bosibl i'r Arolwg Ordnans ddefnyddio'r porwr at ddibenion eraill.
Mae'r Arolwg Ordnans yn eich gwarantu na fydd addasiad o'r fath yn cael ei ddefnyddio onid i edrych ar y gwasanaeth rydych yn ei geisio â chymwysiadau eraill ac (os ydych wedi clicio ar 'Cofiwch y penderfyniad yma') i edrych mewn ffordd debyg ar unrhyw wasanaeth arall y gallech ofyn i'r Arolwg Ordnans amdano yn y dyfodol.
Eich risg a'ch cyfrifoldeb chi fydd unrhyw drefniadau a wneir rhyngoch chi ac unrhyw drydydd parti a enwir ar y Wefan hon. Darperir y wefan ar sail "fel ag y mae", "pan fydd ar gael", ac nid yw'r Arolwg Ordnans yn gwarantu manwl-gywirdeb, amseroldeb, cyfanrwydd, perfformiad y wefan na dim o'i chynnwys, na’i ffitrwydd at ddiben penodol. Eithrir pob sicrwydd tybiedig o’r telerau hyn i’r graddau y gallant gael eu heithrio o fewn y gyfraith. Hefyd,
Ni fydd yr Arolwg Ordnans byth yn gwerthu gwybodaeth bersonol nac yn rhannu gwybodaeth bersonol â thrydydd parti nad ydynt yn gysylltiedig â'r Arolwg Ordnans. Yn yr Arolwg Ordnans, byddwn yn defnyddio’r wybodaeth a gasglwn i wasanaethu ein cwsmeriaid yn y dulliau canlynol:
Mae'r Arolwg Ordnans yn cadw'r hawl, fel y gwêl yn dda, i newid unrhyw ran o'r Wefan. Pan newidir y telerau hyn, fe fydd yr Arolwg Ordnans yn [rhoi gwybod ichi trwy anfon e-bost] neu yn cyhoeddi manylion y newidiadau hynny trwy eu cynnwys ar ddiwedd y Telerau hyn (gweler "Newidiadau i'r Telerau hyn"). Os byddwch yn defnyddio'r Wefan ac mae'r Arolwg Ordnans wedi rhoi gwybod ichi am y newidiadau, fe fyddwch yn cytuno i fod yn rhwym i'r newidiadau hynny. Os na fyddwch yn cytuno i fod yn rhwym i’r newidiadau hynny, ni ddylech ddefnyddio’r Wefan ymhellach ar ôl iddynt gael eu cyhoeddi ar ddiwedd y Telerau hyn neu ar ôl ichi [gael eich hysbysu yngly^n â] hwy.
Llywodraethir y Telerau hyn gan Gyfraith Lloegr, a byddant yn cael eu dehongli yng nghyd-destun y gyfraith honno, ac maent yn destun awdurdodaeth llysoedd Lloegr yn unig.
Ni fyddwn yn gyfrifol am unrhyw dor-cytundeb a achosir gan amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth ni.
*Adobe Acrobat PDF (fformat dogfen gludadwy). Cliciwch fotwm chwith eich llygoden ar y cyswllt ac fe fydd y PDF yn agor yn ffenestr eich porwr. Os ydych yn dymuno llwytho’r ddogfen PDF i lawr i’w hagor pan nad ydych ar-lein, cliciwch fotwm dde eich llygoden ar y cyswllt, a dewiswch ‘Save target as’ neu ‘Save link as’.