Neidio:

Arolwg Ordnans – asiantaeth mapio cenedlaethol Prydain Fawr

Help â’r wefan

Chwilio allweddair


Chwilio am leoliad ym Mhrydain Fawr

Nodwch unrhyw enw lle yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban, ar wahân i enwau siroedd, yn y blwch isod. Os hoffech chwilio am god post neu gyfeirnod grid, defnyddiwch Get-a-Map.


Hygyrchedd

Dewch i wybod am allweddau cyrchu a mesurau eraill rydym ni wedi’u rhoi ar waith i helpu defnyddwyr anabl i ddefnyddio’n gwefan.


Cadw ffeiliau delweddau (ffotograffau)

I gadw ffeil delwedd i ffolder megis My Pictures:

  1. De-gliciwch ar y ddelwedd.
  2. Dewiswch Save target as... (Internet Explorer) neu Save image as... (Firefox/Netscape), ewch i’r ffolder lle rydych chi am ei storio a chliciwch ar Save pan ddangosir cynnwys y ffolder hwn.

Geo ffeithiau

Llawer o bethau nad oeddech chi’n gwybod am ddaearyddiaeth Prydain Fawr!

 Mwy >>>


Geirfa

A i Y cynhwysfawr o dermau mapio’r Arolwg Ordnans.

  Mwy >>>


Cyfeirnodau grid cenedlaethol

Sut i ddarllen a rhoi cyfeirnod grid.

  Mwy >>>


Os nad ydych chi’n gallu dod o hyd i’r wybodaeth gywir, cysylltwch â ni


Atebion i ddeg o’ch prif gwestiynau

1. Beth yw System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) a sut mae’n defnyddio mapio digidol?

Mae System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) yn cynnwys data a meddalwedd map digidol i'w harddangos, eu trin a’u cyfuno â gwybodaeth arall. Mae’r ffeiliau GIS yn dweud llawer mwy wrthoch chi.

2. Sut ydw i’n rhoi cyfeirnod grid?

Rydym wedi paratoi cyflwyniad Macromedia Shockwave, sydd ar gael hefyd fel ffeil PDF sy’n dweud wrthych chi sut i wneud hyn.

3. Sut ydw i’n prynu mapiau papur ar-lein?

Gallwch chi brynu amrywiaeth eang o fapiau a chynnyrch perthnasol yn ddibynadwy ac yn ddiogel, o’r siop ar y wefan hon.

4. Ydw i’n cael copïo mapiau’r Arolwg Ordnans ar gyfer defnydd busnes?

Gan fod mapiau’r Arolwg Ordnans yn amodol ar Hawlfraint y Goron, bydd angen ichi dalu ffi trwydded bob blwyddyn. Fodd bynnag, rydym yn awyddus i sicrhau bod cymaint o bobl â phosib yn defnyddio ein mapiau, ac i’w gwneud yn haws ichi ddelio â ni. Am fwy o wybodaeth, gwelwch ein tudalennau Hawlfraint.

5. Beth yw OS MasterMap®

Map digidol swyddogol a manwl gywir o Brydain Fawr yw OS MasterMap, ac mae’n gysyniad hollol arloesol – system gyfeirio gyflawn ar gyfer data daearyddol Prydain.

6. Ble galla’ i gael hen fapiau?

Rydym yn gweithredu gwasanaeth ymholiadau mapio hanesyddol a fydd yn eich helpu i ddod o hyd i’r map cywir o’n harchif o dros 1.5 miliwn o fapiau yn dyddio o ganol y 1800au hyd 1995, ac yn cwmpasu Cymru, yr Alban a Lloegr.

7. Ble galla’ i ddod i wybod mwy am y System leoli fyd-eang (GPS)?

Rydym yn gweithredu gwefan ar ran Rhwydwaith Cenedlaethol GPS, lle gallwch chi ddod i wybod mwy amdano, a lawrlwytho data GPS amser real yn rhad ac am ddim, os ydych chi’n cofrestru.

8. Ble mae’r stociwr agosaf ata’ i?

Defnyddiwch ein lleolydd ar-lein i ddod o hyd i'r stociwr agosaf i'ch tref neu’ch pentref chi.

9. Ble galla’ i brynu awyrluniau?

Mae awyrluniau ar gael o siopau Mapping and Data Centres

10. Ydych chi’n cynnig rhestr o symbolau map?

Mae rhestr o symbolau a ddefnyddir ar fapiau Landranger a mapiau Explorer ar gael ar ein tudalen Deall Mapio.

Brig y dudalen