Neidio:

Arolwg Ordnans – asiantaeth mapio cenedlaethol Prydain Fawr

Website accessibility features

Hygyrchedd

Mae’r Arolwg Ordnans wedi ymrwymo i sicrhau bod y wefan hon yn hygyrch i bawb, waeth pa lwyfan neu borwr a ddefnyddir. Fodd bynnag, os cewch anhawster wrth gyrchu unrhyw wybodaeth sydd ar y wefan hon, mae croeso ichi gysylltu â ni.

Porwyr sy’n ei Chynnal

Dyluniwyd ac adeiladwyd y wefan hon i arddangos yn gywir ym mhob un o’r prif borwyr cyfredol. Defnyddiwyd Taflenni Arddull Rhaeadrol (CSS) ar gyfer gosodiad gweledol wrth ei dylunio a’i hadeiladu sy’n sicrhau y gellir mynd at gynnwys pob tudalen hyd yn oed os nad yw porwr y defnyddiwr yn cynnal CSS.

Cydraniad Sgrîn

Dyluniwyd y wefan hon er mwyn defnyddio hyd yr eithaf cydraniadau sgrîn sy’n mesur 800 picsel wrth 600 picsel (800 x 600) neu fwy. Mae’n bosibl na fydd cydraniadau llai na hyn, er eu bod yn parhau i ateb y diben, yn arddangos yn ôl y disgwyl.

Dogfennau

Cyflenwir cymaint o wybodaeth â phosibl yn y dudalen we ei hunan.

Lle na fydd hyn yn bosibl, cyflwynir y wybodaeth mewn nifer o fformatau ffeil, gan gynnwys: Fformat Dogfen Gludadwy Adobe (PDF), Microsoft Word, Microsoft Excel, Fformat Testun Cyfoethog (RTF) a thestun plaen.

PDF

Meddalwedd rhad ac am ddim yw Adobe® Acrobat® Reader sy’n caniatáu ichi weld ac argraffu ffeiliau PDF. Gallwch lawrlwytho Acrobat Reader yma.

Allweddi mynediad

Llwybrau byr bysellfwrdd un nod yw allweddi mynediad. Maen nhw’n darparu modd amgen o welywio i dudalennau neu nodweddion pwysig neu’r rhai sy’n cael eu cyrchu’n aml.

Dibynna lefel y gefnogaeth i allweddi mynediad yn llwyr ar y porwr, y fersiwn a’r llwyfan sy’n cael eu defnyddio. Er mwyn darganfod a yw’ch porwr yn cefnogi’r nodwedd allweddi mynediad, edrychwch ar dudalen gymorth eich porwr.

Yn gyffredinol, gellir rhoi allweddi mynediad ar waith trwy:

·     Windows
1.      Pwyso a dal allwedd "ALT" 
2.      Pwyso’r allwedd mynediad ofynnol
3.      Pwyso allwedd "ENTER" (Internet Explorer)
·
       Macintosh
1.      Pwyso a dal allwedd "CtrL" 
2.      Pwyso’r allwedd mynediad ofynnol

Defnyddiwyd Safon allweddi mynediad llywodraethy DU, lle bo’n berthnasol, ac mae rhestr lawn o’r rhai a ddefnyddir ar y wefan hon ar gael isod.

·     Allwedd mynediad  4 - Chwiliad safle
·     Allwedd mynediad  a - Prif gynnwys
·     Allwedd mynediad  b - Gwelyw cynradd
·     Allwedd mynediad  c - Gwelyw eilaidd
·     Allwedd mynediad  d - Gwelyw atodol

 

·     Allwedd mynediad s - Hepgor gwelyw cynradd
·     Allwedd mynediad t - Hepgor gwelyw eilaidd
·     Allwedd mynediad u - Hepgor gwelyw atodol

 

·     Allwedd mynediad v - Brig y dudalen
·     Allwedd mynediad 1 - Cartref
·     Allwedd mynediad e - Eich busnes
·     Allwedd mynediad f - Hamdden
·     Allwedd mynediad g - Amdanom ni

 

·     Allwedd mynediad 6 - Cymorth
·     Allwedd mynediad z - Cysylltwch â ni
·     Allwedd mynediad 3 - Map safle
·     Allwedd mynediad 8 - Cyfraith a phreifatrwydd

Newid maint y testun

Adeiladwyd y wefan gan ddefnyddio meintiau ffont cymharol, sy’n golygu y gellir newid graddfa’r ffont yn y porwr. Darllenwch dudalen gymorth eich porwr i gael gwybodaeth ar sut i gyflawni hyn.

Delweddau

Mae’r holl ddelweddau sy’n cael eu defnyddio yn y wefan hon yn cynnwys priodoleddau “alt” disgrifiadol. Defnyddir priodoledd “alt” gwag lle mae delweddau’n cael eu defnyddio at ddibenion gosodiad.

Ffurflenni

Mae’r holl ffurflenni a’u meysydd wedi’u labelu a’u trefnu’n grwpiau rhesymegol lle bo hynny’n bosibl.

Fframiau

Lle defnyddir fframiau mewnol (Iframes), oherwydd gofynion technegol, fe’i labelir yn glir er mwyn sicrhau ei bod mor rhwydd â phosibl i’w cyrchu.

Sgriptio

Mae’r wefan hon yn defnyddio sgriptio (JavaScript). Fodd bynnag, mae’n dal i fod yn bosibl cyrchu’r holl gynnwys hyd yn oed os nad yw’ch porwr yn cynnal sgriptio neu os yw wedi’i analluogi arno.

Cysylltau

Oni bai y dywedir yn wahanol, bydd yr holl gysylltau’n agor yn yr un ffenestr porwr. Pe dymunech agor cyswllt mewn ffenestr porwr newydd, yna daliwch allwedd “SHIFT” i lawr tra’n rhoi’r cyswllt gofynnol ar waith. Pan geir cyswllt â gwefan allanol, ni fydd yr Arolwg Ordnans yn atebol am gynnwys y safle honno.

Brig y dudalen