Neidio:

Arolwg Ordnans – asiantaeth mapio cenedlaethol Prydain Fawr

Datganiad i'r wasg

Hepgor:[bar cyfeiriad]

Romsey Road
SOUTHAMPTON
United Kingdom, SO16 4GU
http://www.ordnancesurvey.co.uk/media/

28 Ionawr 2008

Ewch amdani yn Sioe Awyr Agored yr Arolwg Ordnans 2008

Ewch amdani yn Sioe Awyr Agored yr Arolwg Ordnans 2008

Ewch amdani yn Sioe Awyr Agored yr Arolwg Ordnans 2008

Llwythwch i lawr i lawr / gwyliwch fersiwn eglur uchel o'r llun uchod (240kb)

Mae cymorth ar gyfer cadw lluniau ar gael o'n tudalen cymorth.

Mae Sioe Awyr Agored yr Arolwg Ordnans yn ôl ar gyfer 2008, a bydd yr asiantaeth mapio cenedlaethol a’i phartneriaid ar gael i arddangos y prif ddyfeisiau diweddaraf ym myd hamdden awyr agored.

Cynhelir y sioe rhwng 14 a 16 Mawrth 2008 yn NEC Birmingham, ac mae’n ymfalchïo mewn dewis helaeth o offer newydd, y cyfle i ddysgu sut i blymio, dringo wal iâ, dysgu sgiliau goroesi a chyfarfod â’r enwogion Bear Grylls a Kate Silverton, ymhlith llawer mwy.

Bydd yr Arolwg Ordnans yno i arddangos ‘explore’, sef y wefan gymunedol awyr agored sy’n annog pawb i lanlwytho’u hoff lwybrau ar-lein, rhannu ffotograffau a dechrau blogio â miloedd o unigolion eraill sydd o’r un feddylfryd.

Ochr yn ochr â’r ystod lawn o fapiau’r Arolwg Ordnans, bydd y gyfres newydd o OS Landranger Map – Active hefyd ar gael am bris gostyngol arbennig i ddeiliaid tocynnau. Dyma 25 teitl mwyaf poblogaidd mapiau OS Landranger mewn fformat ‘Active’ arbennig, sy’n golygu eu bod yn wydn, yn amlbwrpas ac yn wrthdywydd – yn ddelfrydol i’w defnyddio waeth beth yw'r tywydd.

Dywed Vanessa Lawrence CB, Prif Gyfarwyddwr a Phrif Weithredwr yr Arolwg Ordnans: “Trwy noddi’r Sioe Awyr Agored unwaith eto yn 2008, rwy’n gobeithio y gallwn ni barhau i ysbrydoli pobl i roi cynnig ar weithgareddau newydd a mwynhau gweithgareddau hamdden newydd, boed dan do neu yn yr awyr agored.

“Ar ddechrau blwyddyn newydd, mae llawer ohonom ni’n addunedu i ddod yn heini ac yn actif, ond gall yr adduned honno ddod yn fwyfwy anodd wrth i’r flwyddyn fynd heibio. Efallai mai ymweliad â Sioe Awyr Agored yr Arolwg Ordnans ym mis Mawrth eleni yw’r ysbrydoliaeth berffaith sydd ei hangen arnom ni i gyd i ddal ati.

“Mae’r sioe yn gyfle gwych i arddangos yr hyn sydd gennym ni a’n partneriaid i’w gynnig, o gynnyrch cyfeiriannu lloeren a’r wefan gymunedol gwe 2.0, ‘explore’, i’r ystod lawn o’n mapiau papur tra hoff.”

I’ch helpu i wneud yn fawr o’ch mapiau Arolwg Ordnans, bydd arbenigwyr awyr agored yn cynnig eu harbenigedd yn ystod gweithdai cyfeiriannu rhad ac am ddim yn Theatr yr Arolwg Ordnans. P'un a ydych chi'n ddechreuwr llwyr neu wedi hen arfer darllen map, bydd gennym ni rywbeth a fydd yn gweddu i'ch gallu.

Ar ben hyn, bydd cyfle ichi roi cynnig ar raffl wobrau i ennill gwyliau antur gwych yn y DU gyda theulu neu ffrindiau.

I gael mwy o wybodaeth am Sioe Awyr Agored yr Arolwg Ordnans 2008 ac i archebu tocynnau, ewch i www.theoutdoorsshow.co.uk

I roi cynnig ar ‘explore’ cyn y sioe, ewch i www.ordnancesurvey.co.uk/explore


Chief Press Officer - Scott Sinclair
Ebost: scott.sinclair@ordnancesurvey.co.uk
Ffôn: (+44) 023 8079 2265
Press Officer - Paula Beauchamp
Ebost: paul.beauchamp@ordnancesurvey.co.uk
Ffôn: (+44) 023 8079 2568

Ffacs swyddfa'r wasg: (+44) 023 8030 5295

Brig y dudalen