Neidio:
Arolwg Ordnans – asiantaeth mapio cenedlaethol Prydain Fawr
Hepgor:[bar cyfeiriad]
![]()
Romsey Road
SOUTHAMPTON
United Kingdom, SO16 4GU
http://www.ordnancesurvey.co.uk/media/
10 Gorffennaf 2007

Llwythwch i lawr i lawr / gwyliwch fersiwn eglur uchel o'r llun uchod (1.1 mb)
Mae cymorth ar gyfer cadw lluniau ar gael o'n tudalen cymorth.
Mae’r Arolwg Ordnans, asiantaeth fapio swyddogol y genedl, yn falch o ddechrau dwyn sylw at safleoedd Treftadaeth y Byd Prydain Fawr wrth ddathlu tirwedd odidog y wlad, boed yn adeiledig neu’n naturiol.
Mae yna 23 safle Treftadaeth y Byd ym Mhrydain Fawr, sy’n cynnwys Eglwys Gadeiriol Caergaint, Mur Hadrian a dinas Caeredin a bydd mapiau papur enwog a thra hoff yr Arolwg Ordnans bellach yn dwyn sylw at bob un o’r rhain.
Yn awr, bydd symbol twristiaeth newydd, glas ei liw, sy’n seiliedig ar logo Treftadaeth y Byd yn nodi lleoliad y nodweddion cenedlaethol neilltuol hyn ar Fapiau OS Landranger, Mapiau OS Explorer a Mapiau OS Travel – Road a Tour. Gobeithir y bydd dwyn sylw at safleoedd o bwys byd-eang - fel Côr y Cewri yn Swydd Wiltshire a Cheunant Ironbridge yn Swydd Amwythig – yn annog pobl i ymweld â nhw, a’u mwynhau.
Meddai David Wright, AS dros Telford a Chadeirydd Grŵp Hollbleidiol ar Safleoedd Treftadaeth y Byd, “Rwyf wrth fy modd fod yr Arolwg Ordnans wedi penderfynu codi proffil Safleoedd Treftadaeth y Byd ym Mhrydain Fawr trwy'u dynodi, nid yn unig ar y map ei hun, ond hefyd mewn man amlwg ar glawr y cyfresi o fapiau OS Landranger ac OS Explorer maen nhw’n eu cyhoeddi.”
Mae Treftadaeth y Byd yn rhan o Fudiad Addysgol, Gwyddonol a Diwylliannol y Cenhedloedd Unedig (UNESCO), sy’n ceisio annog adnabyddiaeth, amddiffyniad a chadwraeth treftadaeth ddiwylliannol a naturiol ledled y byd.
Meddai Peter ter Haar, Cyfarwyddwr Cynnyrch yr Arolwg Ordnans, “Mae hyn yn elfen ychwanegol ardderchog i’n cyfres tra hoff o fapiau papur y mae llawer yn eu hedmygu. Mae safleoedd treftadaeth ddiwylliannol a naturiol y wlad hon yn etifeddiaeth unigryw ac yn ysbrydoli’r miloedd o bobl sy’n ymweld â nhw bob blwyddyn. Drwy ddwyn sylw at y lleoedd hyn, rwy’n gobeithio y gallwn ni helpu cynulleidfa ehangach fyth i’w mwynhau.”
I gael mwy o wybodaeth, ac i weld ystod lawn cyfres mapiau papur yr Arolwg Ordnans, ewch i www.ordnancesurvey.co.uk/leisure
Sylwch
Mae yna 27 safle Treftadaeth y Byd yn y DU, gan gynnwys y rheiny sydd yn nhiriogaethau dibynnol y DU ledled y byd; fodd bynnag, fel asiantaeth mapio cenedlaethol Prydain Fawr, y safleoedd ym Mhrydain Fawr yn unig fydd yn ymddangos ar fapiau'r Arolwg Ordnans. Mae rhestr lawn y DU ar gael yn www.ukworldheritage.org.uk
Mae Ordnance Survey, symbol yr OS, Explorer, Landranger ac OS yn nodau masnach cofrestredig yr Arolwg Ordnans.
Ffacs swyddfa'r wasg: (+44) 023 8030 5295