Neidio:

Arolwg Ordnans – asiantaeth mapio cenedlaethol Prydain Fawr

Datganiad i'r wasg

Hepgor:[bar cyfeiriad]

Romsey Road
SOUTHAMPTON
United Kingdom, SO16 4GU
http://www.ordnancesurvey.co.uk/media/

07 Chwefror 2007

Mae’r Arolwg Ordnans yn eich gwahodd i’r awyr agored, dan do

Mae Sioe Awyr Agored yr Arolwg Ordnans eleni yn argoeli i fod y gorau hyd yma. Mae gan yr Arolwg Ordnans nifer o syniadau ffres a chyffrous i’ch annog i fynd allan a mwynhau tirwedd odidog y wlad.

Wrth gwrs, bydd yno’r holl bethau rydych erbyn hyn yn eu disgwyl oddi wrth arddangoswyr mwyaf a gorau'r DU o ran popeth sy'n ymwneud â'r awyr agored. Bydd dewis helaeth iawn o offer newydd ar gael a fydd wrth fodd pobl broffesiynol a dechreuwyr fel ei gilydd, yn ogystal â chyngor arbenigol a siaradwyr gwadd enwog.

Eleni, cewch gyfle hefyd i roi cynnig ar fordhwylio a hwylio dingi, yn ogystal â’r gweithgareddau arferol, sef plymio, canŵio, beicio mynydd a dringo.

Fel y prif noddwr, ac fel asiantaeth fapio’r wlad, mae'r Arolwg Ordnans wrth galon fforio a hamdden awyr agored ym Mhrydain Fawr. Bydd staff allweddol ar gael yn ystod tri diwrnod y sioe i gynnig cyngor arbenigol, er mwyn sicrhau na fyddwch chi’n mynd ar goll pan fyddwch chi allan yn yr awyr agored. Bydd yr Arolwg Ordnans hefyd yn cynnig cyfle ichi ennill gwobrau ysblennydd yn Raffl Wobrau’r Awyr Agored.

Bydd yr Arolwg Ordnans hefyd yn arddangos ei wasanaethau ar-lein newydd. Y gorau o’r rhain yw cynlluniwr llwybrau rhyngweithiol. Mae’n eich galluogi i ddewis llwybrau yn ôl eu hyd a’u haddasrwydd gan ystyried meini prawf ar gyfer pethau megis gwylio adar, beicio, reidio ceffylau a defnyddio cadair olwyn. Byddwch yn gallu darllen yr hyn mae pobl eraill wedi’i ysgrifennu am y llwybr rydych wedi’i ddewis. Wedi i chi ei gwblhau, gallwch lwytho’ch sylwadau a’ch lluniau eich hunan i fforwyr y dyfodol eu mwynhau. Datblygwyd y fenter gan ystyried sylwadau grwpiau cerdded, a bydd yn cefnogi cymuned gwe o bobl sy’n frwd dros yr awyr agored.

Bydd Theatr Yr Arolwg Ordnans yn cynnig ystod o ddarlithoedd gan siaradwyr gwadd ynglŷn â phopeth sy'n ymwneud â chyfeiriannu. Mae’n siŵr y bydd yna rywbeth a fydd o ddiddordeb i bawb, o’r rheiny sy’n cymryd eu camau cyntaf i’r awyr agored i ddringwyr a chrwydrwyr sydd wedi hen arfer.

Bydd y sioe yn gyfle i weld yr amrediad diweddaraf o Fapiau OS Explorer, sydd bellach wedi’u gorchuddio’n arbennig i sicrhau eu bod yn cadw’n sych pan fo tywydd Prydain Fawr ar ei waethaf. Mae holl Fapiau OS Explorer yr Arolwg Ordnans sydd â gorchudd oren – 403 ohonynt – ar gael i’w harchebu mewn fersiynau gwrthdywydd, o’r enw OS Explorer Map – Active. Maent hefyd yn caniatáu ichi amlygu eich hoff lwybrau ar arwyneb y gellir ysgrifennu arno a’i sychu’n lân.

Gall ymwelwyr â stondin yr Arolwg Ordnans – OU170 yn Neuadd 1 – hefyd archebu mapiau gyda’u dewis safle yn y canol, trwy wasanaeth OS Select sy’n dod yn fwyfwy poblogaidd. Gallwch ddarganfod sut mae technoleg ddigidol yn helpu i greu mapiau maint llawn, graddfa lawn, â’u canol unrhyw le ym Mhrydain Fawr, er enghraifft eich tŷ, eich bwthyn gwyliau neu’ch hoff daith gerdded.  

Dywed Vanessa Lawrence, Prif Gyfarwyddwr a Phrif Weithredwr yr Arolwg Ordnans: “Rydym yn falch iawn o fod yn noddi Sioe Awyr Agored yr Arolwg Ordnans unwaith eto yn 2007.

“Rydym bob amser yn croesawu’r cyfle i siarad â’n cwsmeriaid wyneb yn wyneb. Mae’n gyfle gwych i ni a’n partneriaid ddangos beth sydd gennym i’w gynnig ac i ysbrydoli pawb, gobeithio, i fynd allan a mwynhau cefn gwlad hardd Prydain.

“Mae’n argoeli y bydd sioe eleni y fwyaf a'r orau hyd yma. Mae’n gyfle gwych i unrhyw un sydd â diddordeb mewn mynd allan i’r awyr agored ddod a gweld y gorau o’r gorau dan un to”.

Bydd rhai o bartneriaid yr Arolwg Ordnans – Fugawi, Garmin, Jarrold, Magellan, Memory-Map, GPS Training, Walking World, a Satmap – yn arddangos manteision data mapio i’w cynhyrchion cyfeiriannu diweddaraf yn ardal yr Arolwg Ordnans Ar Waith.

Yn achos mapio ar flaenau’ch bysedd, mae Topo Great Britain Garmin yn darparu data’r Arolwg Ordnans megis cyfuchliniau, arlliwio uchder digidol a phileri triongli, yn ogystal â mapio ar lefel y stryd ar gyfer cyfeiriannu ar y ffordd. Mae yna hyd yn oed unedau GPS Garmin i’ch helpu i wella’ch ffitrwydd a’ch perfformiad. Er enghraifft, mae Forerunner ac Edge Garmin yn mesur cyflymder, pellter a chyflymder y galon i’ch galluogi i ddadansoddi pob sesiwn hyfforddi. I gael mwy o wybodaeth ymwelwch â Garmin yn Stondin OU172 yn Neuadd 1.

Mae Fugawi yn darparu offer pwerus a hawdd eu defnyddio i ymestyn nodweddion bron unrhyw uned GPS llaw, p’un a ydych chi am symud cyfeirbwyntiau o dderbynnydd GPS i’ch PC, mordwyo’ch cwch modur gan ddefnyddio'ch PDA neu fwynhau bersbectifau 3-D syfrdanol o hardd o’ch hoff fap topograffig. Bydd Fugawi ar stondin OU 284 yn Neuadd 1.

Cyhoeddwr sy’n enwog yn genedlaethol am gyhoeddi arweinlyfrau llwybrau cerdded Pathfinder a Short Walks yw Jarrold. Mae’r arweinlyfrau hyn ar flaen y gad yn y farchnad. Mae’r ddwy gyfres yn fforio ardaloedd harddaf Prydain ac yn cynnig amrywiaeth o gylchdeithiau cerdded, o deithiau cerdded byr a hawdd, i heiciau hirach, heriol, pob un â chyfarwyddiadau hawdd eu dilyn y mae mapiau'r Arolwg Ordnans yn eu cefnogi. Gwelwch stondin OU 285, Neuadd 1.

Bydd Memory-Map, stondin OU 174 yn Neuadd 1, yn cyflwyno’i feddalwedd unwaith eto i ddefnyddwyr newydd ac yn arddangos y nodweddion mwy datblygedig i bobl sydd am ehangu eu gwybodaeth. Am y tro cyntaf, bydd Memory-Map yn cyflwyno siaradwyr gwadd i ddangos sut y maent yn defnyddio meddalwedd Memory-Map a sut mae wedi effeithio ar eu bywydau o ddydd i ddydd. Ymhlith y siaradwyr gwadd fydd golygyddion cylchgronau blaenllaw sy’n frwd dros yr awyr agored, dringwyr cyrchoedd gorau’r byd a ffotograffydd bywyd gwyllt ac eraill. Cynhelir yr holl arddangosiadau ar stondin Memory-Map, yn ogystal â’r cynigion a’r hyfforddiant cynnyrch sy’n arferol yn y sioe.

Mae Satmap yn lansio system map digidol a GPS chwaraeon awyr agored wedi’i integreiddio’n llwyr, sef y system gyntaf o’i bath yn y byd. GPS chwaraeon sy’n addas ar gyfer pob tywydd, ddydd neu nos yw Satmap Active 10. Mae’n arddangos Mapiau OS Explorer a Mapiau OS Landranger o ansawdd uchel, wedi’u cyflenwi gan Satmap ar gardiau cof SD, sy’n cael eu plygio yn syth i mewn i Active 10.

Cynhelir Sioe Awyr Agored yr Arolwg Ordnans 16-18 Mawrth yn yr NEC yn Birmingham.

Nodiadau i’r golygyddion:

  1. Yr Arolwg Ordnans yw asiantaeth mapio cenedlaethol Prydain Fawr, sy’n darparu’r data daearyddol diweddaraf a mwyaf manwl gywir, sef data y mae’r llywodraeth, busnes a’r cyhoedd yn dibynnu arnynt.
  2. Mae Arolwg Ordnans, Symbol yr OS, Explorer ac OS yn nodau masnach cofrestredig ac mae OS Select yn nod masnach yr Arolwg Ordnans. Mae Edge, Forerunner a Garmin yn nodau masnach cofrestredig Garmin Ltd. Mae Fugawi yn nod masnach cofrestredig Fujitsu Ltd. Mae Magellan yn nod masnach cofrestredig Thales Navigation, Inc. Mae Memory-Map yn nod masnach cofrestredig Evo Distribution Ltd.
  3. I gael mwy o wybodaeth ewch i www.theoutdoorsshow.co.uk/ordnancesurvey

 

 


Chief Press Officer - Scott Sinclair
Ebost: scott.sinclair@ordnancesurvey.co.uk
Ffôn: (+44) 023 8079 2265
Senior Press Officer - Bryn Jones
Ebost: bryn.jones@ordnancesurvey.co.uk
Ffôn: (+44) 023 8079 2708

Ffacs swyddfa'r wasg: (+44) 023 8030 5295

Brig y dudalen