Neidio:

Arolwg Ordnans – asiantaeth mapio cenedlaethol Prydain Fawr

Datganiad i'r wasg

Hepgor:[bar cyfeiriad]

Romsey Road
SOUTHAMPTON
United Kingdom, SO16 4GU
http://www.ordnancesurvey.co.uk/media/

01 Chwefror 2007

Yr Arolwg Ordnans yn adeiladu sylfeini cadarn ledled Prydain gyda Chanolfannau Mapio a Data

Cwsmer Canolfan mapio

Mae Canolfannau Mapio a Data wedi’u lleoli’n o amgylch y wlad, pob un ohonyn nhw wedi’u cysylltu â chronfa ddata yr Arolwg Ordnans er mwyn iddyn nhw allu rhoi’r mapiau diweddaraf oll i gwsmeriaid ar eu cais

Llwythwch i lawr i lawr / gwyliwch fersiwn eglur uchel o'r llun uchod (2.29 Mb)

Mae cymorth ar gyfer cadw lluniau ar gael o'n tudalen cymorth.

OS Sitemap

OS Sitemap, cynnyrch mapio graddfa fawr sy’n deillio o Gronfa Ddata Ddaearyddol Genedlaethol yr Arolwg Ordnans.

Llwythwch i lawr i lawr / gwyliwch fersiwn eglur uchel o'r llun uchod (232 kb)

Mae cymorth ar gyfer cadw lluniau ar gael o'n tudalen cymorth.

Lgo canolfan mapio a data yr Arolwg Ordnans

Logo newydd Canolfan mapio a data yr Arolwg Ordnans

Llwythwch i lawr i lawr / gwyliwch fersiwn eglur uchel o'r llun uchod (205 kb)

Mae cymorth ar gyfer cadw lluniau ar gael o'n tudalen cymorth.

O heddiw allan, bydd y data mapio mwyaf manwl sydd ar gael o fewn cyrraedd haws i fusnesau ledled Prydain. Daw hyn wrth i’r Arolwg Ordnans, sef yr asiantaeth fapio genedlaethol, lansio rhwydwaith o Ganolfannau Mapio a Data.

Bydd busnesau yn y sectorau tir ac eiddo’n gallu trwyddedu OS Sitemap, sef cynnyrch mapio graddfa fawr sy’n deillio o Gronfa Ddata Ddaearyddol Genedlaethol yr Arolwg Ordnans. Cyniga OS Sitemap y wybodaeth a’r data diweddaraf sydd ar gael i benseiri, cynllunwyr, peirianwyr, a rheolwyr stadau. Bydd hyn yn cynnwys mapio manwl-gywir â safle penodol yn ganolbwynt iddo, sy’n angenrheidiol ar gyfer cynllunio, datblygu a rheoli prosiectau. Mae’r manylder a gynigir yn ddelfrydol ar gyfer ceisiadau cynllunio a dadansoddi effeithiau amgylcheddol.

Dywed Vanessa Lawrence, Prif Gyfarwyddwr a Phrif Weithredwr yr Arolwg Ordnans, " Mae’r mannau gwerthu hyn yn ganolfannau rhagoriaeth ar gyfer holl gynhyrchion yr Arolwg Ordnans a hwy yn unig sy’n stocio OS Sitemap. Mae Canolfannau Mapio a Data wedi’u lleoli’n strategol o amgylch y wlad, pob un ohonyn nhw wedi’u cysylltu â chronfa ddata yr Arolwg Ordnans er mwyn iddyn nhw allu rhoi’r mapiau diweddaraf oll i gwsmeriaid ar eu cais."

Meddai Brian Dixon, Rheolwr Gwerthiant E-sianel yr Arolwg Ordnans, "Esblygiad diweddaraf ein rhwydwaith arbenigol o bartneriaid manwerthu yw lansio ein Canolfannau Mapio a Data. Byddan nhw’n gwasanaethu gweithwyr proffesiynol ym maes tir ac eiddo yn bennaf ond hefyd cwsmeriaid a allai fod angen map lleoliad i gyd-fynd â’u cais cynllunio am estyniad ar eiddo.

Mae gan y rhwydwaith, o’r enw ‘Options’ gynt, staff gwybodus a phrofiadol sy’n delio â gofynion tra-chywir ar gyfer ystod llawn o ddewisiadau mapio a data hyblyg."

Mae OS Sitemap yn disodli cynhyrchion mapio graddfa fawr Superplan a Siteplan y bu’r sector yn eu defnyddio am nifer o flynyddoedd. Mae’r themâu ychwanegol, y gallu i ddewis fformat a chyflwyniad cartograffig gwell y cynnyrch newydd yn ei wneud yn ddelfrydol i gwrdd â’r heriau sy’n wynebu penseiri, cwmnïau adeiladu, ffermwyr ac asiantau tai. 

I gyd-fynd â lansio OS Sitemap, mae’r Arolwg Ordnans yn cynnig mwy o ddewis o ran telerau trwyddedau ar gyfer y cynnyrch. Ynghyd â’r drwydded blwyddyn gyfredol ar gyfer defnydd busnes mewnol cyflwynwyd trwydded newydd Cynllunio, Dylunio ac Adeiladu sy’n cwmpasu sawl blwyddyn ac yn caniatáu rhannu data o fewn prosiect a hefyd yn rhoi hawliau archif.

Yn ogystal ag OS Sitemap, bydd y Canolfannau Mapio a Data yn cynnig OS Landplan ar raddfa 1:10,000, mapiau OS Select, sydd wedi’u haddasu’n benodol i fod â chanolbwynt wedi’i ddewis gan y cwsmer ac sydd wedi’u seilio ar gyfresi adnabyddus OS Explorer ac OS Landranger, mapio hanesyddol, mapio ffiniau gweinyddol ac awyrluniau.

Bydd y sianel hefyd yn cynnig gwasanaeth mapio pen-bwrdd ar gyfer cwsmeriaid y mae’n well ganddynt ddewis a threfnu mapiau a data ar eu safle eu hunain gyda’r gallu i gyrchu cronfa ddata’r Arolwg Ordnans mewn amser real. Gellir allforio data i ystod eang o becynnau, gan gynnwys systemau CAD.

Mae mwy o fanylion ar gael am yr holl Ganolfannau Mapio a Data ar-lein yn www.ordnancesurvey.co.uk/mdc

 


Chief Press Officer - Scott Sinclair
Ebost: scott.sinclair@ordnancesurvey.co.uk
Ffôn: (+44) 023 8079 2265
Senior Press Officer - Bryn Jones
Ebost: bryn.jones@ordnancesurvey.co.uk
Ffôn: (+44) 023 8079 2708

Ffacs swyddfa'r wasg: (+44) 023 8030 5295

Brig y dudalen