Neidio:
Arolwg Ordnans – asiantaeth mapio cenedlaethol Prydain Fawr
Hepgor:[bar cyfeiriad]
![]()
Romsey Road
SOUTHAMPTON
United Kingdom, SO16 4GU
http://www.ordnancesurvey.co.uk/media/
07 Medi 2006
Dengys ymchwil sy’n cael ei chyhoeddi heddiw bod menter mapiau Rhad ac am Ddim i blant 11 oed yr Arolwg Ordnans yn cael effaith bositif dros ben ar addysgu a dysgu daearyddiaeth mewn ysgolion.
Dyma’r bumed flwyddyn mae’r Arolwg Ordnans wedi trefnu bod Mapiau OS Explorer ar gael yn rhad ac am ddim i ddisgyblion Blwyddyn 7, gyda mwy na 700,000 o fapiau wedi’u dosbarthu ledled Prydain Fawr bob blwyddyn. Daw’r map, sydd werth £7.49, yn eiddo personol y disgyblion i’w defnyddio gartref yn ogystal ag yn yr ysgol. Erbyn diwedd cynllun eleni, gallai hyd at 3.8 miliwn o blant fod wedi cael budd o gael eu map eu hunain i’w gadw.
Cynhaliwyd cyfanswm o 17 astudiaeth ar wahân yn edrych ar gynnydd y fenter. Dangoswyd ei bod wedi meithrin addysgu a dysgu daearyddiaeth yn sylweddol ac wedi ehangu dealltwriaeth a brwdfrydedd disgyblion dros ddefnyddio mapiau.
Darganfu’r ymchwil y canlynol am y fenter ers ei lansio:
Mewn cyfres o brofion, gofynnwyd i ddisgyblion luniadu llinfap llawrydd ac yna olrhain eu bro a’u taith i’r ysgol dros gynllun oedd wedi’i baratoi o’u cymdogaeth. Aseswyd ystod o feini prawf, megis arddull cartograffig, dewis o nodweddion a manwl-gywirdeb eu lleoliadau.
Dangosodd yr astudiaeth fod sgiliau mapio plant mewn ysgolion trefol mewnol o safon sylweddol is na sgiliau’r rhai oedd yn mynychu ysgolion mewn ardaloedd gwledig. Hefyd, roedd plant sy’n cerdded neu’n seiclo i’r ysgol yn dueddol o fod â safonau sgiliau darllen map oedd yn sylweddol uwch na sgiliau’r rhai oedd yn cael eu cludo i’r ysgol. Roedd plant oedd yn teithio yn fwy helaeth yn eu cymdogaeth ar droed neu ar feic yn dod yn fwy ymwybodol o’u hamgylchoedd ac o’r herwydd efallai eu bod yn datblygu sgiliau mapio gwell.
Dywed Roger Jeans, Rheolwr Addysg yr Arolwg Ordnans: "Mae’n bur debyg y bydd gwahaniaeth bob amser rhwng sgiliau mapio plant ysgol y wlad a phlant ysgol y ddinas. Er hynny, mae ein cynllun mapiau Rhad ac am Ddim i blant 11 oed wedi llwyddo i wella dealltwriaeth o fapiau yn gyffredinol, gyda disgyblion mewn ardaloedd trefol yn elwa mwy na neb."
Bydd y disgyblion cyntaf i dderbyn eu mapiau rhad ac am ddim, pan lansiwyd y cynllun yn 2002, yn sefyll eu arholiadau TGAU yn ystod y flwyddyn ysgol yma. Bydd yr Arolwg Ordnans yn defnyddio ymchwil ar sail canlyniadau’r arholiadau i werthuso llwyddiant y cynllun ymhellach.
Gellir gweld yr adroddiad 'Mapped Out – Free Maps for 11-year-olds' ar wefan yr Arolwg Ordnans yn www.ordnancesurvey.co.uk/education/teachingresources
Mae ysgolion sy’n ailgychwyn ar gyfer tymor yr hydref eisoes wedi dechrau cofrestru ar gyfer cynllun mapiau rhad ac am ddim eleni. Er mwyn manteisio ar y cynllun, rhaid i athrawon archebu ar-lein erbyn 31 Hydref 2006 yn www.ordnancesurvey.co.uk/freemapsfor11yearolds.
Yn ogystal â derbyn eu mapiau rhad ac am ddim eleni, gall disgyblion roi cynnig ar gystadleuaeth i ennill diwrnod i’r brenin gyda Time Team Teledu Sianel 4, sy’n defnyddio gwybodaeth Arolwg Ordnans wrth archwilio’u safleoedd cloddio. Bydd yr enillwyr yn bresennol pan fydd gwaith cloddio’n cael ei ffilmio, yn cyfarfod â’r tîm ac yn gweld yr holl waith sydd ynghlwm wrth greu y rhaglenni hyn. Bydd ffurflenni cais yn dod gyda’r mapiau.
"Mae’r mapiau yma’n adnodd rhad ac am ddim penigamp ar gyfer disgyblion a staff," meddai Trevor Gray, Prifathro Ysgol Gynradd Cairns yn Cambuslang, Yr Alban. "Maen nhw’n gyswllt gwych â’r amgylchedd o gwmpas yr ysgol a gallan nhw fod o wir gymorth wrth ddatblygu sgiliau mapio plant. Gan fod y plant yn gallu mynd â’u map allan o’r ysgol, gallan nhw ei ddefnyddio ar gyfer dilyniant gwaith dosbarth gartref. Mae’r rhieni yn wir werthfawrogol, a gan fod y mapiau yn lleol, mae’r cynllun yn fwy perthnasol fyth."
Mae miliynau o bobl yn defnyddio Mapiau OS Explorer ar gyfer cerdded a gweithgareddau awyr agored eraill gan eu bod yn dangos manylion tirweddau yn rhagorol – pob pentrefan, pob pentref a phob tref ynghyd â thraciau, llwybrau, waliau caeau a chyfuchliniau’r bryniau. Maent yn cael eu cyhoeddi ar raddfa o 1:25,000, sy’n golygu bod 4 cm ar y map yn gyfwerth ag 1 km ar y ddaear (2½ modfedd i 1 filltir). Mae pob map yn cwmpasu o leiaf 600 km sgwâr (230 milltir sgwâr) o dir.
Mae gwefan yr Arolwg Ordnans ar gyfer plant - www.ordnancesurvey.co.uk/mapzone - yn chwarae rhan sy’n fwyfwy pwysig yn y cynllun mapiau rhad ac am ddim, trwy gynnig gemau a gweithgareddau rhyngweithiol ar-lein. Yn ddiweddar, enillodd wobr aur y Gymdeithas Ddaearyddol am ansawdd ei hadnodd dysgu Parth GIS.
Ffacs swyddfa'r wasg: (+44) 023 8030 5295