Neidio:
Arolwg Ordnans – asiantaeth mapio cenedlaethol Prydain Fawr
Hepgor:[bar cyfeiriad]
![]()
Romsey Road
SOUTHAMPTON
United Kingdom, SO16 4GU
http://www.ordnancesurvey.co.uk/media/
07 Medi 2006

Mae menter yr Arolwg Ordnans yn darparu map rhad ac am ddim i bob plentyn 11 oed ym Mhrydain.
Llwythwch i lawr i lawr / gwyliwch fersiwn eglur uchel o'r llun uchod (1.5 Mb)
Mae cymorth ar gyfer cadw lluniau ar gael o'n tudalen cymorth.
Mae’n bosib y bydd y dadleuon teuluol hynny ynglyn â chyfarwyddiadau yn y car yn mynd yn angof wrth i’n holl blant ddod yn arbenigwyr mewn daearyddiaeth.
Gall menter yr Arolwg Ordnans, sy’n darparu map rhad ac am ddim i bob plentyn 11 oed ym Mhrydain, olygu mai’r plant fydd yn rhoi’r cyfarwyddiadau o hyn allan.
Dyma’r bumed flwyddyn mae’r Arolwg Ordnans wedi trefnu bod Mapiau OS Explorer ar gael yn rhad ac am ddim i ddisgyblion, gyda mwy na 700,000 o fapiau’n cael eu dosbarthu ledled Prydain Fawr bob blwyddyn. Gellir defnyddio’r map gartref yn ogystal ag yn yr ysgol, ac erbyn diwedd cynllun eleni bydd hyd at 3.8 miliwn o blant wedi cael budd o gael eu map eu hunain i’w gadw.
Mae ysgolion ledled Cymru, Yr Alban a Lloegr sydd â disgyblion Blwyddyn 7 eisoes wedi dechrau archebu eu mapiau ar-lein yn www.ordnancesurvey/freemapsfor11yearolds.
"Dyma un o’r mentrau addysgol mwyaf o’i bath," meddai Roger Jeans, Rheolwr Addysg yr Arolwg Ordnans. "Mae ein hymchwil yn dangos bod y fenter yma wedi cael effaith bositif dros ben ar addysgu a dysgu daearyddiaeth mewn ysgolion. Pedair blynedd ers lansio cynllun mapiau rhad ac am ddim i blant 11 oed yr Arolwg Ordnans yn wreiddiol, mae nifer y disgyblion sy’n hyderus yn eu dealltwriaeth o fapiau wedi dyblu, a nifer y disgyblion sy’n mwynhau defnyddio mapiau wedi treblu."
"Rydym ni’n gobeithio y bydd y fenter yma’n arwain at genhedlaeth o blant sy’n gallu rhoi cyfarwyddiadau yr un mor fedrus ag unrhyw system mordwyo lloeren wrth ddefnyddio map yr Arolwg Ordnans."
Er mwyn manteisio ar y cynllun, rhaid i athrawon archebu ar-lein erbyn 31 Hydref 2006 ar wefan yr Arolwg Ordnans neu ffonio’r llinell gymorth ar 08456 05 05 04.
Ffacs swyddfa'r wasg: (+44) 023 8030 5295