Neidio:

Arolwg Ordnans – asiantaeth mapio cenedlaethol Prydain Fawr

Datganiad i'r wasg

Hepgor:[bar cyfeiriad]

Romsey Road
SOUTHAMPTON
United Kingdom, SO16 4GU
http://www.ordnancesurvey.co.uk/media/

01 Tachwedd 2006

Yr Arolwg Ordnans yn cynorthwyo llyfrgellwyr i gopïo’n gywir

Mae’r sgôp ar gyfer copïo mapiau’r Arolwg Ordnans sy’n cael eu cadw mewn llyfrgelloedd cyhoeddus ar hyd a lled Prydain Fawr wedi’i egluro mewn canllaw newydd a gyhoeddwyd heddiw.

Mae’r asiantaeth fapio genedlaethol wedi cwblhau trafodaethau gyda chynrychiolwyr o’r gymuned llyfrgelloedd ac archifau, i egluro’r broses o gopïo a dosbarthu dan gyfraith hawlfraint sefydledig.

Mae’r ganllaw, a gyhoeddwyd mewn cydweithrediad â LACA - Cynghrair Hawlfraint Llyfrgelloedd ac Archifau – wedi’i chynllunio i gynnig cymorth i unrhyw un sydd am gopïo mapiau Arolwg Ordnans sydd dan hawlfraint ac sy'n cael eu cadw gan lyfrgelloedd ac archifau cyhoeddus. Mae’n cwmpasu llungopïo, sganio a dargopïo mapiau papur, ac argraffu rhannau o ddata mapio electronig.

Y nod yw sicrhau bod pobl yn glir ynglyn â lle mae copïo’n cael ei ganiatáu dan ddeddfwriaeth hawlfraint, megis ar gyfer astudio preifat ac ymchwil anfasnachol. Mae llyfrgelloedd ac archifau’n cael eu hannog i arddangos posteri sy’n cynnwys canllawiau ger offer copïo ac mewn lleoedd amlwg eraill ar eu safle. Gellir lawrlwytho’r posteri o wefan yr Arolwg Ordnans.

Bwriedir hefyd i'r ganllaw, a gefnogir gan Sefydliad Siartredig Llyfrgellwyr a Gweithwyr Gwybodaeth, wneud staff llyfrgell a staff archif yn fwy sicr ynglyn â’r gwasanaethau copïo y gallan nhw eu cynnig i’r cyhoedd.

Mae’n manylu’n glir ar ofynion yr Arolwg Ordnans ei hun o ran cydnabod hawlfraint ac o ran dibenion y caniateir copïo ar eu cyfer dan ddeddfwriaeth hawlfraint. Mewn rhai amgylchiadau priodol, er enghraifft, bydd yr Arolwg Ordnans yn caniatáu i lyfrgellwyr wneud hyd at bedwar copi o hyd at 625cm sgwâr o fapiau mewn llyfrgelloedd ac archifau cyhoeddus.

Mae mwy o wybodaeth am y canllawiau newydd ar gael yn www.ordnancesurvey.co.uk/oswebsite/business/copyright/libraries.html neu o linell gymorth cwsmeriaid yr Arolwg Ordnans ar 08456 05 05 04.


Chief Press Officer - Scott Sinclair
Ebost: scott.sinclair@ordnancesurvey.co.uk
Ffôn: (+44) 023 8079 2265
Senior Press Officer - Kate Kemp
Ebost: kate.kemp@ordnancesurvey.co.uk
Ffôn: (+44) 023 8079 2977
Press Officer - Paula Good
Ebost: paula.good@ordnancesurvey.co.uk
Ffôn: (+44) 023 8079 2635
Press Officer - Paul Bauchamp
Ebost: paul.beauchamp@ordnancesurvey.co.uk
Ffôn: (+44) 023 8079 2568
Press Office Co-ordinator - Pauline Hand
Ebost: pauline.hand@ordnancesurvey.co.uk
Ffôn: (+44) 023 8079 2251

Ffacs swyddfa'r wasg: (+44) 023 8030 5295

Brig y dudalen