Neidio:

Arolwg Ordnans – asiantaeth mapio cenedlaethol Prydain Fawr

Datganiad i'r wasg

Hepgor:[bar cyfeiriad]

Romsey Road
SOUTHAMPTON
United Kingdom, SO16 4GU
http://www.ordnancesurvey.co.uk/media/

09 Mai 2006

Yr Arolwg Ordnans yn mynd â data cyfeiriadau gofodol Prydain i’r lefel nesaf

Yr Arolwg Ordnans yn mynd â data cyfeiriadau gofodol Prydain i’r lefel nesaf

Fe fydd cyfres rymus o welliannau i ddata cyfeiriadau digidol manylaf yr Arolwg Ordnans yn cael ei lansio heddiw ac yn cynnig buddion arwyddocaol i gwsmeriaid ar hyd a lled sectorau masnachol a llywodraeth Prydain Fawr.

Llwythwch i lawr i lawr / gwyliwch fersiwn eglur uchel o'r llun uchod (2.2 Mb)

Mae cymorth ar gyfer cadw lluniau ar gael o'n tudalen cymorth.

Fe fydd cyfres rymus o welliannau i ddata cyfeiriadau digidol manylaf yr Arolwg Ordnans yn cael ei lansio heddiw ac yn cynnig buddion arwyddocaol i gwsmeriaid ar hyd a lled sectorau masnachol a llywodraeth Prydain Fawr.

Mae’r holl gyfeiriadau wedi’u categoreiddio naill ai yn rhai preswyl neu'n rhai masnachol, ynghyd â chyfeiriad daearyddol amgen megis enw'r ardal lle nad yw hwn wedi’i gynnwys fel arfer. Gosodir safleoedd busnes mewn is-gategorïau lle mae eu henw masnachu neu eu henw brand yn disgrifio’u swyddogaeth yn eglur.

Ychwanegwyd mwy na hanner miliwn o enwau eraill, er enghraifft enw'r eiddo yn ogystal â'i rif a'i stryd, a chyflenwir enwau amgen Cymraeg yng Nghymru.

Yn ogystal â hyn, mae mwy na miliwn eiddo nad oes ganddynt gyfeiriad post, wedi’u cynnwys. Yn eu plith mae safleoedd cyfleustodau, neuaddau cymunedol, eglwysi a chyfleusterau cyhoeddus. Mae eu lleoliad yn hanfodol ar gyfer ymateb mewn argyfwng, cynllunio sifil wrth gefn, asesu risg, yswiriant asedion, cynllunio, gwasanaethau cwsmeriaid a chynnal a chadw. Dynodwyd cyfeiriad ar eu cyfer sy’n reddfol ddefnyddiol. Mae hwn wedi’i gysylltu â’r ffordd, yr ardal a’r cod post. Hefyd, dyrennir categorïau amgen ar eu cyfer sy'n deillio o’r Arolwg Ordnans, Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) a’r Gronfa Ddata Defnydd Tir Genedlaethol.

Cynlluniwyd tabl croesgyfeirio sy’n cysylltu dynodwyr cyfeiriad unigryw â’i gilydd i alluogi symud rhwng yr amrywiol themâu o fewn Haen Cyfeiriadau 2 OS MasterMap a’r data cyfeiriad a grëwyd gan sefydliadau eraill. Y nod yw ei gwneud hi mor syml â phosibl i rannu ac ymgorffori gwybodaeth am wahanol gyfeiriadau. Mae'r tabl yn cynnwys dynodwyr unigryw y Post Brenhinol, VOA a’r Arolwg Ordnans. Mae ar gael yn rhad ac am ddim oddi wrth yr Arolwg Ordnans, a’r bwriad yw ei gysylltu â setiau data eraill yn y dyfodol.

Mae Haen Cyfeiriadau 2 OS MasterMap ar gael ar fformat GML (Iaith Amgodio Ddaearyddol) a CSV (Gwerthoedd Wedi’u Gwahanu â Chomas), fel ei fod yn rhwydd ac yn hyblyg i’w ddefnyddio. Mae’r data newydd hefyd yn cyflawni safon BS7666 rhan 3.

"Mae cyfuno elfennau y gellir eu cyfeirio a rhai na ellir eu cyfeirio yn Haen Cyfeiriadau 2 OS MasterMap yn gam mawr ymlaen yng ngwybodaeth ddaearyddol Prydain Fawr," meddai Vanessa Lawrence, Cyfarwyddwr Cyffredinol a Phrif Weithredwr yr Arolwg Ordnans. "Rydym yn cynnig data sy’n fwy hyblyg, yn haws eu haddasu, ac yn fwy addas at anghenion defnyddwyr cyfeiriadau gofodol nag erioed o’r blaen. Mae hyn yn enghraifft o’r radd flaenaf o ganolbwyntio ar anghenion cwsmeriaid. Trwy weithio gyda’r sefydliadau eraill sy’n creu ac yn cynnal data cyfeiriadau, rydym yn galluogi cymaint o bobl â phosibl i fanteisio ar y gronfa ddata fwyaf cynhwysfawr sydd ar gael".

Meddai Derek Reid-Hughes, Pennaeth Uned Rheoli Cyfeiriadau Grwp y Post Brenhinol: “Rydym yn arbennig o falch fod yr Arolwg Ordnans yn gwella’i gynnyrch cyfeiriadau gofodol manylaf trwy ddefnyddio ein data amlbreswylfeydd newydd. Buom eisoes yn darparu PAF i’r farchnad gyfeirio ers blynyddoedd, gan ddod â budd i wasanaethau yn y sectorau cyhoeddus a phreifat fel ei gilydd. Mae’r data cyfeiriadau gofodol newydd yn ddatblygiad arloesol i’w groesawu, sy’n unol â galw’r farchnad.”

Yn ôl Andrew Hudson, Prif Weithredwr Asiantaeth y Swyddfa Brisio: “Mae cysylltu setiau data cyfeiriadau, yn enwedig y rheiny â chynnwys cenedlaethol sydd o safon uchel a chyson, yn cynnig buddion sylweddol i ddefnyddwyr, ac rydym wrth ein bodd yn gweithio gyda’r Arolwg Ordnans i gryfhau grym daearyddiaeth cyfeiriadau.”

Mae lansio Haen Cyfeiriadau 2 OS MasterMap yn dilyn cynlluniau arbrofol helaeth ac adborth oddi wrth fwy na 40 o sefydliadau ar raglen datblygu cynnyrch OS Insight yr Arolwg Ordnans.


Chief Press Officer - Scott Sinclair
Ebost: scott.sinclair@ordnancesurvey.co.uk
Ffôn: (+44) 023 8079 2265
Senior Press Officer - Kate Kemp
Ebost: kate.kemp@ordnancesurvey.co.uk
Ffôn: (+44) 023 8079 2977
Press Officer - Paula Good
Ebost: paula.good@ordnancesurvey.co.uk
Ffôn: (+44) 023 8079 2635
Press Officer - Paul Bauchamp
Ebost: paul.beauchamp@ordnancesurvey.co.uk
Ffôn: (+44) 023 8079 2568
Press Office Co-ordinator - Pauline Hand
Ebost: pauline.hand@ordnancesurvey.co.uk
Ffôn: (+44) 023 8079 2251

Ffacs swyddfa'r wasg: (+44) 023 8030 5295

Brig y dudalen