Neidio:
Arolwg Ordnans – asiantaeth mapio cenedlaethol Prydain Fawr
Hepgor:[bar cyfeiriad]
![]()
Romsey Road
SOUTHAMPTON
United Kingdom, SO16 4GU
http://www.ordnancesurvey.co.uk/media/
04 Gorffennaf 2006

Mae’r Arolwg Ordnans yn dechrau ar ymgynghoriad ffurfiol ar eu Cynllun Iaith Gymraeg.
Llwythwch i lawr i lawr / gwyliwch fersiwn eglur uchel o'r llun uchod (628 Kb)
Mae cymorth ar gyfer cadw lluniau ar gael o'n tudalen cymorth.
Heddiw mae’r Arolwg Ordnans yn dechrau ar ymgynghoriad ffurfiol ar eu Cynllun Iaith Gymraeg.
Lansiodd yr asiantaeth fapio genedlaethol – sef yr Arolwg Ordnans – eu cynllun yn 2001, gan fanylu ar eu hymrwymiad i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu cynhyrchion a’u gwasanaethau yng Nghymru. Bum mlynedd yn ddiweddarach, mae’r amser wedi dod i ddiweddaru’r cynllun, ac fe fydd yr ymgynghoriad yn rhoi cyfle i bobl Cymru ddweud eu dweud. Gwahoddir sylwadau erbyn 18 Awst 2006.
Fe fydd yr Arolwg Ordnans yn paratoi adroddiad yn seiliedig ar yr adborth ac yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer cynllun diwygiedig oddi wrth Fwrdd yr Iaith Gymraeg, sef y corff sy'n gyfrifol am roi Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 ar waith. Fe sefydlodd y Ddeddf yr egwyddor y dylid trin y Gymraeg a’r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal wrth drafod busnes cyhoeddus yng Nghymru.
"Rydym am chwarae ein rhan mewn Cymru ddwyieithog," meddai Vanessa Lawrence, Prif Gyfarwyddwr a Phrif Weithredwr yr Arolwg Ordnans. "Mae'r Arolwg Ordnans bob amser wedi cydnabod yr angen am ymgynghori effeithiol â’r rheiny sy’n defnyddio ein cynhyrchion a’n gwasanaethau, gan fod hyn yn helpu i wella ein gwybodaeth am eu gofynion. Credwn y dylai siaradwyr Cymraeg allu derbyn amrediad llawn o wasanaethau yn y Gymraeg – ond dim ond trwy dderbyn adborth y bydd modd i ni berffeithio ein cynllun."
Ers i’r Arolwg Ordnans fabwysiadu eu cynllun gwreiddiol, maent wedi cynyddu eu polisi o ddangos mwy a mwy o enwau lleoedd a disgrifiadau nodweddion yn ddwyieithog ar gynhyrchion graddfa fawr a graddfa fach. Mae cloriau mapiau graddfa fach OS Landranger ac OS Explorer yr Arolwg Ordnans sy’n cwmpasu ardaloedd yng Nghymru bellach yn gwbl ddwyieithog, ac mae gan y cynhyrchion digidol fel Haen Cyfeiriadau 2 OS MasterMap y gallu i roi ‘r dewis o enwau lleoedd yn Gymraeg.
Mae Llinell Gymorth Gymraeg yr asiantaeth – 08456 05 05 04 – wedi’i chynllunio’n benodol i drin amrediad o alwadau dros y ffôn yn Gymraeg, a gall ymwelwyr â’r wefan Gymraeg www.ordnancesurvey.co.uk/cymraeg ddarganfod mwy am yr Arolwg Ordnans, gan gynnwys sut y mae eu gwybodaeth ddaearyddol o fudd i’w cwsmeriaid, y llywodraeth a byd busnes. Mae’r wefan yn cynnwys adnoddau ar-lein ar gyfer newyddiadurwyr ac offer addysgol i blant ac athrawon.
Gellir dod o hyd i gopi o ddogfen ddrafft y cynllun a rhagor o wybodaeth am waith yr Arolwg Ordnans yn www.ordnancesurvey.co.uk/reports. Mae fersiwn Cymraeg o'r ddogfen ar y wefan Gymraeg sef www.ordnancesurvey.co.uk/cymraeg.
Mae modd archebu copïau o’r cynllun drafft oddi wrth John Pugh, Rheolwr Cysylltiadau Cynulliad Cymru, Yr Arolwg Ordnans, Romsey Road, SOUTHAMPTON, SO16 4GU.
Ffacs swyddfa'r wasg: (+44) 023 8030 5295