Neidio:

Arolwg Ordnans – asiantaeth mapio cenedlaethol Prydain Fawr

Datganiad i'r wasg

Hepgor:[bar cyfeiriad]

Romsey Road
SOUTHAMPTON
United Kingdom, SO16 4GU
http://www.ordnancesurvey.co.uk/media/

14 Chwefror 2005

Camu i mewn i’r dyfodol yn Sioe Awyr Agored yr Arolwg Ordnans

Technoleg ddigidol â chyfeirbwyntiau map

Mae ymchwilwyr o’r asiantaeth fapio genedlaethol wedi cyfuno technoleg ddigidol â chyfeirbwyntiau map ar y dirwedd go iawn i greu cymwysiadau anhygoel ar y sgrîn ar gyfer ffonau symudol, cynorthwywyr digidol personol a dyfeisiau llaw eraill.

Llwythwch i lawr i lawr / gwyliwch fersiwn eglur uchel o'r llun uchod (85 Kb)

Mae cymorth ar gyfer cadw lluniau ar gael o'n tudalen cymorth.

Sioe awyr agored

Sioe awyr agored yr Arolwg Ordnans.

Llwythwch i lawr i lawr / gwyliwch fersiwn eglur uchel o'r llun uchod (1.1 Mb)

Mae cymorth ar gyfer cadw lluniau ar gael o'n tudalen cymorth.

Mae’r Arolwg Ordnans yn gwahodd y rhai hynny ohonoch sy’n hoffi gweithgareddau i gamu i mewn i ddyfodol mapio a chyfeiriannu yn yr achlysur arddangos mwyaf erioed ym Mhrydain ar gyfer meysydd hamdden a gweithgareddau awyr agored.

Gall ymwelwyr â’r Sioe Awyr Agored yr Arolwg Ordnans yn yr NEC yn Birmingham (o 18-20 o Fawrth) fwynhau rhagolwg ymarferol o sut y gellid harneisio grym mapiau yn y dyfodol.

Mae ymchwilwyr o’r asiantaeth fapio genedlaethol wedi cyfuno technoleg ddigidol â chyfeirbwyntiau map ar y dirwedd go iawn i greu cymwysiadau anhygoel ar y sgrîn ar gyfer ffonau symudol, cynorthwywyr digidol personol a dyfeisiau llaw eraill.

Mae data mapio ar droshaen a osodir ar olygfeydd o’r byd go iawn trwy ffenestr hud yn cynnig dimensiwn newydd mewn gwybodaeth ddaearyddol ddeallus. Gallai sicrhau bod heicwyr a cherddwyr yn mwynhau y math o olwg pelydr-X sy’n caniatáu iddynt weld beth sydd y tu hwnt i ael y bryn neu sut olwg sydd ar y dafarn agosaf cyn iddyn nhw gyrraedd yno.

Mae Partneriaeth yn un o’r themâu ychwanegol a welir ym mhresenoldeb yr Arolwg Ordnans yn y sioe eleni. Fe fydd ardal arddangos arbennig, Ordnance Survey in Action, yn cynnwys rhai o gymwysiadau cyfredol ein partneriaid sy’n gysylltiedig â mapio, er enghraifft Memory-Map, Anquet, Garmin, PocketRoutes, Walkingworld a Focus Maps.

Fe fydd cynrychiolwyr yr Asiantaeth Cefn Gwlad wrth law i drafod y Cod Cefn Gwlad a chyflwyniad graddol tir mynediad i gefn gwlad. Dangosir yr ardaloedd sydd newydd eu dynodi ar gyfres newydd mapiau OS Explorer a fydd ar werth yn y sioe, ynghyd â channoedd o fapiau hamdden safonol eraill yr Arolwg Ordnans, gan gynnwys y rhai diweddaraf.

Yn ogystal â hyn, gall pobl archebu mapiau OS Select: mapiau maint llawn, lliw llawn, â chanolbwynt ar unrhyw le ym Mhrydain. Mae’r gwasanaeth hwn yn cynnwys mapiau OS Explorer ac OS Landranger. Hefyd, gall ymwelwyr greu ac addasu eu mapiau digidol eu hunain, a chael cipolwg ar wefan arfaethedig yr Arolwg Ordnans ar gyfer defnyddwyr mapiau hamdden.

Bydd cartograffwyr a syrfewyr arbenigol yno i ateb unrhyw gwestiynau y mae ymwelwyr yn eu codi ynghylch mapiau’r Arolwg Ordnans a sut y cesglir y data.

Ac fe fydd parth dynodedig sy’n dwyn sylw at ddulliau y gall teuluoedd fwynhau’r awyr agored gyda’i gilydd, ynghyd â chyfle i ennill cyfarpar cyfrifiadurol a gwyliau.

"Rydym yn ganolog i’r diwydiant hamdden awyr agored,” meddai Vanessa Lawrence, Prif Gyfarwyddwr a Phrif Weithredwr yr Arolwg Ordnans. "Mae ein gwybodaeth ddaearyddol ni o fudd i filiynau o bobl bob blwyddyn, gan gynnwys cerddwyr, beicwyr, dringwyr a marchogwyr. Dyna pam ein bod ar ben ein digon yn noddi’r sioe ragorol yma ac yn gwahodd pobl i ddod atom ni i siarad wyneb-yn-wyneb am ein nwyddau a sut y byddwn ni’n defnyddio technoleg. Rydym ni hefyd wrth ein bodd fod rhai o’n partneriaid busnes yn ymuno â ni i drafod buddion eu cymwysiadau sy’n seiliedig ar ein data ni."

Mae’r Arolwg Ordnans yn un o blith mwy na 500 o frandiau a sefydliadau sy’n arddangos yn y sioe eleni.

Mae’r oriau agor o 10am tan 6pm Ddydd Gwener 18 Mawrth, ac o 9am tan 5pm Ddydd Sadwrn 19 a Dydd Sul 20 Mawrth. Bydd tocynnau oedolion yn £11 o flaen llaw (£14 wrth y drws); ac yn £6 i blant, myfyrwyr, pensiynwyr a phobl anabl (£8 wrth y drws). Mae’r tocynnau teulu yn £30 (£38 wrth y drws). Mynediad am ddim i blant dan bump. I gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys gwybodaeth am y cynigion hyrwyddo, ewch i www.ordnancesurvey.co.uk/leisure.

Daw’r sioe ar ddiwedd yr Wythnos Awyr Agored Genedlaethol, sef menter a fwriadwyd i annog pobl i roi cynnig ar weithgareddau newydd, i ddod o hyd i ddiddordebau newydd ac i ddysgu mwy am yr awyr agored. Mae’n cynnwys The Big Walk, sef cyfle i gerdded gyda rhywun enwog a chodi arian ar gyfer Diwrnod Trwynau Coch 2005 – a gwibdeithiau a drefnir i ganolfannau awyr agored i blant ysgolion uwchradd. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.theoutdoorsshow.co.uk.


Chief Press Officer - Scott Sinclair
Ebost: scott.sinclair@ordnancesurvey.co.uk
Ffôn: (+44) 023 8079 2265
Senior Press Officer - Kate Kemp
Ebost: kate.kemp@ordnancesurvey.co.uk
Ffôn: (+44) 023 8079 2977
Press Officer - Paula Good
Ebost: paula.good@ordnancesurvey.co.uk
Ffôn: (+44) 023 8079 2635
Press Officer - Paul Bauchamp
Ebost: paul.beauchamp@ordnancesurvey.co.uk
Ffôn: (+44) 023 8079 2568
Press Office Co-ordinator - Pauline Hand
Ebost: pauline.hand@ordnancesurvey.co.uk
Ffôn: (+44) 023 8079 2251

Ffacs swyddfa'r wasg: (+44) 023 8030 5295

Brig y dudalen