Neidio:

Arolwg Ordnans – asiantaeth mapio cenedlaethol Prydain Fawr

Datganiad i'r wasg

Hepgor:[bar cyfeiriad]

Romsey Road
SOUTHAMPTON
United Kingdom, SO16 4GU
http://www.ordnancesurvey.co.uk/media/

10 Mawrth 2004

Mapiau gweithgareddau yn benodol ar eich cyfer chi yn Sioe Awyr Agored yr Arolwg Ordnans

Ordnance Survey stand at the Outdoor Show 2003

Fe fydd y mapiau diweddaraf sydd wedi’u llunio’n benodol ar gyfer unigolion i’w gweld yn Sioe Awyr Agored yr Arolwg Ordnans eleni yn yr NEC yn Birmingham rhwng yr 2il a’r 4ydd o Ebrill.

Llwythwch i lawr i lawr / gwyliwch fersiwn eglur uchel o'r llun uchod (3.4 Mb)

Mae cymorth ar gyfer cadw lluniau ar gael o'n tudalen cymorth.

Fe fydd y mapiau diweddaraf sydd wedi’u llunio’n benodol ar gyfer unigolion, boed yn gerddwyr neu’n bobl eraill sy’n frwdfrydig ynghylch gweithgareddau awyr agored, i’w gweld yn Sioe Awyr Agored yr Arolwg Ordnans eleni yn yr NEC yn Birmingham rhwng yr 2il a’r 4ydd o Ebrill.

Fe fydd yr Arolwg Ordnans yn arddangos ei wasanaeth llunio mapiau personol, OS Select, yn yr achlysur poblogaidd yma y mae’r asiantaeth fapio genedlaethol yn ei noddi. Gall y rheiny sydd am fforio yn yr awyr agored ddefnyddio OS Select i greu mapiau lliw o faint llawn ag unrhyw le ym Mhrydain yn ganolbwynt iddynt – gan ddatrys problem dalenni ag ymylon anghyfleus, a hynny am byth. Estynnwyd y gwasanaeth yma’n ddiweddar i gynnwys mapiau Explorer ar raddfa 1:25,000, sef y raddfa fwyaf poblogaidd ar gyfer gweithgareddau awyr agored, yn ogystal â mapiau Landranger ar raddfa 1:50,000.

Er mai gwasanaeth ar-lein yw OS Select fel arfer, bydd unrhyw un fydd yn ymweld â’r stondin yn gallu archebu ac argraffu map OS Select personol â chanolbwynt ar unrhyw le o’u dewis, rhoi eu teitl eu hunain arno, rhoi eu llun ar y clawr, a'i weld yn cael ei gynhyrchu yn y fan a'r lle fel eu bod yn gallu mynd â'r map terfynol i'w canlyn.

Hefyd, fe fydd amrediad cyfan bron i 700 o fapiau hamdden oddi-ar-y-silff yr Arolwg Ordnans, sy’n cwmpasu pob rhan o Brydain ar wahanol raddfeydd, ar werth ar y stondin, a bydd ymwelwyr â’r sioe yn cael cyfle i ennill beic mynydd.

I’r rheiny sy’n awyddus i ddefnyddio mapiau’r Arolwg Ordnans ar ffurf electronig yn hytrach nag ar bapur, fe fydd pedwar partner y cynhyrchwr mapiau cenedlaethol, sef Magellan, Anquet, Hillwalker a Memory Map, yn arddangos sut i ddefnyddio’u cynhyrchion. Mae’r rhain wedi’u seilio ar fapiau’r Arolwg Ordnans, a gellir eu defnyddio wrth symud o un lle i’r llall pan fyddant wedi’u llwytho i offer llaw cyfeiriannu.

I unrhyw un sydd am loywi eu sgiliau darllen map yn gyffredinol, fe fydd Gweithdai Cerdded dyddiol yn caniatáu i gerddwyr a rhai eraill sy’n frwdfrydig ynghylch yr awyr agored roi hwb i’w gwybodaeth am gyfeirnodau grid, defnyddio cwmpawd yn effeithiol a dehongli symbolau map. Cynhelir y sesiynau yma, a fydd yn para 45 munud, yn narlithfa’rr NEC, a byddant ar agor i blant yn ogystal ag i oedolion.


Chief Press Officer - Scott Sinclair
Ebost: scott.sinclair@ordnancesurvey.co.uk
Ffôn: (+44) 023 8079 2265
Senior Press Officer - Kate Kemp
Ebost: kate.kemp@ordnancesurvey.co.uk
Ffôn: (+44) 023 8079 2977
Press Officer - Paula Good
Ebost: paula.good@ordnancesurvey.co.uk
Ffôn: (+44) 023 8079 2635
Press Officer - Paul Bauchamp
Ebost: paul.beauchamp@ordnancesurvey.co.uk
Ffôn: (+44) 023 8079 2568
Press Office Co-ordinator - Pauline Hand
Ebost: pauline.hand@ordnancesurvey.co.uk
Ffôn: (+44) 023 8079 2251

Ffacs swyddfa'r wasg: (+44) 023 8030 5295

Brig y dudalen