Neidio:
Arolwg Ordnans – asiantaeth mapio cenedlaethol Prydain Fawr
Hepgor:[bar cyfeiriad]
![]()
Romsey Road
SOUTHAMPTON
United Kingdom, SO16 4GU
http://www.ordnancesurvey.co.uk/media/
23 Mawrth 2004
Y Gweinidog dros Ysgolion yn canmol cynllun

Stephen Twigg AS a Vanessa Lawrence yn ysgol Broomfield yn lansio menter mapiau rhad ac am ddim 2004.
Llwythwch i lawr i lawr / gwyliwch fersiwn eglur uchel o'r llun uchod (10.4 Mb)
Mae cymorth ar gyfer cadw lluniau ar gael o'n tudalen cymorth.
Mae’r Arolwg Ordnans yn cynnig map Explorer rhad ac am ddim i bob disgybl 11 oed ym Mhrydain Fawr o ddechrau tymor yr hydref 2004.
Cyhoeddodd Vanessa Lawrence, Prif Gyfarwyddwr a Phrif Weithredwr yr asiantaeth fapio genedlaethol, y cynllun mewn achlysur lansio yng nghwmni Stephen Twigg AS, Y Gweinidog dros Ysgolion. Disgyblion Ysgol Broomfield yn ei etholaeth ef, sef Enfield Southgate, oedd y rhai cyntaf i gael gwybod am y cynlluniau.
Dyma fydd y drydedd flynedd i’r Arolwg Ordnans gynnig map Explorer rhad ac am ddim i bob disgybl Blwyddyn 7 yn y wlad. Mae mwy na 1½ miliwn o blant eisoes wedi cael budd, felly dyma un o’r prosiectau adnoddau addysgol mwyaf o’i fath yn ysgolion Prydain.
Meddai Mr Twigg: "Bydd menter eleni yn helpu cannoedd ar filoedd yn fwy o blant ledled Prydain i ddarganfod bod mapiau yn hwyl ac yn werthfawr. Gan mai nhw fydd yn berchen ar y mapiau, byddan nhw’n gallu dysgu llawer yn fwy am eu hamgylchedd lleol, boed hynny yn yr ystafell ddosbarth neu gartref gyda’u teuluoedd."
Mae’r adborth mae’r Arolwg Ordnans wedi’i dderbyn yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn bositif iawn, wrth i lawer o blant ac athrawon rannu eu profiadau o ddefnyddio’r mapiau rhad ac am ddim mewn amrywiaeth o bynciau fel hanes lleol, dinasyddiaeth a daearyddiaeth.
Meddai Vanessa Lawrence: "Yn dilyn cynllun eleni, bydd mwy na dwy filiwn o blant wedi cael budd o’r fenter yma. Mae’r mapiau rydym eisoes wedi’u dosbarthu yn werth mwy na £10 miliwn ac rydym wrth ein bodd ein bod yn gallu ymestyn y cynllun am flwyddyn arall."
Bydd gofyn i bob ysgol gofrestru ar ddechrau tymor yr hydref er mwyn derbyn eu mapiau erbyn y Nadolig. Nid oes yn rhaid iddynt wneud unrhyw beth ar hyn o bryd. Byddwn yn anfon y manylion archebu i bob ysgol unigol ar ddechrau tymor yr hydref.
Mae adnoddau a gweithgareddau yn cefnogi’r fenter mapiau rhad ac am ddim yn adran Help Gwaith Cartref gwefan ryngweithiol rhad ac am ddim yr Arolwg Ordnans ar gyfer plant, sef www.ordnancesurvey.co.uk/mapzone
Mae gwybodaeth bellach am fenter Mapiau rhad ac am ddim i ddisgyblion 11 oed ar gael yn www.ordnancesurvey.co.uk/freemapsfor11yearolds.
Ffacs swyddfa'r wasg: (+44) 023 8030 5295