Neidio:
Arolwg Ordnans – asiantaeth mapio cenedlaethol Prydain Fawr
Hepgor:[bar cyfeiriad]
![]()
Romsey Road
SOUTHAMPTON
United Kingdom, SO16 4GU
http://www.ordnancesurvey.co.uk/media/
13 Awst 2004
Hwyl a sbri yn rhad ac am ddim ar wefan y gwneuthurwr mapiau

Gwefan MapZone yr Arolwg Ordnans – yn llawn gemau addysgol i blant.
Llwythwch i lawr i lawr / gwyliwch fersiwn eglur uchel o'r llun uchod (348 Kb)
Mae cymorth ar gyfer cadw lluniau ar gael o'n tudalen cymorth.
Pan fydd rhieni ledled Prydain yn swatio o flaen y teledu yn gwylio'r campau yn Athen, mae'n bosibl y bydd y plant wedi bod yn methu’n llwyr â dod o hyd i ffordd o gael eu hwyl a’u sbri eu hunain yn ystod gwyliau hir yr haf.
Daeth yr Arolwg Ordnans, sef gwneuthurwr mapiau’r genedl, i’r adwy gan gynnig adran gemau rhad ac am ddim ar eu gwefan mapiau addysgol, www.ordnancesurvey.co.uk/mapzone
Ceir yma 17 o gemau sy’n llawn hwyl a hefyd yn addysgol er mwyn rhoi cychwyn da iddynt ar eu haseiniadau daearyddiaeth pan ddychwelant i'r ysgol. Mae’r wefan yn annog plant i wella’u sgiliau darllen map a mynd allan i ddarganfod eu hardal leol.
Mae'r gemau sydd ar gael ar y wefan ryngweithiol yn cynnwys gêm baneri Ewropeaidd, sy’n ddefnyddiol wrth adnabod baneri’r gwahanol wledydd yn y seremonïau cyflwyno medalau, a gêm jig-so’r byd er mwyn i blant ddod o hyd i'r gwledydd mwyaf anadnabyddus sy’n cystadlu.
Yn ogystal â hyn, gall y plant hefyd lwytho meddalwedd o'r enw MapBuilder i lawr o'r wefan. Offeryn rhyngweithiol llawn hwyl yw hwn sy'n eu caniatáu i ddylunio ac adeiladu eu mapiau eu hunain o Brydain Fawr, Ewrop, a’r Byd.
Dywed Elaine Owen, Rheolwr Sector Addysg yr Arolwg Ordnans, "mae MapZone yn hwyl i blant sy’n chwilio am rywbeth addysgol ond llawn hwyl i’w gyflawni ar eu cyfrifiaduron yr haf yma. Gallan nhw hyd yn oed bicio i mewn i adran o’r enw Our Favourite Places i gael syniadau am ddyddiau allan, ac adran Did you know…? lle gallwch chwilio am enwau lleoedd diddorol neu ddoniol ym Mhrydain.
Ffacs swyddfa'r wasg: (+44) 023 8030 5295