Neidio:
Arolwg Ordnans – asiantaeth mapio cenedlaethol Prydain Fawr

2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001
Gallwch gopïo a chludo datganiadau i’r wasg fel y mynnwch. I gael eich hysbysu o newyddion diweddaraf yr Arolwg Ordnans cofrestrwch i ymuno a ein rhestr tanysgrifio.
Ymuno a'r rhestr newyddion diweddaraf.
Mae’r ffotograffau a’r lluniau sgrîn yn © Hawlfraint y Goron 2006, ond gallwch eu defnyddio i ategu erthyglau newyddion neu erthyglau nodwedd ar yr Arolwg Ordnans yn rhad ac am ddim. Mae’r lluniau sy’n cael eu defnyddio gyda datganiadau newyddion ar gael yn y ffeil datganiadau newyddion perthnasol; ceir lluniau eraill mwy cyffredinol yn yr oriel ffotograffau.
01 Rhagfyr 2004
Efallai y gall Rwdolff a'i drwyn coch gymryd seibiant pan ddaw Siôn Corn i'r dref Noswyl Nadolig eleni. Oherwydd mae gan y dyn llon bron i 1,000 o fapiau’r Arolwg Ordnans i’w defnyddio wrth iddo geisio dod o hyd i gartrefi.
Mwy o wybodaeth ar gyfer - Pwy sy'n dwad dros y Bryn?...
[ English version ]
22 Tachwedd 2004
Bellach mae gan adeilad newydd Canolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd le tra amlwg ar fapiau manylaf y wlad - er gwaethaf y ffaith nad yw eto wedi’i agor yn swyddogol.
Mwy o wybodaeth ar gyfer - Perfformiad mapio o’r radd flaenaf yng Nghanolfan Mileniwm Cymru...
[ English version ]
06 Medi 2004
Bydd mwy na 750,000 o blant - gan gynnwys 42,000 o blant yng Nghymru - yn cael cynnig un o fapiau’r Arolwg Ordnans yn rhad ac am ddim mewn ymgais i wella sgiliau darllen map a’u hannog i fynd allan i’r awyr agored a fforio’u hardal leol.
Mwy o wybodaeth ar gyfer - Yn ôl i’r ysgol ac allan eto – gyda map rhad ac am ddim...
[ English version ]
13 Awst 2004
Pan fydd rhieni ledled Prydain yn swatio o flaen y teledu yn gwylio'r campau yn Athen, mae'n bosibl y bydd y plant wedi bod yn methu’n llwyr â dod o hyd i ffordd o gael eu hwyl a’u sbri eu hunain yn ystod gwyliau hir yr haf.
Mwy o wybodaeth ar gyfer - Dechreued y gemau!...
[ English version ]
29 Gorffennaf 2004
Mae tasg enfawr yn mynd rhagddi i ychwanegu manylion tir mynediad newydd yng Nghymru a Lloegr i fapiau Explorer yr Arolwg Ordnans.
[ English version ]
22 Gorffennaf 2004
Mae’r asiantaeth gwneud mapiau, Yr Arolwg Ordnans wedi recriwtio Andrew Cooney – yr unigolyn ieuengaf i gerdded i Begwn y De – i ysbrydoli plant ysgol ledled Prydain i fynd ati i archwilio’u hardal eu hunain a darganfod lleoedd newydd gan ddefnyddio un o’u mapiau.
Mwy o wybodaeth ar gyfer - Cooney yn llywio’r dosbarth...
[ English version ]
29 Mehefin 2004
Ffôn Mae gwasanaeth newydd chwyldroadol un cam yn agosach heddiw, oherwydd cytundeb rhwng yr Arolwg Ordnans a’r Adran Drafnidiaeth (DfT). Bydd y gwasanaeth yn rhoi'r wybodaeth deithio ddiweddaraf i bobl allu cynllunio teithiau ar draws Prydain gan ddefnyddio trafnidiaeth ar nifer o wahanol ffurfiau
Mwy o wybodaeth ar gyfer - Cynllun gwybodaeth deithio arloesol yn tywys pobl ar eu taith...
[ English version ]
18 Ebrill 2004
Mae’r canllaw ddwyieithog i gynnyrch a gwasanaethau yr Arolwg Ordnans wedi’u cyhoeddi gan yr asiantaeth mapio cenedlaethol.
[ English version ]
10 Mawrth 2004
Fe fydd y mapiau diweddaraf sydd wedi’u llunio’n benodol ar gyfer unigolion, boed yn gerddwyr neu’n bobl eraill sy’n frwdfrydig ynghylch gweithgareddau awyr agored, i’w gweld yn Sioe Awyr Agored yr Arolwg Ordnans eleni yn yr NEC yn Birmingham rhwng yr 2il a’r 4ydd o Ebrill.
[ English version ]
23 Mawrth 2004
Mae’r Arolwg Ordnans yn cynnig map Explorer rhad ac am ddim i bob disgybl 11 oed ym Mhrydain Fawr o ddechrau tymor yr hydref 2004.
Mwy o wybodaeth ar gyfer - Yr Arolwg Ordnans yn cyhoeddi rhodd daearyddiaeth fwyaf Prydain...
[ English version ]
27 Chwefror 2004
Mae adnoddau rhad ac am ddim, gemau addysgol llawn hwyl, a llond gwlad o awgrymiadau defnyddiol fel sut i ddefnyddio map yr Arolwg Ordnans i ddod o hyd i’ch ffordd, oll ar gael mewn adran sydd newydd ei chreu yn MapZone, y wefan ryngweithiol, rhad ac am ddim i blant.
Mwy o wybodaeth ar gyfer - Hwyl wrth ddysgu yn Gymraeg ar wefan...
[ English version ]