Neidio:

Arolwg Ordnans – asiantaeth mapio cenedlaethol Prydain Fawr

Datganiad i'r wasg

Hepgor:[bar cyfeiriad]

Romsey Road
SOUTHAMPTON
United Kingdom, SO16 4GU
http://www.ordnancesurvey.co.uk/media/

04 Medi 2003

Mapiau rhad ac am ddim ar amserlen

Mapiau yn rhad ac am ddim i blant 11 oed

Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Arolwg Ordnans Vanessa Lawrence (yn y canol) gyda plant 11 oed yn dathlu'r menter mapiau rhad ac am ddim.

Llwythwch i lawr i lawr / gwyliwch fersiwn eglur uchel o'r llun uchod (682 Kb)

Mae cymorth ar gyfer cadw lluniau ar gael o'n tudalen cymorth.

Mae penaethiaid ysgolion ledled Cymru yn cael eu annog heddiw i wneud yn siŵr bod eu disgyblion yn gallu manteisio ar un o’r mentrau addysgol mwyaf o’i bath.

Mae’r Arolwg Ordnans yn cynnig map Explorer rhad ac am ddim i bob disgybl 11 oed i gefnogi eu dysgu, a gallant fynd â'r map adref i'w canlyn.

Oherwydd bod yn rhaid i ysgolion gofrestru ar-lein, mae llythyrau sy’n cynnwys enw defnyddiwr a chyfrinair unigryw yn cael eu hanfon at benaethiaid yr wythnos yma.

“Rydym am helpu plant i gael profiad o hwyl a gwerth daearyddiaeth," meddai Vanessa Lawrence, Prif Gyfarwyddwr a Phrif Weithredwr yr Arolwg Ordnans. “Mae’n rhan o’n hymrwymiad i wneud yn siŵr bod ein gwybodaeth ar gael yn eang er budd pawb.”

Mae’r fenter yn dilyn llwyddiant menter debyg y llynedd, pan ddosbarthwyd mapiau i 42,000 o ddisgyblion blwyddyn 7 mewn oddeutu 270 o ysgolion yng Nghymru. Roedd disgyblion, rhieni ac athrawon ledled Cymru yn canmol y fenter.

Mae’r cynllun wedi ei gefnogi gan Jane Davidson, Gweinidog Addysg Cymru. Meddai, “Gall y prosiect arloesol yma ysbrydoli gwaith tîm effeithiol, adeiladu hyder personol a dod â manteision addysgol enfawr yn ei sgîl ar draws y cwricwlwm yn amrywio o ddaearyddiaeth, yn y dosbarth ac ar deithiau maes, i fathemateg a hanes. Trwy roi’r mapiau hyn yn rhad ac am ddim i bob plentyn 11 oed, gall helpu i roi bywyd i bynciau a helpu disgyblion i roi’r hyn y maent wedi ei ddysgu yn y dosbarth ar waith. Bydd hefyd yn helpu i gwrdd ag ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad i wella iechyd a ffitrwydd pobl Cymru, trwy eu hannog i gerdded a fforio.”

Cafodd disgyblion yn Ysgol Gyfun Llangefni, Ynys Môn, gopïau o fap Explorer 263 Dwyrain Ynys Môn. “Rydym yn gwerthfawrogi’r fenter yma’n fawr iawn,” meddai Huw Roberts, Pennaeth yr ysgol. “Mae'r mapiau o fudd inni yn ein dosbarthiadau daearyddiaeth wrth ddysgu sgiliau darllen map, ac mae’r disgyblion yn cael budd wrth ddefnyddio’r mapiau i ddod i adnabod eu hardal.”

Yn ôl Elaine Owen, uwch reolwr addysg yr Arolwg Ordnans: “Rydym yn gobeithio y bydd ysgolion yn cofrestru ar unwaith er mwyn inni brosesu’r archebion a dosbarthu’r holl fapiau mor gynnar yn y flwyddyn academaidd â phosibl. O ystyried ymateb anhygoel y llynedd, rydym yn gobeithio na fydd penaethiaid yn oedi.”

Fe fydd pob disgybl yn derbyn taflen Darllen map heb drafferth yn y byd ynghyd â’r map. Mae adnoddau ar-lein yn cefnogi’r hyn y byddwn yn ei anfon yn y post, gan gynnwys cymorth rhyngweithiol â gwaith cartref ar wefan addysg yr Arolwg Ordnans - www.ordnancesurvey.co.uk/mapzone. Mae yna hefyd gyfle i ysgolion ennill cyfarpar cyfrifiadurol mewn cystadleuaeth a seiliwyd ar addysgu sgiliau mapiau yn y ffyrdd mwyaf dyfeisgar.

Mae’n rhaid i ysgolion gofrestru erbyn Hydref 10. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar www.ordnancesurvey.co.uk/freemapsfor11yearolds.


Chief Press Officer - Scott Sinclair
Ebost: scott.sinclair@ordnancesurvey.co.uk
Ffôn: (+44) 023 8079 2265
Senior Press Officer - Kate Kemp
Ebost: kate.kemp@ordnancesurvey.co.uk
Ffôn: (+44) 023 8079 2977
Press Officer - Paula Good
Ebost: paula.good@ordnancesurvey.co.uk
Ffôn: (+44) 023 8079 2635
Press Officer - Paul Bauchamp
Ebost: paul.beauchamp@ordnancesurvey.co.uk
Ffôn: (+44) 023 8079 2568
Press Office Co-ordinator - Pauline Hand
Ebost: pauline.hand@ordnancesurvey.co.uk
Ffôn: (+44) 023 8079 2251

Ffacs swyddfa'r wasg: (+44) 023 8030 5295

Brig y dudalen