Neidio:

Arolwg Ordnans – asiantaeth mapio cenedlaethol Prydain Fawr

Datganiad i'r wasg

Hepgor:[bar cyfeiriad]

Romsey Road
SOUTHAMPTON
United Kingdom, SO16 4GU
http://www.ordnancesurvey.co.uk/media/

14 Hydref 2003

Map yn rhodd o Wlad y Lapiaid

Eich hosan Nadolig yn llawn o syniadau ar gyfer anrhegion

Santa

Mae map da yn hanfodol ar gyfer pob taith, hyd yn oed yr rhai sy'n cael eu tywys gan carw.

Llwythwch i lawr i lawr / gwyliwch fersiwn eglur uchel o'r llun uchod (850 Kb)

Mae cymorth ar gyfer cadw lluniau ar gael o'n tudalen cymorth.

Mae map da yn hanfodol ar gyfer pob taith y Nadolig yma, p’un a ydych yn cerdded, yn gyrru, neu hyd yn oed yn cael pas mewn sled. Mae gan yr Arolwg Ordnans fap i bob hosan, i'ch helpu chi i gynllunio taith gerdded yng nghefn gwlad ar Ŵyl San Steffan, siwrnai mewn car i ymweld â pherthnasau, neu ddiwrnod allan gyda'r teulu.

Mae mapiau Explorer graddfa 1:25 000 a’u cloriau oren yn ffefryn ymhlith cerddwyr, marchogion ac eraill sy’n frwdfrydig am yr awyr agored, oherwydd y manylder sydd ynddyn nhw. Maent yn dangos pob tref, pentref a threflan, trac, ffordd a llwybr yn fanwl, ac yn amlygu llu o gyfleusterau hamdden.

Mae Mapiau Landranger OS, sy’n hawdd eu hadnabod oherwydd eu cloriau pinc, yn rhan o gyfres amlbwrpas sy’n cynnwys cyfoeth o wybodaeth ddefnyddiol i drefnu diwrnod allan. Mae pob map yn dangos priffyrdd, y pentrefi a’r trefi mwy, yn ogystal ag atyniadau twristiaid penodol megis gerddi cyhoeddus, parciau thema ac eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Mae cyfres OS Travel Map yn gydymaith defnyddiol i’w gadw yn y car wrth deithio. Mae'r gyfres yn cynnwys mapiau teithio hawdd eu darllen er mwyn ichi ddod o hyd i’r ffordd o amgylch siroedd penodol neu ardaloedd sy’n boblogaidd â thwristiaid, wyth o fapiau ffordd i gynllunio teithiau rhanbarthol, a map ffyrdd cenedlaethol Route 2004 newydd ar un ddalen.

I’r rheiny sy’n edrych am rodd sy’n unigryw ond eto’n ymarferol, mae’r Arolwg Ordnans wedi lansio OS Select, gwasanaeth ar-lein lle gall cwsmeriaid drefnu ac archebu eu map maint llawn eu hunain, gyda chanol y map hwnnw mewn unrhyw fan ym Mhrydain, hyd yn oed eu cartref eu hunain. Gellir archebu pob map naill ai wedi ei blygu mewn waled blastig wrthdywydd neu’n wastad i’w arddangos ar wal.

Mae mapiau’r Arolwg Ordnans i'w cael yn llawer o siopau'r stryd fawr. Pe byddai’n well gennych chi wneud eich siopa Nadolig allan o sŵn y torfeydd piciwch i mewn i www.ordnancesurvey.co.uk/hamdden lle mae’r gyfres gyfan ar gael i’w harchebu, ynghyd â gwasanaeth OS Select.

£4.99 yw pris yr OS Travel maps, £5.99 yw pris y mapiau OS Landranger a £6.99 yw pris y mapiau Explorer. £15.99 yw pris mapiau OS Select, ynghyd â chost postio a phecynnu ar gyfer Mapiau Landranger OS â man penodol yn ganolbwynt iddynt, neu £16.99 ynghyd â chost postio a phecynnu ar gyfer Mapiau Explorer OS â man penodol yn ganolbwynt iddynt.


Chief Press Officer - Scott Sinclair
Ebost: scott.sinclair@ordnancesurvey.co.uk
Ffôn: (+44) 023 8079 2265
Senior Press Officer - Kate Kemp
Ebost: kate.kemp@ordnancesurvey.co.uk
Ffôn: (+44) 023 8079 2977
Press Officer - Paula Good
Ebost: paula.good@ordnancesurvey.co.uk
Ffôn: (+44) 023 8079 2635
Press Officer - Paul Bauchamp
Ebost: paul.beauchamp@ordnancesurvey.co.uk
Ffôn: (+44) 023 8079 2568
Press Office Co-ordinator - Pauline Hand
Ebost: pauline.hand@ordnancesurvey.co.uk
Ffôn: (+44) 023 8079 2251

Ffacs swyddfa'r wasg: (+44) 023 8030 5295

Brig y dudalen