Neidio:

Arolwg Ordnans – asiantaeth mapio cenedlaethol Prydain Fawr

Datganiad i'r wasg

Hepgor:[bar cyfeiriad]

Romsey Road
SOUTHAMPTON
United Kingdom, SO16 4GU
http://www.ordnancesurvey.co.uk/media/

15 Tachwedd 2002

Mae'r 'Great Escape' ymlaen eto y Nadolig yma – diolch i'r Arolwg Ordnans

Y Great Escape

Y Great Escape Tri twrci doeth yn defnyddio mapiau yr Arolwg Ordnans i gynllunio i ddianc y Nadolig yma.

Llwythwch i lawr i lawr / gwyliwch fersiwn eglur uchel o'r llun uchod (113 Kb)

Mae cymorth ar gyfer cadw lluniau ar gael o'n tudalen cymorth.

Teimlo'n gaeëdig y Nadolig yma? Beth am ymuno â twrcïaid ar draws y wlad gan gynllunio i ddianc a mynd ffwrdd gyda cymorth yr Arolwg Ordnans.

Mae'r asiant mapio cenedlaethol yn gwahodd awgrymiadau ar gyfer ble i fynd ffwrdd iddo ar wefan ryngweithiol - www.ordnancesurvey.co.uk/greatescape

Mae'n gyfle i rannu syniadau ar gyfer cerdded, teithiau beic, diwrnodau allan neu gwyliau byr a fydd yn help i chi weithio ffwrdd y pwdin Nadolig ac osgoi yr ail darllediadau ar y teledu - yn cynnwys ffilmiau ddi-dor.

Beth bynnag bo'r ffordd o ddianc i ffwrdd, mae'r safle yn gallu cyfeirio pobl i'r llwybr iawn i oddeutu 900 o fapiau yr Arolwg Ordnans - yn cwmpasu pob rhan o Gymru, Lloegr a'r Alban mewn gwahanol graddfeydd.

"Mae ein mapiau erioed wedi gwneud anrhegion Nadolig gwych ar gyfer cerddwyr a rhai a diddordeb mewn gweithgareddau yn yr awyr agored," meddai John Richardson o'r Arolwg Ordnans. "Ond mae nhw hefyd yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy'n mynd ar daith dros gyfnod gwyliau'r Nadolig. Y flwyddyn yma roeddem yn meddwl byddai'n hwyl i rhestru rhai llefydd i fynd ffwrdd iddo a gwahodd awgrymiadau ar gyfer y rhestr o lefydd mwyaf poblogaidd."

Gyda prisiau rhwng £3.99 a £6.99, mae mapiau'r Arolwg Ordnans yn anrhegion Nadolig gwerthfawr. Mae mapiau lliw oren 'Explorer' yn dangos cefn gwlad mewn manylder ar gyfer y rhai sydd am grwydro yn yr awyr agored. Gall modurwyr gyfeirio at cyfres mapiau OS Travel sy'n cynnwys mapiau 'Tour' lliw glas golau gyda'i mapio hawdd ei darllen a gwybodaeth twristiaeth. Ac wrth gwrs mae yna fapiau lliw pinc OS Landranger ar gyfer y rhai sydd eisiau pasport mwy cyffredinol ar gyfer dinas a chefn gwlad.


Chief Press Officer - Scott Sinclair
Ebost: scott.sinclair@ordnancesurvey.co.uk
Ffôn: (+44) 023 8079 2265
Senior Press Officer - Kate Kemp
Ebost: kate.kemp@ordnancesurvey.co.uk
Ffôn: (+44) 023 8079 2977
Press Officer - Paula Good
Ebost: paula.good@ordnancesurvey.co.uk
Ffôn: (+44) 023 8079 2635
Press Officer - Paul Bauchamp
Ebost: paul.beauchamp@ordnancesurvey.co.uk
Ffôn: (+44) 023 8079 2568
Press Office Co-ordinator - Pauline Hand
Ebost: pauline.hand@ordnancesurvey.co.uk
Ffôn: (+44) 023 8079 2251

Ffacs swyddfa'r wasg: (+44) 023 8030 5295

Brig y dudalen