Neidio:

Arolwg Ordnans – asiantaeth mapio cenedlaethol Prydain Fawr

Logo yr Arolwg Ordnans

Mae nod corfforaethol (logo) yr Arolwg Ordnans yn nod masnach cofrestredig sy’n cynnwys y llythrennau OS, y symbol saeth a’r geiriau Ordnance Survey. Un delwedd integredig yw hon – ni ddefnyddir yr OS na’r saeth symbolaidd ar eu pennau eu hunain.

Logo

Ar gyfer Cymru mae nod corfforaethol arbennig dwyieithog gyda’r geiriau Arolwg Ordnans yn sefyll i’r dde o’r geiriau Ordnance Survey. Defnyddir y ‘logo’ yma nid yn unig ar lenyddiaeth yn y Gymraeg ond ar bob cyfrwng sydd ar gael i’n cwsmeriaid yng Nghymru.

Darperir fersiynau lliw a du a gwyn cydraniad uchel o’r nod corfforaethol yma yn benodol at ddefnydd papurau newydd a chylchgronau cofrestredig sydd angen celfwaith ar unwaith i gyd-fynd ag erthyglau golygyddol sy’n crybwyll yr Arolwg Ordnans. Ffeiliau .eps traws-lwyfan yw’r rhain, a gellir eu defnyddio â systemau PC neu Mac. Cynhwysir hefyd canllaw i ddefnyddwyr sy’n cynnig mwy o fanylion am y nod a sut y dylid ei ddefnyddio.

Rhaid peidio â defnyddio’r nod corfforaethol mewn unrhyw gyd-destun arall – fel mewn hysbysebion neu i gymeradwyo cynhyrchion – neu gan unrhyw gyhoeddwr neu unigolyn arall oni bai fod yr Arolwg Ordnans wedi rhoi ei ganiatâd ysgrifenedig. Dylai unrhyw un sydd am gael caniatâd o’r fath (neu gelfwaith ar unrhyw fformat arall) gysylltu â wayne.debeugny@ordnancesurvey.co.uk

Brig y dudalen