Neidio:
Arolwg Ordnans – asiantaeth mapio cenedlaethol Prydain Fawr
Mae’r Arolwg Ordnans wedi ymrwymo i sicrhau bod mapiau a data yn dod yn fwy hygyrch a fforddiadwy i ysgolion. Disgwylir i athrawon addysgu sgiliau mapio fel rhan o’r cwricwlwm cenedlaethol ar gyfer daearyddiaeth, ac mae rhanfap yr Arolwg Ordnans yn nodwedd o lawer o’r arholiadau daearyddiaeth y ceir tystysgrifau ar eu cyfer. Mae mapiau a data hefyd yn darparu adnodd hyblyg sy’n cynnig llawer o gymwysiadau trawsbynciol.
Fe fydd Newyddion Mapio yn cael ei anfon i bob ysgol ddwywaith y flwyddyn, ym mis Ionawr a mis Mehefin. Edrychwch yma i weld y rhifyn diwethaf ac i chwilio am erthyglau penodol neu eu hargraffu, neu llwythwch i lawr eich copi eich hun yn Gymraeg neu yn Saesneg.
Mwy
Detholiad o ddeunyddiau defnyddiol ...
Mwy
Rydym eisoes yn cyflenwi ein nwyddau i awdurdodau lleol ac mae ysgolion y mae AALl yn eu cyllido yn gallu manteisio ar y ffaith fod yr Arolwg Ordnans yn eu hystyried yn adrannau o’u hawdurdod lleol. Mae hawlfraint yn hawdd ei deall os dilynwch ein canllaw syml.
Does dim ffi am drwydded flynyddol i’r ysgolion hyn, ond mae angen ichi allu llwytho’r drwydded i lawr a’i deall. Mae ein canllaw syml yn esbonio sut y gallwch ddefnyddio ein mapiau a’n data yn eich ysgol.
Darllenwch erthyglau ar-lein o Newyddion mapio, cylchgrawn addysgol y mae’r Arolwg Ordnans yn ei gyhoeddi’n rhad ac am ddim ddwywaith y flwyddyn. Mae hwn yn llawn o wybodaeth a chyngor defnyddiol.
Mae gan yr Arolwg Ordnans dîm ymroddedig sy'n gyfrifol am ddarparu adnoddau i fyd addysg. Rydym yn gweithio gyda byrddau arholi i lunio darnau arholiad at safon TGAU a lefel ‘A', a gallwn ddarparu'r darnau hyn ar ôl arholiadau, ar gyfer arholiadau ffug ac i bwrpas dysgu'n seiliedig ar fapiau'n gyffredinol. Mae gennym amrywiaeth o adnoddau sy'n rhad ac am ddim hefyd, megis taflenni symbolau mapiau sydd ar gael yn Gymraeg a Saesneg, ac adnoddau a nodwyd yn nogfennau'r cwricwlwm, y mae athrawon yn gwneud cais amdanynt. Rydym yn diweddaru ein safle ar y we'n rheolaidd gydag adnoddau addysgu. Y mwyaf diweddar oedd poster yn esbonio datganoli, sydd ar gael yn Gymraeg a Saesneg.
Mae cytundeb lefel gwasanaeth yn bodoli ar gyfer ysgolion sy'n cael eu hariannu gan Awdurdodau Lleol, sy'n caniatáu i ni ddefnyddio peth data mapio digidol sydd gan yr awdurdod lleol ac i gefnogi'r gwaith hwn, rydym yn cydweithio â nifer o ddatblygwyr meddalwedd sy'n darparu pecynnau rhad i ysgolion. Gellir gweld rhestr lawn o'r rhain yn Newyddion Mapio, cylchgrawn a gynhyrchir ddwy waith y flwyddyn ym mis Mehefin a Rhagfyr, a anfonir yn rhad ac am ddim i ysgolion.
Rydym bob amser yn ymdrechu i gadw'n wastad ag anghenion byd addysg, ac i'r perwyl hwn, rydym yn ymgynghori â chyrff addysg megis yr Adran Addysg a Chyflogaeth, QCA, BECTA a SCET yn rheolaidd. At ei gilydd, rydym yn ceisio darparu gwasanaeth sy'n berthnasol i fyd addysg, y mae sefydliadau addysg yn gallu ei fforddio, ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod athrawon a myfyrwyr yn gallu manteisio'n llawn ar yr Arolwg Ordnans a'n cynnyrch. Gellir weld rhestr o holl nwyddau a gwasanaethau'r Arolwg Ordnans ar gyfer byd addysg yn y Catalog Nwyddau Addysgol neu yma ar ein safle ar y we.
Dod o hyd i’r map cywir ar gyfer eich anghenion addysgol a manylion ynghylch lle i’w brynu.
Mae defnyddio data mapio’r Arolwg Ordnans mewn systemau gwybodaeth ddaearyddol (GIS) wedi trawsnewid y ffordd y byddwn yn dehongli ac yn defnyddio data mewn busnes. Mae systemau GIS sydd wedi eu haddasu’n arbennig ac sydd ar gael bellach at ddefnydd ysgolion Cynradd ac Uwchradd, yn dechrau cael effaith debyg ar addysg. Maent yn darparu cyfle ardderchog i gyflawni gofynion TGCh daearyddiaeth a phynciau eraill.
Mwy
Cynllun sy’n rhoi cyfle i bob plentyn 11 oed yng Nghymru fod yn berchen ar ei fap OS Explorer graddfa 1:25,000 o’i ardal leol.
Mae’r Arolwg Ordnans yn falch o gyhoeddi dychweliad cynllun poblogaidd Mapiau rhad ac am ddim i blant 11 oed ar gyfer 2007. Mae pob ysgol gyda disgyblion blwyddyn 7 yn gymwys i geisio derbyn un map OS Explorer 1:25 000 am ddim ar gyfer pob disgybl yn y grŵp blwyddyn perthnasol. Does dim rhaid i ysgolion gwneud unrhyw beth ar hyn o bryd. Fe fydd canllawiau ar gyfer archebu yn cael eu hanfon i bob ysgol unigol ar ddechrau tymor yr Hydref.
Mae'r cynllun yn cynnig cymorth hanfodol mewn daearyddiaeth, dinasyddiaeth, hanes lleol ac astudiaethau eraill.