Neidio:

Arolwg Ordnans – asiantaeth mapio cenedlaethol Prydain Fawr

Addysg uwch

Mae’r Arolwg Ordnans yn croesawu cyswllt â Sefydliadau Addysg Uwch, ymchwilwyr a myfyrwyr unigol. Mae amrywiaeth o wasanaethau ar gael i ddarparu data mapio digidol a mapio confensiynol am bris gostyngol. Os na allwch ddod o hyd i’r ateb i’ch ymholiad ar y tudalennau hyn, cysylltwch â ni yn un o’r ddau gyfeiriad isod.


Edina

 Mae’r Arolwg Ordnans wedi trafod telerau cytundeb â JISC ac Edina i ddarparu mapiau Arolwg Ordnans i Sefydliadau Addysg Uwch trwy wasanaeth o’r enw DIGIMAP. Bydd y Sefydliad yn talu’r tanysgrifiad ac yna fe fydd y gwasanaeth yn rhad ac am ddim i’r defnyddwyr eu hunain. Mynnwch olwg ar wefan Edina i gael mwy o wybodaeth am y gwasanaeth ac i weld a yw’ch Sefydliad chi yn tanysgrifio.

www.edina.ac.uk


Rhagleni ymchwil

Rhaglen ymchwil MSc

 Yn dechrau ar MSc? Gallwch ddarganfod sut i fod yn rhan o Raglen Ymchwil MSc yr Arolwg Ordnans, ac fe allech sicrhau ysgoloriaeth o hyd at £500 o bosibl.


Rhaglen ymchwil PhD

 Cyfle i ddarganfod sut y gallai’r Arolwg Ordnans fod yn bartner diwydiannol i fyfyrwyr CASE, a mwy am opsiynau cyllido rhaglenni PhD.


Lleoliadau

Fe fydd yr Arolwg Ordnans yn cynnig profiad gwaith a lleoliadau trwy fod yn rhan o gynllun lleoliadau myfyrwyr AGI.

Mapiau

 Gallwch ddod o hyd i’r map cywir at eich dibenion addysgol a manylion ein rhwydwaith Cyflenwyr Deunydd Addysgol cymeradwy. Mwy


Data digidol

 Edrychwch ar yr amrywiaeth data digidol masnachol sydd gennym er mwyn darganfod pa ddata sampl sydd ar gael. Mwy


Hawlfraint

 Llwythwch i lawr gopi o’n llyfryn 'Reproduction of Ordnance Survey mapping for educational purposes' yma. (Dylai defnyddwyr gwasanaethau Digimap gyfeirio at safle Edina os oes ganddynt gwestiynau sy’n ymwneud â’r gwasanaeth yma). Mwy

Brig y dudalen