Neidio:

Arolwg Ordnans – asiantaeth mapio cenedlaethol Prydain Fawr

Addysg

Mapiau rhad ac am ddim i blant 11 oed

Cynllun sy’n rhoi cyfle i bob plentyn 11 oed yng Nghymru fod yn berchen ar ei fap OS Explorer graddfa 1:25,000 o’i ardal leol.

Mae’r Arolwg Ordnans yn falch o gyhoeddi dychweliad cynllun poblogaidd Mapiau rhad ac am ddim i blant 11 oed ar gyfer 2007. Mae pob ysgol gyda disgyblion blwyddyn 7 yn gymwys i geisio derbyn un map OS Explorer 1:25 000 am ddim ar gyfer pob disgybl yn y grŵp blwyddyn perthnasol. Does dim rhaid i ysgolion gwneud unrhyw beth ar hyn o bryd. Fe fydd canllawiau ar gyfer archebu yn cael eu hanfon i bob ysgol unigol ar ddechrau tymor yr Hydref.

Mae'r cynllun yn cynnig cymorth hanfodol mewn daearyddiaeth, dinasyddiaeth, hanes lleol ac astudiaethau eraill.

Gwefan Mapiau rhad ac am ddim

Mapzone

 Gwefan yr Arolwg Ordnans ar gyfer plant 7-14 oed sy’n gwneud mapio yn hwyl ac yn ddiddorol

 Os rydych yn casáu gwaith cartref cipiwch i fewn i'n gwefan rhyngweithiol lle mae mapio yn dod yn fyw. Bydd y safle yn eich helpu i ddysgu'r prif sgiliau  sydd eu hangen arnoch wrth ddarllen map. Mae ein gemau a'n posau yn gwneud y dysgu'n hwyl....Nid gwaith cartref yw hwn, siŵr iawn?MapZone

 Cymorth gwaith cartref MapZone

Noder: Nid yw'r enwau gwledydd a phrif ddinasoedd y byd yn adran adnoddau cymorth gwaith cartref MapZone ar gael yn Gymraeg ar hyn o bryd. Rydym yn cydweithio gyda Bwrdd yr Iaith Gymraeg er mwyn cyflenwi rhestr gyflawn o enwau safonol.


GIS Zone  GIS Zone

Mae systemau gwybodaeth ddaearyddol (GIS) yn cyffwrdd bron pob rhan o'n bywydau bob dydd. Mae'r wefan yma'n dangos ichi beth yw GIS, sut mae systemau'n cael eu defnyddio ac yna bydd yn eich rhoi chi yn y 'gadair boeth' i'w defnyddio i ddatrys problemau.

GIS Zone


Free Teaching Resources Adnoddau addysg

Mae’r Arolwg Ordnans yn darparu’r holl adnoddau hyn yn rhad ac am ddim. Mae rhai ohonynt ar gael ar-lein, a rhai wedi’u hargraffu. Nid yw pob un ohonynt wedi’u llunio yn benodol at ddibenion addysg, ond mae athrawon yn eu cael yn ddefnyddiol.

Adnoddau

 

Addysg

Mae’r Arolwg Ordnans wedi ymrwymo i sicrhau bod mapiau a data yn dod yn fwy hygyrch a fforddiadwy i ysgolion.

 Ysgolion

Rydym yn gobeithio helaethu’r gwasanaethau sydd ar gael i Addysg bellach.

 Addysg bellach

Rydym yn croesawu cyswllt â Sefydliadau Addysg Uwch, ymchwilwyr a myfyrwyr unigol.

 Addysg uwch

Mae’r Arolwg Ordnans yn darparu adnoddau yn rhad ac am ddim.

 Adnoddau am ddim

Newyddion mapioRydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ysgolion a Sefydliadau Ieuenctid yn gwneud mwy o ddefnydd o’n mapiau. Newyddion mapio

 Darllenwch erthyglau ar-lein o Newyddion mapio, cylchgrawn addysgol y mae’r Arolwg Ordnans yn ei gyhoeddi’n rhad ac am ddim ddwywaith y flwyddyn. Mae hwn yn llawn o wybodaeth a chyngor defnyddiol.

Newyddion mapio