Neidio:
Arolwg Ordnans – asiantaeth mapio cenedlaethol Prydain Fawr
OS MasterMap yw'r enw ar ein map mwyaf manwl. Mae yn cynnig system gyfeirio swyddogol, gyson a chynaledig o bob nodwedd ar dirlun Prydain, yn amrywio o goedwigoedd, ffyrdd ac afonydd, i dai a gerddi unigol.
Mae’r wybodaeth ar gyfer y mapio yma yn deillio o’n Cronfa Data Topograffig Genedlaethol (NTD) – ein prif fap swyddogol o Brydain. Yn hytrach na chynrychioli nodweddion megis adeiladau, caeau a dyfrffyrdd trwy ddefnyddio’r pwyntiau a’r llinellau traddodiadol, mae OS MasterMap yn cynnig data polygon sydd yn dangos nodweddion tirwedd Prydain Fawr fel gwrthrychau yn eu rhinwedd eu hunain. Mae gan bob nodwedd unigol ei TOID™ ein hun (sef dynodwr topograffig unigryw ag 16 digid) sydd yn hwb arwyddocaol i’r gwaith o ddadansoddi a rhannu data. Mae oddeutu 400 miliwn o nodweddion wedi cael y dynodwr hwn a gynlluniwyd i integreiddio’r wybodaeth yn rhwydd i systemau gwybodaeth cyfrifiadurol. Mae TOID yn llawer mwy pwerus na chyfesuryn ar y Grid Cenedlaethol wrth ddynodi gwybodaeth am nodwedd, a rhannu gwybodaeth gysylltiedig. Gall fod yn fachyn cyffredin a geir ar unrhyw nifer o gronfeydd data o fewn gwahanol sefydliadau, a rhyngddynt. Daw buddiannau sylweddol yn ei sgîl yn y modd y mae gwybodaeth yn cael ei hintegreiddio, ei thrin, ei dadansoddi a’i chyflwyno.
Mae OS MasterMap yn cynnig y pŵer i dderbyn gwybodaeth sy’n benodol a di-fwlch pryd bynnag, lle bynnag, a sut bynnag yr ydych yn dymuno.
Mae ein partneriaid a’n cwsmeriaid yn cael budd yn sgîl costau is yn gyffredinol, mwy o hyblygrwydd â diweddariadau, a mwy o gyfle i siapio data, eu integreiddio a’u dadansoddi. Mae OS MaterMap yn hybu llywodraeth ddi-fwlch, yn cynnig cyfleoedd newydd i bartneriaid o ran geo-gyfeirio a gwasanaethau wedi’u seilio ar leoliadau, ac yn helpu cwsmeriaid busnes i wella’u cynhyrchiant a chyrraedd eu marchnadoedd yn fwy effeithiol.
Mae pedair haen o ddata ar gael gyda OS MasterMap: Tirwedd, Cyfeiriad, Rhwydwaith Trafnidiaeth Integredig a Delweddaeth, sy'n darparu fframwaith daearyddol integredig a rhyng-gysylltiol.
Mae Haen Cyfeiriadau 2 OS MasterMap (OS MasterMap Address Layer 2) yn set data awdurdodol, cynhwysfawr a chyson o gyfeiriadau gofodol cenedlaethol ar gyfer Prydain Fawr gyfan. Mae’n cynnig gwybodaeth helaeth ar dros 29 miliwn o nodweddion a safleoedd unigol, gan gynnwys cyfeiriadau amgen yn Gymraeg, enwau eraill ar adeiladau, gwrthrychau heb gyfeiriad post (fel meysydd parcio, neuaddau a chwareli), disgrifiadau o safleoedd (h.y. preswylfa, banc, safle manwerthu) a chysylltiadau i haenau eraill OS MasterMap yn ogystal â setiau data sefydliadau eraill.
Mae Haen y Cyfeiriadau yn darparu cysylltiad manwl-gywir rhwng cyfeiriad eiddo a'i wir leoliad daearyddol; rhywbeth sy'n hanfodol wrth helpu'r gwasanaethau brys i nodi ar unwaith leoliad damwain er enghraifft.
Mae rhwydwaith ffyrdd a'r wybodaeth ynghylch cyfyngiadau ar yrru yn Haen y Rhwydwaith Trafnidiaeth Integredig yn diwallu'r angen am ddata manwl-gywir a diweddar i gefnogi trafnidiaeth, telemateg a chymwysiadau gwasanaeth ar sail lleoliad.
Crëir haen Delweddaeth o awyrluniau lliw manwl iawn i ddarparu map di-fwlch o'r awyr o Brydain sy'n cyfateb yn union i ddata mapio topograffig mwyaf manwl yr Arolwg Ordnans.