Neidio:

Arolwg Ordnans – asiantaeth mapio cenedlaethol Prydain Fawr

Chwiliad safle

Datganiad i'r wasg

Hepgor:[bar cyfeiriad]

Romsey Road
SOUTHAMPTON
United Kingdom, SO16 4GU
http://www.ordnancesurvey.co.uk/media/

11 Medi 2007

Plant ysgol yn mapio’u dyfodol â chymorth yr Arolwg Ordnans

Plant ysgol yn mapio’u dyfodol â chymorth yr Arolwg Ordnans

Plant ysgol yn mapio’u dyfodol â chymorth yr Arolwg Ordnans

Llwythwch i lawr i lawr / gwyliwch fersiwn eglur uchel o'r llun uchod (2.7mb)

Mae cymorth ar gyfer cadw lluniau ar gael o'n tudalen cymorth.

Heddiw, mae’r Arolwg Ordnans yn lansio’i fenter blynyddol, sef Mapiau rhad ac am ddim i ddisgyblion 11 oed yng Nghymru a Lloegr, gan roi’r cyfle i ddegau o filoedd o blant ysgol fynd ati i ddarganfod y byd o’u cwmpas.

Cyniga’r cynllun fap Explorer yr Arolwg Ordnans ar raddfa 1:25 000 o’u hardal leol yn rhad ac am ddim i bob disgybl Blwyddyn 7 a Primary 7. Mae wedi cael ymateb ysgubol ers ei lansio yn 2002, a dosbarthwyd bron i bedwar miliwn o fapiau ledled Prydain Fawr.

Dengys astudiaethau o’r fenter ei bod wedi meithrin addysgu a dysgu daearyddiaeth yn sylweddol ac wedi ehangu dealltwriaeth a brwdfrydedd disgyblion o ran defnyddio mapiau.

Mae’n cefnogi daearyddiaeth ac astudiaethau amgylcheddol ac, ar ben hynny, mae hefyd yn helpu i annog disgyblion a’u teuluoedd i fynd allan ar grwydr i fforio’u cymuned leol. Fe’i canmolwyd gan bobl broffesiynol ym myd addysgu a chan ddisgyblion a rhieni fel ei gilydd.

“Mae’r mapiau’n helpu pobl ifanc ledled y wlad i ddatblygu sgiliau hanfodol wrth ddehongli gwybodaeth ddaearyddol”, meddai Vanessa Lawrence, Prif Gyfarwyddwr a Phrif Weithredwr yr Arolwg Ordnans. “Bydd y sgiliau yma’n eu cefnogi yn eu bywyd yn y dyfodol, boed yn edrych ar fapiau papur neu ar sgrîn gyfrifiadur.”

Gwnaeth Steve Brace, pennaeth addysg ac addysg awyr agored yn y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol y sylw, “Nid oes gwell cyflwyniad i’ch daearyddiaeth leol na map yr Arolwg Ordnans. Gallan nhw helpu i danio chwilfrydedd ynghylch y byd a fydd yn parhau ymhell y tu hwnt i wersi daearyddiaeth disgybl.”

Ychwanegodd Jane Hutt, Gweinidog Addysg Cymru, “Mae hwn yn gynllun rhagorol a fydd yn annog miloedd o blant ledled Cymru i ddarganfod hwyl a gwerth mapiau, wrth ddatblygu amrywiaeth o sgiliau a thechnegau gwerthfawr i’w helpu i fforio ein gwlad hardd”.

Eleni, anogir disgyblion i ddylunio’u symbol map eu hunain, trwy gystadleuaeth arbennig. Gallant ennill diwrnod gyda Ray Mears, y cyflwynydd teledu a’r arbenigwr ar oroesi, yn dysgu sgiliau cyfeiriannu a byw yn y gwyllt.

Mewn cystadleuaeth newydd ar gyfer athrawon, mae Ray Mears hefyd wedi cynnig gweithio gydag ysgol sy’n defnyddio’i mapiau rhad ac am ddim yn yr awyr agored. Fe fydd yn dewis ei ffefryn personol o’r holl gynigion yn disgrifio prosiectau neu ymarferion dychmygus sy’n ymwneud â’r cynllun mapiau rhad ac am ddim. Yna cysylltir â’r ysgol fuddugol i drefnu ei ymweliad.

Gwahoddir athrawon ledled Prydain i archebu’r mapiau rhad ac ddim ar ran eu disgyblion ar ddechrau tymor yr hydref. Maent ar gael i Flwyddyn 7 gan mai dyma’r adeg mae sgiliau mapio’n orfodol dan y cwricwlwm cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr a’r canllawiau cenedlaethol ar gyfer addysg yn yr Alban.

Mae’r Arolwg Ordnans yn awyddus i wneud y fenter mapiau rhad ac am ddim mor gynhwysol â phosibl. Anogir athrawon plant â nam ar eu golwg i lawrlwytho rhanfapiau rhad ac am ddim o’r un wybodaeth graddfa 1:25 000 a ddangosir ar y mapiau o wasanaeth Get-a-map ar wefan yr Arolwg Ordnans, – www.ordnancesurvey.co.uk/getamap. Mae’n hawdd cadw a mwyhau’r rhanfapiau at ddibenion addysgu.

Cafodd y cynllun mapiau rhad ac ddim ei anrhydeddu ddwywaith y llynedd gan yr elusen Busnes yn y Gymuned. Enillodd y fenter Big Tick swyddogol am arfer busnes cyfrifol ac fe gyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer Dyfarniad Buddsoddi Mewn Pobl Ifanc Merrill Lynch.

Mae gwefan yr Arolwg Ordnans ar gyfer plant – www.ordnancesurvey.co.uk/mapzone – yn chwarae rhan sy’n fwyfwy pwysig yn y cynllun mapiau rhad ac am ddim, trwy gynnig gemau a gweithgareddau rhyngweithiol ar-lein. Yn ddiweddar, enillodd wobr aur y Gymdeithas Ddaearyddol am ansawdd ei hadnodd dysgu Parth GIS.

Dengys y cynllun, ynghyd â gwaith yr Arolwg Ordnans gyda Sgowtiaid ac Arweinwyr Sgowtiaid yn unfed Jamborî ar hugain Rhyngwladol y Sgowtiaid eleni, ymrwymiad y sefydliad i addysg ac i helpu pobl o bob oed a phob gallu i wneud yn fawr o’r awyr agored.

Er mwyn manteisio ar y cynllun, rhaid i athrawon archebu erbyn 9 Tachwedd ar wefan mapiau rhad ac am ddim yr Arolwg Ordnans – www.ordnancesurvey.co.uk/freemapsfor11yearolds.

I gael mwy o wybodaeth, ffoniwch y llinell gymorth mapiau rhad ac am ddim ar 0845 337 3133.

Nodiadau i’r golygyddion:

Mae Merrill Lynch yn nod masnach cofrestredig Merrill Lynch & Co, Inc. Mae Business in the Community (Busnes yn y Gymuned) yn nod masnach Business in the Community.


Chief Press Officer - Scott Sinclair
Ebost: scott.sinclair@ordnancesurvey.co.uk
Ffôn: (+44) 023 8079 2265
Press Officer - Paula Beauchamp
Ebost: paul.beauchamp@ordnancesurvey.co.uk
Ffôn: (+44) 023 8079 2568

Ffacs swyddfa'r wasg: (+44) 023 8030 5295

Brig y dudalen