Neidio:

Arolwg Ordnans – asiantaeth mapio cenedlaethol Prydain Fawr

Chwiliad safle

Samplau o Ddata Mapio

Mae mapiau’r Arolwg Ordnans oll yn Hawlfraint y Goron©, ac fel arfer mae angen talu ffi breindal am ddefnyddio rhanfapiau mewn unrhyw gyhoeddiad.

Fodd bynnag, lluniwyd trefniadau arbennig i ganiatáu i bapurau newydd, cylchgronau a chwmnïau teledu a ffilm ddefnyddio mapiau yn rhad ac am ddim dan rai amodau, i ddarlunio deunydd golygyddol. Ceir eglurhad ar yr amodau a'r telerau sy'n caniatáu iddynt eu defnyddio yn ein llyfryn Trwydded Cyfryngau (Media Licensing).(PDF)

Gallwch wneud cais ar-lein am drwydded hawlfraint flynyddol i’r cyfryngau yn rhad ac am ddim. Mae'r manylion isod.

Cliciwch yma i gael gwybodaeth am faterion eraill sy’n ymwneud â hawlfraint.

Cysylltwch â’n Swyddfa’r Wasg i gael mwy o wybodaeth neu i gael trwydded i'r cyfryngau.

Rhif ffôn 023 8079 2251 neu anfonwch e-bost atom

Cais am drwydded hawlfraint flynyddol i’r cyfryngau

Mae holl fapiau a data’r Arolwg Ordnans yn hawlfraint y Goron©, a byddwn yn amddiffyn ein hawliau eiddo deallusol yn gadarn. Fodd bynnag, rydym wedi cyflwyno trwyddedau hawlfraint blynyddol yn rhad ac am ddim i’r cyfryngau i’w helpu yn eu gwaith.

I bapurau newydd a chylchgronau argraffedig cofrestredig a gyhoeddir o leiaf tair gwaith y flwyddyn y bydd trwyddedau o’r fath ar gael. Os yw eich cyhoeddiad yn gymwys, gallwch wneud cais am drwydded drwy gwblhau ac arwyddo’r ffurflen drosodd a’i dychwelyd atom trwy'r post neu dros y ffacs.

Mae’r trwydded 12-mis yn caniatàu ichi atgynhyrchu swm cyfyngedig o fapiau'r Arolwg Ordnans yn rhad ac am ddim i ddarlunio erthyglau golygyddol, ond nid hysbysebion. Mae’r drwydded hefyd yn cynnwys defnyddio mapiau mewn atodiadau i bapurau newydd neu gylchgronau os yw'r atodiadau hyn yn nodwedd reolaidd ymhob rhifyn ac yn cael eu cynhyrchu heb unrhyw gost ychwanegol i'r darllenwr.

Nid yw’r drwydded yn cynnwys cyhoeddiadau sefydliadau’r sector cyhoeddus, megis awdurdodau lleol ac adrannau’r llywodraeth, na llyfrau na phamffledi unrhyw gyhoeddwyr eraill.

Mae manylion yr amodau sy’n berthnasol i drwyddedau i'w gweld yn ein llyfryn 'Media Licensing'(PDF), ond ceir crynodeb ohonynt isod er cyfleustra.

Crynodeb o amodau trwyddedau blynyddol i’r cyfryngau

Mae trwydded flynyddol yn caniatáu i gyhoeddiadau gynnwys nifer gyfyngedig o ranfapiau’r Arolwg Ordnans i ddarlunio deunydd golygyddol ymhob rhifyn heb dalu breindaliadau a heb gysylltu â Swyddfa’r Wasg yr Arolwg Ordnans o flaen llaw i ofyn am ganiatâd. Ymhob rhifyn, rhaid i gyfanswm yr arwynebedd a atgynhyrchir beidio â bod yn fwy na 1,000 centimetr sgwâr (cyfwerth ag ychydig dros faint 3 x A4) ac ni ddylai unrhyw ranfap unigol fod yn fwy na A4. Rhaid i’r gydnabyddiaeth ganlynol gael ei chynnwys gyda phob un rhanfap: © Hawlfraint y Goron mapiau’r Arolwg Ordnans. AM XXX. (Dalier sylw: XXX fydd rhif eich trwydded)

Os seilir y rhanfap ar ddeunydd yr Arolwg Ordnans (hynny yw, yr AO sydd wedi cynhyrchu’r mapiau gwreiddiol neu mae’r mapiau wedi eu hail-lunio gan ddefnyddio mapiau gwreiddiol yr Arolwg Ordnans) rhaid cynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol gyda'r rhanfap: Seiliedig ar © Hawlfraint y Goron mapiau’r Arolwg Ordnans. AM XXX.

Os ydych yn atgynhyrchu mapiau sydd wedi eu cynhyrchu gan gyhoeddwr arall, ond sy'n seiliedig ar ddeunydd yr Arolwg Ordnans, rhaid ichi hefyd sicrhau cymeradwyaeth y cyhoeddwr arall. Mae’n bosibl y byddant yn codi breindal arnoch:

Pe byddech angen defnyddio mapiau ag arwynebedd mwy na'r amodau rhad ac am ddim y cytunwyd arnynt, yna fe fyddwn yn codi tâl. Mae’r manylion i’w cael yn atodiad 1 llyfryn 'Media Licensing'. Fe fydd angen ceisio caniatâd o flaen llaw a chyhoeddi trwydded ar wahân ar gyfer y defnydd penodol hwnnw. Mewn amgylchiadau o'r fath, y Ganolfan Cyswllt Cwsmeriaid, ac nid ein Swyddfa i'r Wasg, fydd eich man cyswllt.

Fe all yr Arolwg Ordnans dynnu'n ôl unrhyw drwydded ar unrhyw adeg heb rybudd os nad ydych yn cydymffurfio â’r amodau.

 Gwneud cais am drwydded

 nol i tudalenau flaen cyflwyniad hawlfraint

Brig y dudalen