Neidio:
Arolwg Ordnans – asiantaeth mapio cenedlaethol Prydain Fawr
Mae’r Arolwg Ordnans, fel asiantaeth fapio genedlaethol Prydain Fawr, yn gyfrifol am ddiweddaru a chynnal y data mapio gorau posibl ar gyfer y wlad gyfan. Mae cyfuniad o ddewiniaeth dechnolegol a sgil dynol yn sicrhau ein bod yn cyflawni’r heriau sy’n codi wrth fesur a chofnodi newidiadau yn y dirwedd gyfnewidiol a bod y canlyniadau ar gael i’r cyhoedd, i fusnesau ac i lywodraeth fel ei gilydd yn yr amser byrraf bosibl.
Pa mor gyflym y mae Prydain yn newid?
Mae’n hawdd dychmygu mai cymharol ychydig y mae’r dirwedd yn newid – ond camsyniad llwyr fyddai hynny. Er bod datblygiadau newydd o bwys fel Traffordd Dollau M6 neu adeiladau uchel eu proffil fel Senedd-dy’r Alban, yn gwbl amlwg, mae angen i’r Arolwg Ordnans gynnal arolwg o fwy na miliwn o newidiadau bob blwyddyn, a’u mapio allan ar y raddfa fanylaf un. Mae’n rhaid ychwanegu tai newydd, cyffyrdd, adeiladau diwydiannol, planhigfeydd coed a datblygiadau tebyg, ac ar yr un pryd, mae’n rhaid dileu rhai o’r nodweddion sydd ar y map ar hyn o bryd, er enghraifft, lle dymchwelwyd adeiladau, neu lle llenwyd hen chwareli. Ar gyfartaledd, ceir dim llai na 5 000 o newidiadau bob dydd i gronfa ddata mapio fanylaf yr Arolwg Ordnans, ac mae’r canlyniadau ar gael i gwsmeriaid masnachol yn gyflym iawn – erbyn y diwrnod nesaf un, weithiau.
Sut y bydd y newidiadau’n cael eu holrhain a’u cofnodi?
Mae gan yr Arolwg Ordnans oddeutu 350 o syrfewyr sydd allan yn gyson yn mesur ac yn cofnodi newidiadau o rwydwaith o swyddfeydd sy’n ymestyn o Inverness i Truro. Byddant yn defnyddio cyfarpar mesur uwch-dechnoleg i gasglu gwybodaeth, gan gynnwys y “gweithfannau cyfan” theodolit diweddaraf sydd â laserau i fesur pellteroedd a chyfrifiaduron pin llaw er mwyn gallu plotio’r newidiadau diweddaraf. Gallant gasglu manylion mor fanwl fel bod siapau’r adeiladau unigol yn eglur – hyd yn oed y ffenestri crom ar y tai. Maent hefyd yn casglu gwybodaeth hanfodol megis cyfeiriadau manwl-gywir yr eiddo, enwau strydoedd newydd, a chyfleusterau hamdden megis safleoedd picnic newydd. Mewn ardaloedd trefol byddant yn mesur y tir ar raddfa 1:1 250 – sef oddeutu 50 modfedd i’r filltir mewn mesurau Imperial, ac ar raddfa 1:2 500 yn y rhan fwyaf o ardaloedd gwledig.
Bydd y staff arolygu yn dod o hyd i leoliadau ar lefel y ddaear trwy ddefnyddio System Lleoli Byd-eang (GPS) i allu cofnodi signalau o rwydwaith o 24 o loerennau sy’n cylchdroi’r ddaear. Mae’r wybodaeth hon yn hanfodol i sicrhau bod nodweddion newydd yn cael eu mapio’n briodol mewn perthynas fanwl-gywir â datblygiadau sy’n bodoli eisoes. Cyn hynny, rhwydwaith o filoedd o orsafoedd triongliant – gan gynnwys y pileri concrid cyfarwydd ar dir uchel – oedd sylfaen lleoli cyfrifiadau, ond mae’r dull hwn bellach wedi’i ddisodli.
Mae rhaglen ddwys o ffotograffau stereosgopig o’r awyr, y gellir ei gweld mewn 3D, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, yn cyflenwi’r wybodaeth y mae staff ar y tir yn ei chasglu. Yna gellir defnyddio troshaen o ddata mapio sy’n bodoli eisoes ar y ffotograffau manwl (sy’n dangos manylion fel patrwm llinellau gwyn ar ffyrdd yn eglur) i wirio lle mae’r nodweddion wedi newid, er enghraifft lle ehangwyd adeilad, fel bod modd diweddaru’r mapiau mwyaf manwl.
Cesglir rhywfaint o wybodaeth oddi wrth ffynonellau allanol sefydledig dibynadwy hefyd, er enghraifft fe fydd awdurdodau priffyrdd lleol yn cyflenwi manylion diffiniol llwybrau cyhoeddus a hawliau tramwy eraill; bydd yr Asiantaeth Cefn Gwlad a Chyngor Cefn Gwlad Cymru yn diffinio hyd a lled y tir mynediad newydd. Hefyd, bydd llawer o gwmnïau adeiladu tai yn rhannu eu cynlluniau datblygu â’r Arolwg Ordnans fel bod modd cadw’r wybodaeth fel haen ar wahân yn y gronfa ddata i’w dilysu a’i rhoi ar waith cyn gynted ag y bydd y datblygiadau wedi’u hadeiladu.
Beth sy’n digwydd i’r holl wybodaeth a gesglir?
Anfonir yr holl wybodaeth newydd i bencadlys yr Arolwg Ordnans trwy linellau dros y tir, a chaiff ei bwydo i mewn i ddwy gronfa ddata gyfrifiadurol. Bydd pob un yn cadw data ar gyfer map electronig anferthol a thra manwl sy’n cwmpasu pob rhan o Brydain, o Ynysoedd Shetland yn y gogledd i Ynysoedd Sili yn y de, gan ddisodli’r hyn oedd ar un adeg yn 230 000 o fapiau papur ar wahân.
Mewn un cronfa ddata, mae’r wybodaeth a gedwir yn creu yr hyn yr ydym yn eu galw yn ddata Land-Line; yn yr ail system, sy’n fwy diweddar, mae wedi ei fformadu fel data OS MasterMap. Cronfa ddata chwyldroadol a soffistigedig dros ben a gwasanaeth ar-lein yw’r diwethaf, sy’n cynnwys y data mewn haenau fesul thema er mwyn i ddefnyddwyr allu dethol a dewis yr union fath a swm o wybodaeth y maent yn chwilio amdani. Cedwir mwy na 440 miliwn o nodweddion unigol yn y dirwedd, pob ty, blwch post a chae, fel darnau unigol o jig-so sy’n cydio yn ei gilydd, ac mae rhif unigryw addas i’r cyfrifiadur, sef TOID, wedi’i neilltuo ar gyfer pob un. Mae hyn yn caniatáu cysylltu data cyfrifiadurol pobl eraill yn gyflym ac yn rhwydd ag OS MasterMap i’w dadansoddi ar unwaith – offeryn hanfodol i fyd busnes a’r llywodraeth. Mae haenau newydd o wybodaeth yn cael eu hychwanegu at OS MasterMap, er enghraifft awyrluniau sy’n cyfateb yn union i’r mapiau, data sy’n darparu cyfeiriadau manwl ar gyfer mwy na 26 miliwn o adeiladau, pob un ohonynt wedi’i nodi’n fanwl yn y data mapio, a gwybodaeth integredig am drafnidiaeth sy’n cwmpasu sawl modd ar drafnidiaeth.
Sut y defnyddir y data sy’n dod yn sgîl hyn?
Mae nifer gynyddol o gwsmeriaid busnes a llywodraeth yn defnyddio gwybodaeth dra-manwl fel hyn gan fod angen fframwaith daearyddol manwl-gywir a dibynadwy i’w helpu i ddarparu gwasanaethau effeithiol ac effeithlon. Mae’r gwasanaeth gwybodaeth teithio newydd ar y we, sef Transport Direct, a dulliau manwl-gywir o ddod o hyd i safleoedd segur i adeiladu tai arnynt; adnabod ardaloedd amddifadus a chynllunio mynediad newydd i gefn gwlad; a rheoli llif y traffig mewn trefi a helpu’r heddlu i ddatgelu patrymau troseddu a dal troseddwyr i gyd yn enghreifftiau o’r defnydd a wneir ohoni yn y sector cyhoeddus. Yn y sector preifat defnyddir hi ar gyfer amrywiol weithgareddau o dargedu ymdrechion marchnata i gyfrifo risgiau yswiriant, ac o wasanaethau ffonau symudol ar sail lleoliad i systemau logisteg cyfeiriannu mewn moduron a thrafnidiaeth.
Yn fewnol, mae’r Arolwg Ordnans hefyd yn defnyddio’i wybodaeth fanylaf i’w helpu i greu a diweddaru mapiau a data ar raddfa lai, megis cyfres boblogaidd mapiau OS Explorer.
Felly sut bydd mapiau graddfa lai, fel OS Explorer, yn cael eu creu?
Gellir olrhain hanes hir mapio graddfa 1:25 000 (2½ modfedd ar y map yn gyfartal i 1 filltir ar y ddaear neu 4 cm i 1 km) i 1914. Fodd bynnag, cwta ddeng mlynedd yn ôl y cyhoeddwyd map Explorer a’i glawr oren ar y raddfa honno a hynny ar gynllun arbrofol, ac aeth llai na dwy flynedd heibio ers cwblhau casgliad cenedlaethol o 403 o fapiau Explorer yn cwmpasu pob rhan o’r wlad. (Darperir manylion hanes mapio ar y raddfa hon yn ddiweddarach yn y nodiadau briffio hyn).
Fel paentio Pont Rheilffordd Afon Forth, mae adolygu mapiau yn waith diddiwedd. Ond gan mai mapiau papur y mae miloedd o siopau yn eu cadw yw mapiau Explorer yn bennaf, da o beth yw casglu digon o wybodaeth newydd am ddalen newydd i gyfiawnhau ei hadolygu cyn disodli’r stociau mapiau. Fodd bynnag, mae gennym raglen gylchol reolaidd ar gyfer adolygu mapiau o’r fath, sef bob rhyw 4-5 mlynedd, sy’n golygu y byddai cyfartaledd o ryw ddau fap Explorer yn cael eu hadolygu bob wythnos. Wrth reswm, pe digwydd rhywbeth gwirioneddol fawr yn y cyfamser sy’n effeithio ar fapiau penodol, er enghraifft torri Traffordd Dollau M6, bydd y dalenni perthnasol yn cael eu hadolygu’n gynt.
Mae agor tir mynediad cefn gwlad newydd o ganlyniad i’r Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy yn golygu bod yr Arolwg Ordnans bellach yn y broses o adolygu 251 o fapiau Explorer ar draws Cymru a Lloegr i ddangos yr ardaloedd lle mae’r cyfleoedd newydd i gerdded yn cael eu cyflwyno. Mae hyn yn dasg anferthol, llawn her y mae angen ei chwblhau o fewn cyfnod cymharol fyr, ac mae’r Asiantaeth Cefn Gwlad a Chyngor Cefn Gwlad Cymru yn darparu talpiau o wybodaeth i’r Arolwg Ordnans wrth i’r wybodaeth ar gyfer pob rhanbarth gael ei chadarnhau gan Weinidog perthnasol y llywodraeth. Mae’r Arolwg Ordnans, trwy ychwanegu’r manylder cymhleth hwn i’r mapiau, yn manteisio ar y cyfle i gyfuno’r wybodaeth newydd â thir mynediad sy’n bodoli eisoes dan berchnogaeth cyrff fel yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, y Comisiwn Coedwigaeth a’r Ymddiriedolaeth Goedlannau, yn ogystal â rhai tirfeddianwyr eraill megis awdurdodau lleol ac awdurdodau parciau cenedlaethol. Dangosir tir mynediad o’r fath eisoes ar fapiau Explorer, ond mewn ffordd wahanol. Fe fydd y diwyg cyfunol newydd yma, arlliw melyn â ffin oren gul o’i amgylch yn dangos yr holl dir mynediad a’r holl gyfleoedd sydd ar gael i gerddwyr. Mae’r rhan fwyaf o fapiau Explorer yn cwmpasu ardal o ryw 600 cilometr sgwâr, ond mae rhai’n ddwyochrog ac yn cwmpasu ardaloedd mwy. Yn yr Arolwg Ordnans, fe fydd y data cyfrifiadurol, sef y gwaith celf electronig ar gyfer pob dalen map unigol, yn cael eu storio mewn sawl haen ar wahân. Er enghraifft, ceir haenau data unigol ar gyfer hawliau tramwy cyhoeddus, gwybodaeth i dwristiaid a chyfuchliniau ar fryniau.
Gall cartograffwyr osod y troshaenau hyn ar unrhyw gyfnod yn ystod y broses i sicrhau nad yw un math o wybodaeth yn cuddio math arall – mae hyn yn arbennig o bwysig wrth benderfynu ar leoliad testun, megis enwau lleoedd. Mae bod â llygad dda ar gyfer llunwedd yn sgil bwysig i gartograffwyr arbenigol, gan fod yn rhaid i’r cynnyrch yn y pen draw fod yn ddymunol i’r llygad yn ogystal ag yn ymarferol i’r defnyddiwr.
Oherwydd eu bod wrthi’n integreiddio symiau mawr o wybodaeth newydd o sawl ffynhonnell, yn ddogfennau papur, yn ddata cyfrifiadurol ac o bosibl yn dystiolaeth ffotograffau, mae’n rhaid i gartograffwyr fod yn sicr bod pob eitem briodol o wybodaeth newydd yn cael ei chynnwys. Gweithio fesul sgwâr trwy’r map cyfan yw’r dechneg arferol, gan ymgorffori newidiadau i bob cilometr sgwâr unigol cyn symud ymlaen. Mae tua 600 o sgwariau fel hyn ar ddalen Explorer safonol fel rheol, ac weithiau wrth gynnal adolygiad llawn o fap, mae angen sawl newid manwl ymhob sgwâr.
Mae’r ffaith fod modd chwyddo unrhyw ran o ddata’r map ar y sgrîn er mwyn gallu gwneud gwaith manwl yn electronig yn helpu’r cartograffwyr. Cyn yr oes ddigidol, byddai mapiau fel hyn yn cael eu creu â llaw gan ddefnyddio’r dechneg “ysgrifellu”. Er bod cyfrifiaduron wedi cyflymu’r broses yn fawr, ac er bod cartograffwyr yn gallu defnyddio llygoden ddigideiddio i olrhain rhai o’r manylion yn electronig o un set o fapiau papur i’r data ar y sgrîn, mae’n parhau i fod yn waith ymdrechgar dros ben, ac mae angen gallu bod yn dra manwl.
Mae’n rhaid i gartograffwyr hefyd fod yn ddetholus iawn yn yr hyn y maent yn ei ddarlunio. Er bod canllawiau llym ar yr hyn ddylai ymddangos neu na ddylai ymddangos ar fapiau’r Arolwg Ordnans ar raddfa benodol i sicrhau cysonder ar lefel genedlaethol, mae angen penderfynu yn y fan a’r lle yn aml sut y bydd gwybodaeth newydd yn cael ei dangos a ph’un a ddylid “cyffredinoli” (symleiddio) rhai nodweddion penodol fel nad yw’r map yn rhy anniben. Er enghraifft, nid yw’n bosibl i siapau manwl y tai newydd unigol fel y maent ar y mapiau graddfa fawr ymddangos ar yr un ffurf ar fapiau graddfa lai – er eglurder, mae’n rhaid cyfuno’r rhain yn flociau eiddo.
Weithiau mae angen i gartograffwyr newid y lliwiau ar y map i adlewyrchu newid yn y ffordd o ddangos nodweddion. Yn achos yr adolygiadau diweddaraf hyn o fapiau Explorer, mae’r ffordd y mae ffiniau’r Parciau Cenedlaethol yn cael eu dangos yn newid o fod yn band melyn llydan (a fyddai’n gwrthdaro â’r ardaloedd mynediad newydd ac yn drysu pethau i ddarllenwyr mapiau) i fod yn llinellau toredig tenau magenta gwan. Mae’r Parciau Cenedlaethol wedi cytuno ar yr arddull newydd hon.
Mae’n bosibl y bydd angen newidiadau i allwedd y map hefyd. Y tro yma, bydd newidiadau o’r fath yn cynnwys ychwanegu gwybodaeth newydd ynghylch tir mynediad, ac yn enwedig y cyfeiriadau ar y Rhyngrwyd y gall defnyddwyr fynd iddynt i chwilio am y cyngor diweddaraf am gau tir dros dro.
Unwaith y bydd y cartograffwyr wedi gwneud yr holl newidiadau, cynhyrchir "plotiau" (sef proflenni yn y fan a’r lle) a rhoddir unrhyw ddiwygiadau angenrheidiol ar waith i sicrhau eglurder a manwl-gywirdeb.
Yna fe fydd y mapiau’n mynd trwy broses rheoli ansawdd, felly gall staff yr Arolwg Ordnans sydd wedi cyfrannu gwybodaeth fod yn fodlon bod yr holl fanylion perthnasol wedi’u hymgorffori. Yna bydd rheolwr ansawdd penodol yn gwirio pob map i sicrhau ansawdd a chysonder rhwng y gwahanol ddalenni yn yr un gyfres. Unwaith y bydd y broses o wirio ansawdd wedi’i chwblhau fe anfonir y data cymeradwy i ddau gyfeiriad: i’w fformadu fel data electronig "di-fwlch", ac i’w hargraffu fel mapiau papur.
Yn achos y data electronig, mae’n rhaid cyfateb ymylon y gwahanol ddalenni i’w gilydd i greu yr hyn fydd i bob pwrpas yn un map mawr y gellir ei ddefnyddio mewn cymhorthion cyfeiriannu electronig, ar gyfer gwasanaethau Rhyngrwyd, ac ar gyfer mapiau cerdded OS-Select Explorer sydd wedi’u llunio â man penodol yn ganolbwynt iddynt y gellir eu harchebu trwy wefan yr Arolwg Ordnans.
Crëir delwedd o’r data ar gyfer y mapiau papur yn uniongyrchol ar blatiau argraffu mewn un o ddwy wasg fewnol fformat mawr, sef Nebiolo Colora 7000 a gwasg pum-lliw KBA Rapida 130. Mae’r olaf yn argraffu rhwng 6 000 a 9 000 o fapiau yr awr. Mae’r papur a ddefnyddir ar gyfer y mapiau yn cael ei ddewis yn arbennig ar gyfer yr Arolwg Ordnans, ac mae wedi’i ddylunio i wrthsefyll llawer mwy o blygu ac agor na sawl math mwy arferol o bapur!
Yna bydd y mapiau gwastad a ddaw oddi ar y gweisg yn cael eu plygu ar beiriannau a adeiladwyd yn arbennig i blygu mapiau, ac atodir cloriau cardfwrdd amddiffynnol, unwaith eto gan ddefnyddio cyfarpar a luniwyd yn arbennig at y diben.
Er mwyn i ddefnyddwyr adnabod y dalenni mapiau sydd wedi’u hadolygu i ddangos y wybodaeth mynediad newydd, bydd cynllun y clawr hefyd yn newid. Er y bydd y lliw oren sy’n nodweddu’r rhan fwyaf o gloriau mapiau cyfres Explorer yn cael ei gadw, ychwanegir rhes arian sy’n cyfateb i’r patrwm a ddefnyddir ar gloriau mathau eraill o fapiau graddfa-fechan yr Arolwg Ordnans. Fe fydd y cloriau newydd yn cynnwys symbol tir mynediad swyddogol yn ogystal â newid cynnil i deitl y gyfres: wrth i ddalenni gael eu diwygio, byddant yn cael eu galw yn OS Explorer Map yn hytrach na dim ond mapiau Explorer.
Unwaith y bydd y mapiau papur wedi’u cwblhau, byddant yn symud ychydig fetrau oddi yno ac yn mynd i ganolfan ddosbarthu fewnol yr Arolwg Ordnans, lle byddwn yn prosesu archebion manwerthwyr a chyfanwerthwyr o bwys. Bydd mwy na phedair miliwn o fapiau yn gadael y ganolfan bob blwyddyn. Mae oddeutu 650 o wahanol fapiau papur yng nghyfresi’r Arolwg Ordnans, a bydd y staff yn defnyddio sganwyr cod-bar i gyflymu’r broses o ddethol, pacio ac anfonebu am fapiau y mae siopau ym Mhrydain a gwledydd tramor yn eu ceisio ac sy’n gwerthu am £7.49 y ddalen fel rheol – cyfwerth â rhyw 1 geiniog y cilometr sgwâr o wybodaeth fanwl.
Agor hanes mapiau graddfa 1:25 000 ym Mhrydain.
Gellir olrhain mapiau graddfa 1:25 000 yr Arolwg Ordnans yn ôl i fapiau milwrol o rannau o Brydain a gynhyrchwyd gyntaf ym 1914, er nad oedd y rhain ar gael i’r cyhoedd.
Ym 1938, cynigiwyd y dylid cynhyrchu cyfres o fapiau cyhoeddus ar y raddfa hon “ar gyfer darnau dethol o’r wlad” i gau’r bwlch rhwng mapiau’r Arolwg Ordnans a oedd eisoes yn bodoli ar raddfeydd un fodfedd a chwe modfedd i’r filltir (mae graddfa 1:25 000 gyfwerth â 2½ fodfedd i’r filltir, neu 4 cm i 1 km). Awgrymwyd y byddai cyfres o’r fath yn arbennig o ddefnyddiol mewn ysgolion, a phe byddai’r syniad yn boblogaidd, gellid ymestyn cwmpas y gyfres fapiau i gynnwys Prydain gyfan.
Ymddangosodd y mapiau arbrofol (neu Dros Dro) cyntaf ar y raddfa hon wedi i’r Ail Ryfel Byd ddod i ben ym 1945, a thros y blynyddoedd dilynol, cyhoeddwyd mapiau yn cwmpasu ardaloedd mawr o’r wlad. Dim ond o fewn yr 20 mlynedd diwethaf, fodd bynnag, y llwyddwyd i gwmpasu pob rhan o’r wlad ar raddfa 1:25 000, gan gynnwys rhannau mwyaf pellennig Ucheldiroedd yr Alban. Roedd y rhan fwyaf o’r mapiau gwreiddiol yn cwmpasu ardal o ddim ond 10 km wrth 10 km, sef tua chweched ran o’r ardal y mae’r rhan fwyaf o’r mapiau Explorer cyfredol yn ei chwmpasu, a bydd arbenigwyr mewn mapiau yn eu cofio fel y rhai â chloriau glas golau.
Yn ddiddorol, oherwydd nad oedd mapiau graddfa 1:25 000 yn ariannol hyfyw ar y pryd, awgrymodd pwyllgor y Llywodraeth ym 1970 y dylid rhoi’r gorau i’r cysyniad o gynhyrchu mapiau o’r fath ar gyfer pob rhan o’r wlad, ac mai dim ond y dalenni hynny oedd yn debygol o ddod ag elw y dylid eu cynhyrchu. Arweiniodd y protest a gafwyd mewn ymateb i’r awgrym dadleuol hwn gan grwpiau megis Cymdeithas y Cerddwyr at drafodaeth yn y Senedd, a thynnu’r cynnig yn ôl.
Arweiniodd ystyriaeth o’r ffyrdd o hybu diddordeb mewn mapiau graddfa 1:25 000 ar gyfer gofynion hamdden cynyddol at gyhoeddi’r map Outdoor Leisure nodedig cyntaf ar raddfa 1:25 000 ym 1972. Roedd hwn yn cwmpasu ardal Dark Peak y Peak District. Wedi hynny cyhoeddwyd Mapiau Outdoor Leisure eraill, yn canolbwyntio ar barciau cenedlaethol ac ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol.
Er mwyn gwella apêl mapiau y tu allan i’r parciau cenedlaethol, ailgynlluniwyd llawer o’r mapiau glas golau i gwmpasu dwywaith arwynebedd y tir yr oeddent yn eu cwmpasu gyntaf, a rhoddwyd cloriau gwyrdd iddynt er mwyn eu gwahaniaethu oddi wrth eu rhagflaenwyr. Hefyd rhoddwyd yr enw Pathfinder arnynt – sy’n arwyddocaol, oherwydd yng Nghymru a Lloegr, roedd y mapiau’n dangos yr holl hawliau tramwy, yn enwedig llwybrau cefn gwlad.
Cyhoeddwyd mapiau arbrofol cyntaf Explorer ym 1994, gyda phum map a gyhoeddwyd ar yr un pryd yn cwmpasu rhannau o ardaloedd y Chilterns, y Mendips a Northumberland. Ar gyfartaledd, roedd y mapiau newydd yn cwmpasu tair gwaith ardal eu rhagflaenydd, Pathfinder, ac roeddent chwe gwaith maint y rhai gwreiddiol â chloriau glas ar y raddfa hon. Roedd defnyddwyr yn cael cynnig llawer mwy o fapio am eu harian, ac fe olygodd y wybodaeth i dwristiaid a’r wybodaeth hamdden a ychwanegwyd at y mapiau yr adeg honno bod cynllunio teithiau cerdded a theithiau gweithgareddau awyr agored lawer yn haws. Dros y ddwy flynedd a hanner wedi hynny, cyhoeddwyd 26 teitl Explorer pellach ar gyfer gwahanol rannau o’r wlad, ac roedd sawl un ohonynt yn cyflwyno neu’n datblygu syniadau i roi’r mapiau ar eu newydd wedd ar brawf i weld pa mor ddefnyddiol oeddynt i’r cyhoedd.
O ganlyniad i lwyddiant anferthol y teitlau Explorer arbrofol cynnar hyn, penderfynwyd ym 1997 cwmpasu’r wlad gyfan â mapiau Explorer erbyn 2003, gan fabwysiadu set o nodweddion ac elfennau dylunio oedd yn gyffredin iddynt i gyd, er cysonder. Cwblhawyd y gyfres o fewn y cyfnod chwe blynedd, a bellach ceir 403 o wahanol fapiau ar yr un raddfa, sef 1:25 000 – â chlawr oren arbennig ar bob un ohonynt – yn dangos pob rhan o’r wlad o Ynysoedd Shetland yng ngogledd Yr Alban i Ynysoedd Sili oddi ar arfordir Cernyw.
Mae’r manylion ar bob map gyfryw fel bod pob pentrefan a phentref wedi’i fapio allan yn ogystal â ffermydd unigol ac eiddo arall. Mae muriau caeau a choedlannau wedi’u hamlygu, hynt llwybrau a thraciau, yn ogystal â phob ffordd a rheilffordd wedi’u marcio, atyniadau twristiaid a chyfleusterau hamdden wedi’u nodi, a chyfuchliniau’r bryniau wedi’u holrhain i ddangos eu huchder a’u llethr, ac erbyn hyn bydd ffiniau tir mynediad newydd a ddynodwyd gan y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy yn cael eu dangos, i ychwanegu at y tir mynediad sydd eisoes yn bodoli, dan berchnogaeth sefydliadau megis yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a’r Comisiwn Coedwigaeth.
Er mwyn osgoi dryswch parhaus ymhlith prynwyr mapiau, rhoddwyd y gorau i’r teitl Outdoor Leisure yn 2002 ac integreiddiwyd y mapiau hynny i’r gyfres Explorer ar y sail bod pob dalen wedi’i chyhoeddi ar yr un raddfa, a bod gwybodaeth debyg ar bob un. Roedd hyn yn sicrhau cyfres integredig yn cynnig mapiau a oedd yn cwmpasu pob rhan o’r wlad.
Heddiw, o’r tua 650+ o wahanol fapiau papur y mae’r Arolwg Ordnans yn eu cyhoeddi, teitlau Explorer fydd y rhan fwyaf o’r rhai ymhlith y “Deg Uchaf” yn y siartiau gwerthiant, a gwerthir hyd at 3 miliwn ohonynt bob blwyddyn.
Yn gyffredinol, bydd y gyfres gyfredol o fapiau Explorer yn adennill ei chostau, ond bydd llawer o’r teitlau llai poblogaidd yn gwneud colled, er gwaethaf poblogrwydd anferthol y gyfres gyfan ymhlith cerddwyr a’i gwerth i dirfeddianwyr a thenantiaid gwledig. Mae’r Arolwg Ordnans wedi ymrwymo i gynnal mapiau sy’n gyson eu cwmpas o bob rhan o Brydain ar y raddfa hon, fel y bydd sicrwydd map Explorer ar gael i bobl yn unrhyw ran o’r wlad, waeth pa mor bellennig ydyw.
Mapiau Explorer rhad ac am ddim i ddisgyblion 11 oed
Cyfres Explorer hefyd yw’r un a gynigir i ysgolion yr hydref yma yn pedwerydd flwyddyn menter "Mapiau Rhad ac Am Ddim i Ddisgyblion 11 oed" yr Arolwg Ordnans. Disgwylir y bydd bron i 780 000 o blant yn cael budd o dderbyn copi personol o fap OS Explorer perthnasol i’w ddefnyddio gartref ac yn yr ysgol. Yn ystod tair blynedd gyntaf y rhaglen hon, cafodd mwy na 2.3 miliwn o blant fudd o’r hyn a ddaeth i fod yn un o’r mentrau addysgol mwyaf o’i bath ym Mhrydain. Gall athrawon ymhob un o fwy na 7 000 o ysgolion yn y wlad sy’n dysgu disgyblion 11 oed hawlio’u mapiau ar ran eu disgyblion trwy gofrestru ar-lein yn www.ordnancesurvey.co.uk/freemapsfor11yearolds
Eicon dylunio
Gyda throad y mileniwm, dewisodd y Cyngor Dylunio gyfres Explorer yn un o’i gynhyrchion swyddogol ar gyfer y Mileniwm, gan ganmol ansawdd da cynllun y mapiau, yn ogystal â’r ffordd y mae’r Arolwg Ordnans wedi harneisio technoleg newydd i’w cynhyrchu.
Mynegai Mapiau a gwybodaeth ar lein
Mae Mynegai Mapiau yr Arolwg Ordnans rhad ac am ddim, sy’n dangos yr holl deitlau ac yn dangos i ba raddau y mae’r 403 o fapiau Explorer yn cwmpasu’r wlad, (ynghyd â’r holl fapiau Arolwg Ordnans eraill ar raddfa fach), ar gael i’r cyhoedd ar eu cais, trwy ffonio canolfan gwasanaeth cwsmeriaid yr Arolwg Ordnans ar 08456 05 05 04 (cyfradd galwadau lleol) neu anfon e-bost at customerservices@ordnancesurvey.co.uk. Mae fersiwn dwyieithog Cymraeg/Saesneg hefyd ar gael. Mae hefyd cyfleuster chwilio yn rhad ac am ddim a siop mapiau yn www.ordnancesurvey.co.uk.
Cynhwysir amrywiaeth o erthyglau nodwedd yn y rhestri o ddatganiadau newyddion ar y safle yma. Fodd bynnag mae erthyglau ar bynciau y gofynnir amdanynt yn fynych ar gael yn Saesneg.