Neidio:

Arolwg Ordnans – asiantaeth mapio cenedlaethol Prydain Fawr

Chwiliad safle

Mapiau OS Travel Map – Road

Mae ein mapiau Road yn ddelfrydol os ydych yn ceisio dod o hyd i’ch ffordd o amgylch rhanbarthau penodol. Felly, os ydych yn ymweld â rhywle am y tro cyntaf, gwnewch yn siwr bod gennych fap Road yn y car. Mae’r mapiau yma’n caniatáu ichi baratoi eich siwrnai o flaen llaw ac, oherwydd bod yr holl wybodaeth ar un ddalen, maent yn ddelfrydol i gyfeirio atynt pe byddech yn cymryd y tro anghywir.

Mae wyth o fapiau Road ar gael, a phob un yn cynnwys:

  • y pellter rhwng y trefi
  • detholiad o wybodaeth i dwristiaid
  • mynegai i’r holl drefi a phentrefi
  • traffyrdd, a ffyrdd A a B sy’n hawdd eu hadnabod, mewn lliwiau penodol

Mae mapiau Road hefyd yn dangos gwybodaeth gynhwysfawr ynglyn ag uchder, gan gynnwys arlliwiau arbennig i ddangos y dirwedd a chyfuchliniau. Mae hon yn nodwedd ddefnyddiol i ddangos darlun eglur o’r tir, ac fe all eich helpu i ddod o hyd i’ch ffordd.

 Prynwch y map yma nawr ar-lein

Brig y dudalen