Neidio:
Arolwg Ordnans – asiantaeth mapio cenedlaethol Prydain Fawr
Ystyr mapiau hanesyddol yw mapiau sydd wedi cael eu disodli bellach. Mae gan yr Arolwg Ordnans archif sylweddol o fapiau Hanesyddol, yn dyddio o ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg gan gynnig ystod llawn o raddfeydd o 1:500 i 1:625 000 ar Gyfres y Siroedd a llinellau taflen y Grid Cenedlaethol.
O'r archif hwn, gellir cynhyrchu copïau du a gwyn unigol ar bapur siart o ansawdd uchel neu ffilm, gan ddibynnu ar eich angen.
Mae'r Arolwg Ordnans yn gyfrifol am gynnal archif helaeth o bron i filiwn o fapiau hanesyddol a mapiau a ddisodlwyd erbyn hyn, gan ddyddio'n ôl i gyfnod sefydlu'r Arolwg Ordnans ddwy ganrif yn ôl, gan gynnwys y map cyntaf a argraffwyd ganddo – Swydd Caint – a argraffwyd ym 1801. Gall y cyhoedd brynu copïau o'r mapiau yn y casgliad helaeth, trwy rwydwaith cenedlaethol o Asiantiaid Options yr Arolwg Ordnans. Hyd yn ddiweddar, nid oedd y casgliad mor gynhwysfawr ag y gallai fod oherwydd y tân yn Nhŵr Llundain ym 1841 a'r cyrch awyr yn ystod y rhyfel ar Southampton ym 1940, a wnaeth ddinistrio rhai mapiau. Rydym wedi cywiro pethau erbyn hyn trwy sicrhau copïau o'r rhai oedd ar goll, trwy gymorth ffynonellau archif eraill.
Mae'r Arolwg Ordnans yn cydweithio â Grŵp Landmark i drosi ei fapiau hanesyddol graddfa fawr i ffurf gyfrifiadurol, ac yn eu gwerthu ar ffurf data rhastr ar CD-ROM. Mae'r prosiect hwn ar fin cael ei gwblhau, ac mae data ar gyfer y mapiau cyn cyfnod yr ail ryfel byd eisoes ar gael trwy gyfrwng Landmark.
Mae Archif mapiau un fodfedd (1") yr Arolwg Ordnans wrth law.
Yr Arolwg Ordnans sy’n cynhyrchu’r mapiau hyn, ac maent yn ffordd ddelfrydol o ddod i wybod mwy am eich hanes. Efallai eich bod am weld sut le oedd eich tref neu'ch pentref, efallai yr hoffech chi weld lle roedd eich teulu'n byw, neu eich ardal enedigol chi neu eich rhieni.
Diwygiwyd a chyhoeddwyd mapiau’r 3ydd Argraffiad un fodfedd (1") Archif yr Arolwg Ordnans yn y cyfnod rhwng 1900 a 1918.
Dyma’r tro cyntaf i’r wlad gyfan gael ei chynnwys mewn arolwg 1" llawn, gan mai rhai rhannol yn unig oedd yr Argraffiad cyntaf a'r ail Argraffiad.
Enwir y gyfres ar ôl y raddfa, 1" i’r filltir neu 1:63,360, a'r rhain yw fersiynau cynnar Mapiau OS Landranger heddiw.
Mae’r Arolwg Ordnans wedi bod yn mapio Prydain Fawr am dros 200 o flynyddoedd, ac mae ganddo gasgliad enfawr o fapiau hen a newydd. Hyd yma, fe fu’r mapiau hyn yn y storfa, a dim ond llond dwrn o bobl fu â mynediad iddynt. Rydym bellach yn rhyddhau casgliad mapiau Archif yr Arolwg Ordnans, gan ddechrau â 3ydd argraffiad y gyfres 1". Mae’r mapiau 1" hyn yn hawdd ac yn syml eu harchebu a'u gwneud, felly maent yn ddelfrydol i'w mowntio fel darn addurniadol neu fel cofrodd ac atgof o'r gorffennol.
Archebu mapiau hanesyddol 1"