Neidio:
Arolwg Ordnans – asiantaeth mapio cenedlaethol Prydain Fawr
Mae’r Arolwg Ordnans yn gobeithio helaethu’r gwasanaethau sydd ar gael i Addysg Bellach. Mae’n edrych ar y posibilrwydd o ymestyn y gwasanaeth data digidol (Digimap) sydd eisoes ar gael i Addysg Uwch. Fe fydd yn rhoi cynllun arbrofol ar waith ar chwe safle AB yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf.
Mae manylion Digimap, y gwasanaeth i Addysg Uwch sy’n seiliedig ar danysgrifiadau, ar gael yn y fan yma. Safleoedd Addysg bellach sy’n ymwneud â’r cynllun arbrofol yw’r unig rai sy’n gallu cyrchu’r data ar hyn o bryd. Fe fydd y cyswllt yma’n cael ei ddarparu i Sefydliadau Addysg Bellach er mwyn iddynt gael gwybodaeth am y cynllun.
Mwy
Cyfle i ddysgu am y samplau data sydd ar gael i Addysg Bellach ac i weld ein hamrywiaeth llawn o ddata digidol masnachol.
Mwy
Mae defnyddio data mapio’r Arolwg Ordnans mewn Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) wedi trawsnewid y ffordd y mae gwasanaethau busnes a gwasanaethau cyhoeddus yn mynd ati i benderfynu ar rywbeth. Mae’r ffeiliau GIS yn barth dysgu rhyngweithiol sy’n dweud popeth wrthych am y dechnoleg newydd gyffrous yma.
Mwy
Gallwch ddod o hyd i’r map cywir at eich dibenion addysgol a manylion ein Cyflenwr Deunydd Addysgol cymeradwy.
Mwy
Llwythwch i lawr gopi o’n llyfryn 'Reproduction of Ordnance Survey mapping for educational purposes' yma. (Dylai defnyddwyr gwasanaethau Digimap gyfeirio at safle Edina os oes ganddynt gwestiynau sy’n ymwneud â’r gwasanaeth yma).
Mwy