Neidio:
Arolwg Ordnans – asiantaeth mapio cenedlaethol Prydain Fawr
Sut i gyrraedd swyddfeydd yr Arolwg OrdnansSut i gyrraedd pencadlys yr Arolwg Ordnans yn Southampton. Mae swyddfeydd hefyd ar draws Cymru a gweddill Prydain, os am gyfarwyddiadau ar sut i gyrraedd y swyddfeydd yma cliciwch ar y cysylltiad.
Llyfrgell o adroddiadauLlyfrgell o adroddiadau, papurau a dogfennau gan yr Arolwg Ordnans, gan gynnwys ein Cynllun Iaith Gymraeg.
Gwerthu i niPwrpas y ganllaw yma yw darparu gwybodaeth am ein polisi a’n gweithdrefnau caffael, amrywiaeth y nwyddau a’r gwasanaethau rydym yn eu prynu, a man cyswllt ar gyfer gwybodaeth bellach.
Mae ystod o reoliadau a deddfwriaeth yn berthnasol i’n gweithgareddau masnachu, gan gynnwys Cynllun Masnachwr Gwybodaeth Teg; rydym wedi ymrwymo i gydymffurfio â'u hamryw ddarpariaethau. Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am y pynciau hyn a'n polisïau ni yn eu cylch.

Ar y cyd â'n partneriaid, rydym yn awyddus i fod yn ddewis darparwr gwybodaeth am leoliadau yn yr economi gwybodaeth newydd.
Er mwyn gwireddu’r weledigaeth dan sylw, rydym yn newid ein ffordd o weithio ac yn trawsffurfio’r gwasanaethau rydym yn eu cynnig i’n cwsmeriaid.
Wrth gwrs, mae angen inni wneud hyn er mwyn diogelu ein dyfodol fel sefydliad mapio mwyaf blaenllaw y byd. Ond fe fydd un peth yn parhau i fod yn gwbl gyson, sef pwysigrwydd gwasanaethu ein cwsmeriaid, a’u gwasanaethu’n dda.
Dyna pam fod gennym ymrwymiad o hyd i ymgynghori â’n defnyddwyr, i wrando ar eich sylwadau ac i weithredu darganfyddiadau sy’n codi o ganlyniad i’n harolygon rheolaidd o foddhad cwsmeriaid.
Helpwch ni i’ch helpu chi trwy ddweud wrthym beth yw’ch barn ar ein gwasanaethau.
Vanessa V Lawrence
Prif Gyfarwyddwr a Phrif Weithredwr
Vanessa V Lawrence, Director General and Chief Executive