Neidio:

Arolwg Ordnans – asiantaeth mapio cenedlaethol Prydain Fawr

Llywodraeth

Portffolio Cynhyrchion i’r Llywodraeth Gyfan

Cwblhawyd cytundeb â’r llywodraeth ganolog i alluogi amrywiaeth eang iawn o adrannau ac asiantaethau’r llywodraeth i gyrchu data mapiau digidol yr Arolwg Ordnans. Dyma gam pwysig ymlaen yn yr ymgyrch i greu llywodraeth ddi-fwlch, a'n helpu i gyrraedd y targed ar gyfer cyflenwi gwybodaeth ar-lein i'r sector cyhoeddus drwyddo draw.

Mae’r cam yma’n golygu bod ein cwsmeriaid presennol yn gallu cyrchu amrywiaeth estynedig o fapiau digidol a chynhyrchion lleoliad, ac mae’n cynnig hyblygrwydd mwy fyth o ran y gwahanol ffyrdd y gallant eu defnyddio. Yn achos cwsmeriaid newydd yn y llywodraeth, mae’r cytundeb yn golygu eu bod yn gallu cyrchu data’r Arolwg Ordnans ar unwaith i'w helpu i fod yn fwy effeithlon ac i wella'u gwasanaethau.

Y mae’r rhai s’yn arwyddo’r cytundeb yn gallu defnyddio ein data ar gyfer busnes mewnol, ar gyfer llawer o wasanaethau sy’n darparu gwybodaeth i ddinasyddion, ac mewn negeseuon e-bost, adroddiadau a chyflwyniadau i garfanau eraill. Mae’n cyflenwi’r gallu I rannu data â phawb arall yn y llywodraeth.

Mae’r portffolio hwn yn cynnwys amrywiaeth o ddata daearyddol; o set data gyflawn o’r ffyrdd ym Mhrydain Fawr i leoliad bob tþ y mae modd cael cyfeiriad ar ei gyfer, mae ein hamrediad cynhwysfawr o gynhyrchion yn cefnogi llawer o wasanaethau cyhoeddus hanfodol. Mae meysydd atal trosedd, rheoli tir, cynllunio trafnidiaeth, adfywio trefi a llawer o agweddau ar ddadansoddi a chynllunio oll yn dibynnu ar y sail ddaearyddol gadarn rydym yn ei darparu. Mae hefyd yn cynnwys OS MasterMap y mapiau swyddogol mwyaf deallus rydym wedi eu creu erioed, gan eich galluogi ardranau o’r llywodraeth i ymuno â’r chwyldro technegol ym maes gwybodaeth ddaearyddol.

Gobeithir ddatblygu’r prosiect yma yn y dyfodol, gan ddarparu manteision tymor hir i gymuned gyfan y llywodraeth.

 

Mwy o wybodaeth

 

Mae pobpeth yn digwydd rhywle

I ddarganfod fwy am fanteision gwybodaeth daearyddol, cipiwch fewn i wefan thepowerofgeography.com

Brig y dudalen