Neidio:

Arolwg Ordnans – asiantaeth mapio cenedlaethol Prydain Fawr

  • Big Ben
  • OS MasterMap
  • Apple

Cyflenwi data mapio i byd busnes a llywodraeth

Os meddyliwch am fapiau, mae’n siŵr y byddwch hefyd yn meddwl am yr Arolwg Ordnans. Mae asiantaeth mapio genedlaethol Prydain yn dwyn i gof mapiau papur sydd ag enw da ledled y byd. Erbyn heddiw, data cyfrifiadurol yw rhan fwyaf o fusnes yr Arolwg Ordnans – a’r mapio digidol yma sy’n trawsnewid bywyd pob dydd i filiynau o bobl. Yn wir, mae arbenigwyr annibynnol yn dweud bod mapiau’r Arolwg Ordnans eisoes yn cynnal gwerth tua £100 biliwn o weithgaredd economaidd Prydain, ac fe fydd gwybodaeth lleoli yn chwarae rhan hyd yn oed mwy hanfodol yn yr economi newydd.

Os mae gwybodaeth daearyddol yn bwysig i’ch busnes, darganfyddwch sut gallwn eich helpu.

partnersMae gennym rwydwaith helaeth o bartneriaid sy'n defnyddio'u harbenigedd, eu sgiliau a'u gwybodaeth i ychwanegu gwerth at ein data trwy greu cymwysiadau a datrysiadau ar gyfer amrediad eang o fusnesau a marchnadoedd cwsmeriaid.

Rydym yn gweithio gyda'n partneriaid  i gyflenwi ystod eang o gynnyrch – o gyhoeddi llyfrau cerdded i cynhyrchu cyfarpar gwybodaeth daearyddol cymleth.  

 Partneriaid yr Arolwg Ordnans

Marchnadoedd rydym yn gwasanaethu

Defnyddir ein mapiau gan busnesau a gwasanaethau ar draws Prydain – gwybodaeth ddaearyddol ddigidol derfynol a deallus sydd o fudd i ddegau o filiynau o bobl bob dydd.

Marchnadoedd rydym yn gwasanaethu