Neidio:
Arolwg Ordnans – asiantaeth mapio cenedlaethol Prydain Fawr
Yn ogystal â’r holl drwyddedau Fframwaith a’r trwyddedau eraill rydym yn eu cynnig, mae llawer o gwsmeriaid yn parhau i ddefnyddio mapio papur at ddibenion ailddefnyddio, neu fel arall, mae ganddynt ofyniad ailddefnyddio nad yw’r trwyddedau Fframwaith yn ei gwmpasu.
Os ydych am ailddefnyddio mapio yn y modd hwn, rydym yn gweithredu system drwyddedu hyblyg ac agored er mwyn sicrhau y gallwch ddefnyddio ein cynhyrchion mapio yn llawn.
Os hoffech ddefnyddio mapio, naill ai fel busnes neu’n bersonol, mae yr hyn y byddwch yn ei wneud ag ef yn pennu’r math o drwydded y bydd arnoch ei hangen.
Os ydych yn rhedeg busnes argraffu neu fusnes siop gopïo, mae yr hyn sydd arnoch angen ei wybod yn dweud yr hyn sydd arnoch angen ei wybod er mwyn cydymffurfio â’n canllawiau hawlfraint a thrwyddedu wrth gyhoeddi neu gopïo mapio.
Os ydych yn cynrychioli ysgol, coleg neu brifysgol, ewch i’n tudalen Hawlfraint ar gyfer Addysg.
Ewch i dudalen y sector perthnasol os ydych yn cynrychioli adran llywodraeth ganolog, awdurdod lleol neu gwmni cyfleustodau.
Os ydych yn un o’n partneriaid, mae angen ichi fewngofnodi i ddod i wybod mwy am eich trefniadau hawlfraint.
Rydym yn cydnabod y caniateir defnydd penodol yn ymwneud â gweinyddiaeth gyhoeddus a ‘delio teg’ dan y gyfraith ac nad oes angen ein trwydded ar gyfer hyn. Mae Canllaw benodol i lyfrgellwyr ar gael ynghylch y telerau sy’n ymwneud â chopïo mapiau Arolwg Ordnans ar gyfer y cyhoedd pan mae’r mapiau hynny dan hawlfraint .