Neidio:
Arolwg Ordnans – asiantaeth mapio cenedlaethol Prydain Fawr
Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth (DRhG) 2000 yn cadarnhau hawliau unigolion i gael cymaint o fynediad â phosibl i wybodaeth swyddogol cyn belled â bod hyn yn gyson â budd y cyhoedd a'r angen i ddiogelu gwybodaeth gyfrinachol gyfreithlon.
Fe fydd yr Arolwg Ordnans yn sicrhau bod gwybodaeth ar gael i'r cyhoedd yn rheolaidd ynglyn â'i swyddogaethau, ei weithgareddau a'i gynlluniau. Fe fydd gwybodaeth o'r fath yn parhau i fod ar gael heb yr angen i ddefnyddio'r DRhG. O ran ein gweithgareddau ni, mae'r ganllaw hon yn dwyn sylw at y mannau lle mae gwybodaeth o'r fath i'w chael.
Bwriedir i'r DRhG ganiatáu i'r cyhoedd gael mynediad i wybodaeth y mae cyrff cyhoeddus yn ei dal nad yw ar gael fel arfer o unrhyw ffynhonnell arall. Mae rhai mathau o wybodaeth wedi'u heithrio dan DRhG, ac mae'n cynnwys gweithdrefnau penodol a chyfyngiadau amser. Mae'r rhain i'w gweld yn yr adran Sut i gyrchu gwybodaeth (How to access information).
Mae'r ganllaw hon yn darparu gwybodaeth am strwythur a gweithgareddau'r Arolwg Ordnans i'ch cynorthwyo i gyrchu gwybodaeth dan Y DRhG a thu allan iddi. Un o nodau DRhG yw y dylai awdurdodau cyhoeddus fod yn eglur ac yn rhagweithiol wrth drin y wybodaeth y byddant yn ei chyhoeddi. Mae paratoi cynlluniau cyhoeddiadau yn ganolog i hyn. Maent yn manylu ar:
Er bod y DRhG yn creu hawl gyffredinol i weld gwybodaeth, mae hefyd yn manylu ar 23 o eithriadau. Yn achos y rhan fwyaf o'r rhain, mae'n rhaid inni benderfynu a fyddwn yn diystyru'r eithriad oherwydd bod rhyddhau'r wybodaeth o fudd i'r cyhoedd. Fodd bynnag, yn achos eithriad Buddiannau Masnachol, ni fydd yr Arolwg Ordnans yn datgelu gwybodaeth a ystyrir yn fasnachol gyfrinachol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adrannau canlynol: Dosbarthiadau'r wybodaeth a ffioedd a fformatau'r dogfennau.
Ar ôl ichi chwilio'r cynllun, os nad ydych yn gallu dod o hyd i'r hyn rydych yn chwilio amdano, mae adran Sut i gyrchu gwybodaeth yn esbonio sut a lle i ofyn am eitemau nad ydynt yn rhan o'n cynllun cyhoeddiadau.
Mae'r cynllun yn cyfeirio at wybodaeth o bob math yr ydym wedi ei chyhoeddi at ddibenion mewnol ac allanol. Nid yw cyhoeddiad yn golygu deunydd argraffedig yn unig. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth ar ffurfiau eraill, fel dogfennau electronig.
Mae dosbarthiadau'r cynllun hwn wedi'u seilio ar y math o wybodaeth, a dylai hyn fod yn ystyrlon i ddefnyddwyr. Nid oes angen gwybod unrhyw beth am strwythur ein sefydliad i chwilio'r cynllun.
Dylid nodi unrhyw sylwadau, awgrymiadau neu gwynion am y cynllun hwn a'u hanfon at y Swyddog Cyswllt Diogelu Data, Yr Arolwg Ordnans, Romsey Road, SOUTHAMPTON, SO16 4GU, neu e-bost DataProtectionFreedomofInformation@ordnancesurvey.co.uk
Adran o'r llywodraeth a sefydlwyd ym 1791 yw'r Arolwg Ordnans. Mae'n gweithredu dan deddfwriaeth sy'n dyddio yn ôl i 1841. Mae'n gyfrifol am arolygu Prydain Fawr yn swyddogol ac yn derfynol ac am ei mapio yn dopograffig. Ym 1990, sefydlwyd yr Arolwg Ordnans fel Asiantaeth Weithredol ac, ar 1 Ebrill 1999, enillodd yr Arolwg Ordnans statws Cronfa Fasnachu dan ddarpariaeth Deddf Cronfeydd Masnachu'r Llywodraeth 1973, fel y'i diwygiwyd.
Mae gwefan yr Arolwg Ordnans: www.ordnancesurvey.co.uk/cymraeg yn rhoi mwy o wybodaeth ynghylch pwy ydym ni, yr hyn a wnawn a sut yr ydym yn gweithio. Ymhlith yr adroddiadau a'r papurau sydd ar gael mae adroddiadau blynyddol a'r ddogfen fframwaith sy'n manylu ar ein perthynas â'r llywodraeth ganolog, ein statws a'n hamcanion cyffredinol.