Neidio:
Arolwg Ordnans – asiantaeth mapio cenedlaethol Prydain Fawr
Er mwyn gwireddu’r weledigaeth dan sylw, rydym yn newid ein ffordd o weithio ac yn trawsffurfio’r gwasanaethau rydym yn eu cynnig i’n cwsmeriaid.
Wrth gwrs, mae angen inni wneud hyn er mwyn diogelu ein dyfodol fel sefydliad mapio mwyaf blaenllaw y byd. Ond fe fydd un peth yn parhau i fod yn gwbl gyson, sef pwysigrwydd gwasanaethu ein cwsmeriaid, a’u gwasanaethu’n dda.
Dyna pam fod gennym ymrwymiad o hyd i ymgynghori â’n defnyddwyr, i wrando ar eich sylwadau ac i weithredu darganfyddiadau sy’n codi o ganlyniad i’n harolygon rheolaidd o foddhad cwsmeriaid.
Helpwch ni i’ch helpu chi trwy ddweud wrthym beth yw’ch barn ar ein gwasanaethau.
Vanessa V Lawrence
Prif Gyfarwyddwr a Phrif Weithredwr