Neidio:

Arolwg Ordnans – asiantaeth mapio cenedlaethol Prydain Fawr

Corfforaethol

How to find us Sut i gyrraedd swyddfeydd yr Arolwg Ordnans

 Sut i gyrraedd pencadlys yr Arolwg Ordnans yn Southampton. Mae swyddfeydd hefyd ar draws Cymru a gweddill Prydain, os am gyfarwyddiadau ar sut i gyrraedd y swyddfeydd yma cliciwch ar y cysylltiad.


Reports & Papers Llyfrgell o adroddiadau

Llyfrgell o adroddiadau, papurau a dogfennau gan yr Arolwg Ordnans, gan gynnwys ein Cynllun Iaith Gymraeg.


Selling to us Gwerthu i ni

Pwrpas y ganllaw yma yw darparu gwybodaeth am ein polisi a’n gweithdrefnau caffael, amrywiaeth y nwyddau a’r gwasanaethau rydym yn eu prynu, a man cyswllt ar gyfer gwybodaeth bellach.


Briefcase 

Rhyddid gwybodaeth

Mae ystod o reoliadau a deddfwriaeth yn berthnasol i’n gweithgareddau masnachu, gan gynnwys Cynllun Masnachwr Gwybodaeth Teg; rydym wedi ymrwymo i gydymffurfio â'u hamryw ddarpariaethau. Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am y pynciau hyn a'n polisïau ni yn eu cylch.

Gwasanaethu chi

Vanessa Lawrence

Ar y cyd â'n partneriaid, rydym yn awyddus i fod yn ddewis darparwr gwybodaeth am leoliadau yn yr economi gwybodaeth newydd.

Er mwyn gwireddu’r weledigaeth dan sylw, rydym yn newid ein ffordd o weithio ac yn trawsffurfio’r gwasanaethau rydym yn eu cynnig i’n cwsmeriaid.

Wrth gwrs, mae angen inni wneud hyn er mwyn diogelu ein dyfodol fel sefydliad mapio mwyaf blaenllaw y byd. Ond fe fydd un peth yn parhau i fod yn gwbl gyson, sef pwysigrwydd gwasanaethu ein cwsmeriaid, a’u gwasanaethu’n dda.

Dyna pam fod gennym ymrwymiad o hyd i ymgynghori â’n defnyddwyr, i wrando ar eich sylwadau ac i weithredu darganfyddiadau sy’n codi o ganlyniad i’n harolygon rheolaidd o foddhad cwsmeriaid.

Helpwch ni i’ch helpu chi trwy ddweud wrthym beth yw’ch barn ar ein gwasanaethau.

Vanessa V Lawrence
Prif Gyfarwyddwr a Phrif Weithredwr

Vanessa V Lawrence, Director General and Chief Executive

Brig y dudalen