Neidio:
Arolwg Ordnans – asiantaeth mapio cenedlaethol Prydain Fawr
Mae’r Arolwg Ordnans yn cynnig cyfleon swyddi o bryd yw gilydd yn ei bencadlys yn Southampton neu yn un o’i swyddfeydd ar draws y wlad. Mae swyddfeydd maes gan yr Arolwg Ordnans yn Nghymru ym Mhorthaethwy, Llandrindod, Abertawe, Caerdydd, Caerfyrddin a Chwmbrán ac ar draws y fin yn Nghaer.
Mae’r Arolwg Ordnans yn sefydliad sy’n gwerthfawrogi ei bobl, gan gynnig oriau gwaith hyblyg, bwyty, meithrinfa a chynllun chwarae yn ystod y gwyliau ar y safle yn Southampton, lwfansau gwyliau hael a chynllun pensiwn digyfraniad. Mae’r Arolwg Ordnans yn gyflogwr cyfle cyfartal, a bydd yn trin ceisiadau yn ôl eu teilyngdod yn unig.
Mae'r Arolwg Ordnans yn cyflogi 1,490 o bobl – tua 1,167 yn Southampton a 323 arall o fewn rhwydwaith o 34 swyddfa faes leol ledled Prydain.
Ar y cyfan, lleolir y mwyafrif o'r staff sy'n gyfrifol am gasglu data a mesur tir yn y swyddfeydd lleol: maent yn cadw golwg ar unrhyw newidiadau i'r dirwedd er mwyn sicrhau bod mapiau'r Arolwg Ordnans yn parhau mor gywir ag y bo modd. Mae staff yn y pencadlys yn trosi ac yn datblygu data'r mesurwyr tir yn nwyddau ar gyfer cwsmeriaid, yn marchnata'r nwyddau hyn ac yn darparu gwasanaethau cefnogi eraill ar gyfer gwaith yr asiantaeth.
Wrth glicio yma gallwch gweld rhestr o’r swyddi sydd ar gael ar hyn o bryd gyda’r Arolwg Ordnans.