Neidio:
Arolwg Ordnans – asiantaeth mapio cenedlaethol Prydain Fawr

Lle bynnag yr ewch chi, beth bynnag y gwnewch chi, fe fydd yr Arolwg Ordnans yn gwmni i chi.
Yn amrywio o fapiau hamdden traddodiadol i ddata digidol hyblyg, mae cynhyrchion yr Arolwg Ordnans yn cysylltu pobl a busnesau â thirlun amrywiol Prydain.
Beth am ddarganfod mwy amdanom, sut rydym yn gweithio a sut y bydd ein cynhyrchion a gwasanaethau e-fusnes newydd, arloesol yn helpu’ch busnes chi i weithio’n fwy effeithiol.
Mae mae o wybodaeth ar gael yn ein adroddiad blynyddol.
Mae enw da'r Arolwg Ordnans wedi'i seilio ar ansawdd ei ddata daearyddol.
mwy ar data daearyddol
Mae data'r Arolwg Ordnans wrth wraidd amrywiaeth enfawr o wasanaethau yn y sectorau preifat a chyhoeddus.
mwy o wybodaeth
Mae partneriaeth wrth wraidd popeth a wnawn.
mwy am ein partneriaeth.
Gyda hanes profedig o arddel technoleg arloesol, rydym ar flaen y gad o ran cyflenwi data daearyddol yn benodol ar gyfer y defnyddiwr.
darganfyddwch mwy
Mae'r Arolwg Ordnans yn darparu gwybodaeth ddaearyddol ddigidol derfynol a deallus sydd o fudd i ddegau o filiynau o bobl bob dydd.
mwy o wybodaeth
Llyfryn corfforaethol ar gaelLlyfryn llawn gwybodaeth am yr Arolwg Ordnans.
Copi i'w lwytho i lawr (pdf) neu am gopi wedi'i gyhoeddi, cysylltwch â ni.

Mae'r Arolwg Ordnans wedi darparu data daearyddol manwl-gywir a dibyniadwy ers dros 200 o flynyddoedd. Erbyn heddiw, rydym yn sefydliad dynamig a modern sy'n cyflogi 1,490 o bobl. Rydym yn ymfalchïo yn ein treftadaeth gyfoethog, a hynny'n haeddiannol, ac eto rydym wedi ymrwymo i arwain y ffordd o ran arloesi technolegol. Fel arweinwyr cydnabyddedig y farchnad yn ein maes, mae ein henw yn gyfystyr ag arbenigedd mapio. Cynigwn amrywiaeth eang o gynhyrchion ar gyfer busnes a hamdden – o wybodaeth ddigidol gymleth i fapiau cerdded a mapiau ffordd Prydain Fawr.
Wrth wraidd ein sefydliad mae'r weledigaeth mai ni a'n partneriaid fydd y dewis darparwr cynnwys o ran gwybodaeth ynglŷn â lleodiadau yn yr economi gwybodaeth newydd.
Darganfyddwch mwy am yr Arolwg Ordnans
Yn dod ar ymweliad? Sut i ddod o hyd i ni | Rhywbeth i’w ddweud? Cysylltu â ni